Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

pryderu

pryderu

Pryderu rhag ofn iddi hi wrthod mynd ato'n ôl.

Ond mae'r pleidleiswyr yn yr Almaen ac yn Awstria yn pryderu am weithlu dwyrain Ewrop, ac aros am ail wynt y mae'r broses ehangu bellach.

Roedd - - yn pryderu fod drysau yn agor yn Lloegr i gwmniau annibynnol nad ydynt yn agor yng Nghymru ac fod tan-gapitaleiddio yn mynd ymlaen yn y sector oherwydd Ffioedd Rheoli isel.

Wedi fy arswydo gan dlodi difenwol fy mhobl sy'n byw mewn gwlad gyfoethog; wedi fy nhrallodi gan y modd y cawsant eu hymylu yn wleidyddol a'u mygu yn economaidd; wedi fy nghynddeiriogi oherwydd y difrod wnaed i'w tir, eu hetifeddiaeth gain; yn pryderu tros eu hawl i fyw ac i fywyd gweddus, ac yn benderfynol o weld cyflwyno trefn deg a democrataidd drwy'r wlad yn gyfan, un fydd yn amddiffyn pawb a phob grwp ethnig gan roi i bob un ohonom hawl ddilys i fywyd gwâr, cysegrais fy adnoddau deallusol a materol, fy mywyd, i achos yr wyf yn credu'n angerddol ynddo, ac ni fynnaf gael fy nychryn na'm blacmêlio rhag cadw at yr argyhoeddiad hwn.

Penderfynodd nifer o unigolion sy'n pryderu am ddyfodol y Gymraeg ddatgan eu bwriad i sefydlu grwp newydd i ymgyrchu dros y Gymraeg yn ei chadarnleoedd.

Go brin bod angen eich diflasu chi â manylion am y daith bum awr ond wedi cyrraedd arfordir y gogledd dyma ddechrau pryderu tipyn bach.

Wrth iddo gael swydd Is-Ysgrifennydd yn y Swyddfa Gymreig, roedd yna rai ohonyn nhw'n pryderu ynglŷn â chyd-weithredu ag o.

Maen nhw'n pryderu fod cryfder y bunt yn ei gwneud hi'n anodd i werthu dur i wledydd tramor a bod eu dyfodol yn edrych yn ddu.

Erbyn iddynt fwyta eu sosej a'u sglodion a'u hufen iâ bob tamaid a mynd i'r lle chwech efo Owain ac i'r ystafell newid clytiau efo Guto, roedd awr a hanner wedi mynd heibio er pan adawsant y car, ac yr oedd Carol ar bigau'r drain yn poeni am Emyr ar ei ben ei hun yn tŷ yn pryderu amdanynt hwythau.

Nid oedd rhaid pryderu am lanw'r pulpud a'r weinidogaeth - roedd y rhai ifainc ar gael i godi baner y Ffydd a'i chario ar flaen y gad.

Ninnau'n byw ar dyddyn bychan cyfagos byddai Mam yn pryderu am y sbloetiau peryglus hyn.