Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

pryder

pryder

Dywedodd hefyd, Fab dyn, yr wyf yn torri ymaith y gynhaliaeth o fara o Jerwsalem; mewn pryder y byddant yn bwyta bara wrth bwysau, ac mewn braw yn yfed dŵr wrth fesur.

Chwaraeir y gêm brawf gynta rhwng Lloegr a Phacistan ddydd Iau, ac y mae pryder ynglyn â ffitrwydd Craig White Fe gollodd e seswn hyfforddi ddoe gydag anaf i'w gefn.

Cymaint oedd ein pryder wedi misoedd heb unrhyw gydnabyddiaeth o'n hymdrechion fel ein bod wedi gorfod galw am gymorth arbennig.

Gwyddwn fod rhwystrau, megis pryder, ofn, casineb, cenfigen ac anfodlonrwydd, yn gallu rhwystro'r unigolyn rhag derbyn iachâd.

Codai pryder pellach, petai'r broses adnabod anghenion o fewn y cynghorau newydd yn arwain at anwybyddu anghenion neilltuol y disgyblion a'r myfyrwyr sydd yn mynd trwy'r ddarpariaeth gyfrwng Cymraeg, trwy fod cynrychiolwyr y system honno yn y lleiafrif bob amser wrth ystyried anghenion a blaenoriaethau a'r anghenion cyfrwng Cymraeg yn cael eu gosod yn ddarostyngedig i anghenion y disgyblion a'r myfyrwyr sy'n mynd trwy'r ddarpariaeth cyfrwng Saesneg yn bennaf.

Bellach daeth arwyddocâd newydd i'r hen wyl, gyda'r pryder ynglyn â gwenwyno'r afonydd, torri fforestydd, troi tir âr yn anialwch a difa rhywiogaethau cyfain o greaduriaid.

Nid anghofiodd y wlad 'ma eira mawr Chwefror chwe blynedd yn ôl, a'r pryder a oeroedd ein gwaed y Chwefror eleni.

Achos mae'n ymddangos nid yn unig na fydd Bebb ei hun ddim yn chwarae am gryn amser ond bod pryder ar un adeg y byddai'n colli ei olwg oherwydd yr ergyd a gafodd.

Mae awduron yn y ddwy iaith yn poeni am yr un gofalon, boed y rheini'n gymdeithasol (fel diweithdra), yn fyd-eang (fel pryder niwclear), neu'n bersonol (fel plant yn tyfu i oed).

(b) Defnyddio ynni yn ychwanegol i'r 'gwasanaethau hanfodol', ond heb gynnwys ymarfer corff e.e., oherwydd pryder/gofid.

yn y cyfarfodydd adborth cadarnhawyd y teimlad hwn er na fynegwyd yr un pryder ynghylch cymraeg ail iaith ].

Mae'r ansicrwydd ynghylch cyllido yn peri pryder.

Nid oedd am fod yn achos pryder i Edward Morgan, ac ni chymerai'r byd am suro'u perthynas.

Mae geiriau Gruffydd Robert, wrth gwrs, yn enwog iawn: 'E fydd weithiau'n dostur fynghalon wrth weled llawer a anwyd ag a fagwyd im doedyd, yn ddiystr genthynt amdanaf, tan geissio ymwrthod a mi, ag ymgystlwng ag estroniaith cyn adnabod ddim honi.' A dyma Sion Dafydd Rhys yntau yn mynegi'r un pryder: 'Eithr ninheu y Cymry (mal gweision gwychion) rhai o honon' ym myned morr ddiflas, ac mor fursennaidd, ac (yn amgenach nog vn bobl arall o'r byd) mor benhoeden; ac y daw brith gywilydd arnam gynnyg adrodd a dywedud eyn hiaith eynhunain' - ac ymlaen ag ef i ddiarhebu'r cyfryw bobl mewn iaith braidd yn rhy liwgar i'w dyfynnu yn gysurus yn Hebron Clydach!

Ac weithiau meddyliaf ein bod wrth gwyno am y cam a ddioddefwn fel Plaid, megis ynglŷn â darllediadau gwleidyddol, er enghraifft, yn methu â dirnad yn llawn y bygythiad a wnawn i lawer o'r buddiannau breiniol yn Llundain, ac fe fyddai'n achos pryder mawr i mi pe na bai'r llywodraeth ganol yn ceisio llesteirio'n cynnydd.

Mae'r darlleniad o Habacuc yn lleisio'r pryder y gwyddai'r hen fyd mor dda amdano.

Ac ar y llaw arall, yr oedd ar y mwyaf o Biwritaniaid selog nid yn unig ymhlith y clerigwyr ond ymhlith yr uchelwyr hefyd nad oeddent yn colli'r un cyfle i greu pryder trwy geisio diwygio'r Eglwys.

Ond daliai'r meddyg i ddweud, "Peidiwch â magu dim ffydd", felly yn y cefndir yr oedd yr ofn a'r pryder yn parhau.

