Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

pryderi

pryderi

Creodd Gwydion geffylau, cŵn a chyfrwyau drwy hud a lledrith er mwyn twyllo Pryderi a dwyn ei foch.

Mae'n bosibl, felly, nad oedd Pwyll yn adnabyddus arbennig, neu nad oedd yn hysbys fel tad Pryderi.

Bradycha ymddiried Math a Phryderi, mae'n creu rhyfel rhwng Dyfed a Gwynedd lle collir bywydau lawer, a lleddir Pryderi gan Wydion ei hun, - hyn oll er mwyn bodloni chwant Gilfaethwy.

Mae awdurdod Pendaran Dyfed ym mater enwi'r bachgen yn amlwg, a chan fod Teyrnon a Phendaran Dyfed ill dau'n cael meithrin y bachgen, mae'n debyg fod cysylltiad arbennig rhwng Pryderi a Phendaran Dyfed.

Datblyga Pryderi'n ŵr hael a charedig, gŵr sydd weithiau'n adlewyrchu balchder a thuedd i weithredu'n fyrbwyll yr hen drefn, ond eto gŵr dewr a chywir sy'n barod i roi ei fywyd ei hun er mwyn diogelu ei bobl.

Sylwyd eisoes gan W J Gruffydd a'r Dr Bromwich nad Pwyll ond Pendaran Dyfed oedd tad gwreiddiol Pryderi, ac fe ddengys y Dr Bromwich nad yw'r beirdd yn talu llawer o sylw i'r un tad na'r llall.

Saif Pryderi yn nes at yr hen drefn, a Rhiannon yn nes eto.