Pryder ynglyn â chrebachu'r iaith yn y cadarnleoedd, ei dirywiad fel iaith gyntaf ar yr aelwyd, ac yn y defnydd a wneir ohoni mewn cyd-destunau 'traddodiadol'; gobaith ynghylch y cynnydd yn niferoedd y bobl ifanc sy'n ei siarad, y cynnydd yn y defnydd a wneir ohoni mewn cyd-destunau newydd ac yn y cyfleoedd newydd i'w defnyddio.

Mae agwedd Elin yn parhau i beri pryder.

Testun pryder arall i GiF yw'r posibilrwydd y newidir y dull o gyllido i gontract yn hytrach na grant, ac yr ydym yn paratoi grwpiau ar gyfer y posibilrwydd hwn lle mae'r Gwasanaethau Cymdeithasol yn rhan o'r cynllun.

yn fanwl i'r ddogfen ymgynghori, gan fynegai pryder neilltuol ynglŷn â'r diffyg arian newydd ar gyfer y cynllun, a'r ffaith ein bod yn parhau i ddibynnu ar Awdurdodau Lleol am ran (ac yn y man, cwbl) o'r cyllid.

Bydd yn teimlo pryder yn yr Hydref rhag ofn bod ei dail wrth ddisgyn yn peri blinder i'r teulku drws nesaf neu'n myfyrio ar faint o arian a gâi pe torrai hi i lawr a'i gwerthu fel coed i'r saer.

Fel y gellid disgwyl, 'roedd pryder mawr ar ein haelwyd ynglyn â'r ddedfryd trannoeth.

Yn awr gellir gosod pryder Enid am ddiogelwch Geraint yn yr ymladdfa yn y cyd-destun cywir.

Dymunwn adferiad llwyr i Malcolm, a nerth i'r teulu yn eu pryder.

Mynegwn ein pryder bod Papur Ymgynghorol y Grwp Ymgynghorol wedi dewis canoli grym mewn modd gormodol, yn ein tŷb ni, gyda'r Prif Ysgrifennydd, sydd wedyn yn treiglo grym i lawr trwy'r Pwyllgor Gweithredol a'r Ysgrifenyddion at y Pwyllgor Pwnc a, dim ond wedyn, at y cyhoedd a chyrff allanol a hynny mewn modd a dybiwn ni sy'n arwynebol iawn.

Bu'r Almaen yn fodlon diarddel sofraniaeth y Deutschmark i hybu'r Ewro, ond mae'r gair 'ffederaliaeth' yn peri pryder yn Ffrainc.

Bu dau gynnig brys: un yn datgan pryder y Gymdeithas ynglyn â phapur gwyrdd y Llywodraeth ar ddarlledu digidol, sy'n fygythiad gwirioneddol i S4C; a'r ail yn condemio'r BBC am eu newidiadau diweddar i Radio Cymru sydd wedi troi'r orsaf yn wasanaeth o raglenni Saesneg wedi eu cyfieithu.

Y pryder ydy y bydd y cwmni'n cynhyrchu llai ac yn diswyddo gweithwyr yn eu gweithfeydd yng Nghymru.

(ii) Llythyr Clwb Chwaraeon Madog yn datgan pryder y byddai llinell y ffordd osgoi fwriadedig yn amharu ar eu clwb-dy.

'Rhaid i ti brofi dy hun yn ddyn, trwy deg neu trwy drais.' 'A sut y byddwch chi'n gwybod os bydda i wedi llwyddo?' Pryder ac nid dewrder a barodd iddo ofyn y cwestiwn.

Dyma oedd nod y cyfarfod - cyfle i leisio'n pryder am yr argyfwng sy'n wynebu ysgolion gwledig Cymru, a chyfle i bwyso ar y Cynulliad i ddangos arweiniad yn y maes. Y sefyllfa bresennol

Mae pryder cynyddol ynghylch y nifer cynyddol o blant sydd yn cael eu gwahardd o'r ysgolion ac na fydd darpariaeth ar eu cyfer nhw.

'Roedd pryder yn bodoli nad oedd gan awdurdodau lleol ddim digon o bwerau i reoli datblygiadau o'r math yma.

Mae'r gerdd yn trafod argyfwng ysbrydol Cymru mewn cyfnod o anwareidd-dra ac yn mynegi pryder am ddyfodol y wlad o ganol y Rhyfel.

Nid oedd yr ymchwil am hunaniaeth yn llenwi byd y sgrifenwyr Cymraeg i'r un graddau, efallai, ac eto yr oedd pryder ynghylch dyfodol Cymru yn destun cyson yng ngwaith y goreuon ohonynt hwythau, - Gwenallt a Waldo Williams, er enghraifft.

Fe bery'n destun pryder bod nifer o awdurdodau wrth ystyried ceisiadau cynllunio yn mynnu anwybyddu ystyriaethau cynllunio megis y Cynllun Strwythur.

Fodd bynnag, mae'n achos pryder i'r Cyngor Darlledu bod cyrhaeddiad a chyfran gwrandawyr BBC Radio Wales wedi gostwng flwyddyn ar ôl blwyddyn.

O sylwi'n fanylach ar sefyllfa'r Gymraeg mewn ysgolion cynradd gwledig yng Ngheredigion, sy'n nodweddiadol o rannau gwledig eraill o Gymru, gwelir effeithiau'r newidiadau a grybwyllwyd yn glir, a hynnyn sicr yn achos pryder.

Ond, nid yw eira yn dda i ddim i yrrwr car nac ychwaith i ffermwr defaid pan ddaw pryder am golli žyn cynnar yng nghanol y trwch.

Tai oedd testun y nifer ail fwyaf o gwynion ac eleni 'roedd y pryder ynglŷn â'r modd yr oedd rhai awdurdodau wedi bod yn dyrannu'r llety a oedd ar gael ganddynt.

Yr oedd yn fwy o destun pryder i Hague nag i Blair i Romsey syrthio i ddwylor Democratiaid Rhyddfrydol.

Maen nhw wedi arwyddo cynnig yn y Tŷ Cyffredin i fynegi eu pryder sylweddol a'u dychryn" at benderfyniad Comisiwn y Mileniwm i roi £29m ychwanegol i'r atyniad.

Bu'n rhaid mynd at yr Heddlu yn y Drenewydd i adrodd am y lladrad, ac wrth gwrs yn eu hofn a'u pryder dyma'r holl stori yn dod allan a'r manylion i gyd, oherwydd, erbyn hyn, eu gofid mwyaf oedd am gorff y famgu.

"Dach chi'n siŵr y byddwch chi'n iawn?" Roedd sŵn pryder yn ei llais.

Dywedodd Dr Roberts fod nifer yn peidio â mynd at eu meddygon oherwydd pryder am y driniaeth.

Pryder oedd prif nodwedd y pwyllgor ar y diwrnod hwnnw, fel arfer.

Dyna'r dynged bosib sy'n destun pryder i rai Gwyddyl craff, ac yn eu profiad mae gwers i ninnau hefyd, a gwers y mae llawer ohonom am ei dysgu.

'Roedd pryder am ei safle israddol ac am ei dyfodol.

Nid yw'r cyfryngau mor barod i ddatgan pryder y Glowyr hyn am ddyfodol eu cymdeithasau glofaol.

Mynegwyd pryder gan swyddogion Neuaddau Pentref Meirionnydd ynghylch y costau uchel o'u cynnal, trethi dwr uchel,a TAW ar danwydd.

Y mae pryder gan y Pwyllgor yngln â dyfodol y broses adnabod anghenion a blaenoriaethu rhwng y projectau angenrheidiol a ddigwydd trwy waith PDAG.

Mynegodd amryw o'r pwyllgor rhanbarth eu pryder ynglŷn â hyn oherwydd polisi uniaith Gymraeg y Mudiad.

Yn ogystal â gweithlu estron, y mae testun pryder i wledydd 'niwtral' fel Iwerddon a Norwy, mewn datblygiadau eraill.

Yr ail beth sy'n destun pryder i ni yw'r "cofrestri menywod mewn perygl" y rhoddwyd cymaint o gyhoeddusrwydd iddynt.

Mae pryder gan nifer o gwnmiau am safonau y cnau pys (peanuts) a fewnforir ar gyfer bwyd i adar gwyllt, wedi arwain at sefydlu'r Gymdeithas Safonau Bwyd Adar (y BSA), sy'n derbyn cefnogaeth a chyngor gan y Gymdeithas er Gwarchod Adar a'r Ymddiriedolaeth Adareg Bryneinig.

Y pryder yw y byddai hynny'n gwanhau'r ddau'r glwb presennol.

Oherwydd bod disgyblaeth a hyfforddiant mewn llu mawr o eglwysi wedi pallu, y mae anwybodaeth yr aelodau am gynnwys y Beibl a hanfodion y Ffydd yn achos pryder mawr.

wrth drafod y profion darllen ac ysgrifennu, mynegwyd pryder fod argraffu profion mewn pedwar lliw ar gyfer pedair haen yn tynnu sylw anffodus at asesiadau nad ydynt eto yn wybyddus i'r disgyblion.

galwasant a galwasant, a 'u pryder yn graddol droi 'n ddychryn, a 'u lleisiau 'n mynd yn sgrech, a 'r tri 'n rhedeg i fyny ac i lawr y lan gan chwilio yma a chwilio acw, ond yn gwybod yn dda y gallai llifeiriant gwyllt fel hwn daflu ffred a 'i gludo ymaith mewn chwinciad.

Ein pryder am ddiboblogi, yr iaith ac economi'r ardal oedd y tu ôl i'n hawgrym.

Cynigiwyd ein bod yn anfon at y Caernarfon and Denbigh yn mynegi ein pryder am y penderfyniad, ac yn gofyn am gael cynnwys ein hadroddiadau yn Gymraeg.

Achos Pryder

Ac fe ddiflannodd pryder gwyr y llwyth ynghylch unrhyw gysylltiad a allai fod rhwng Hadad a'r gwragedd bron yn gyfan gwbl, gan na ddangosai unrhyw ddiddordeb ynddynt.

Dim pryder ar wahân i nosweithiau rhy rewllyd cefn gaea a haul rhy boeth canol ha.