Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

prydferth

prydferth

Parsel hyfryd a thaclus yw'r cyfnod prydferth o'r flwyddyn rhwng mawrth a Mehefin, pryd y byddaf yn datod y llinynnau ac yn cael pleser o bysgota brithyll mewn llyn, afon a chronfa...

Er dirfawr fraw i chi maen nhw'n lladd y morloi bach trwy eu bwrw nhw â phastynau, wedyn maen nhw'n blingo eu cotiau prydferth i ffwrdd.

Cawsom hyd i'r tŷ aros mewn lle prydferth wrth odre rhaeadr anferth gyda golygfa odidog ar draws Karamoja.

Roedd adeiladau hen, prydferth, y dref yn adlewyrchu haul y bore ac roedd arogleuon deniadol coffi ffres yn yr aer.

Ymlaen a ni trwy ardaloedd prydferth Bohemia.

Rhaid pwysleisio bod rhai o'r llongau hwyliau mwyaf prydferth a welodd dyn erioed.

Roedd blodau prydferth ar bob sil ffenestr ac agorwyd yr eglwys gan bregethwr gwâdd o Lundain.

Yn y parc bychan prydferth ynghanol y ddinas, roedd cerrig bedd unwaith eto - talpiau o farmor gloyw i gofio'r pedwar a fu farw yn ystod eu hymrafael hwythau.

Yr oedd ein dillad mor amryliw a siaced fraith Joseph' gan amled y clytiau oedd arnynt....Ond yr oeddym yn 'wyn ein byd,' ac yn ddiarwybod i ni ein hunain, yn ystorio argraffiadau oeddynt i fid yn weledigaethau hynaws, prydferth, ymhen llawer o ddyddiau ac wedi i ni ymwasgaru ar hyd a lled y byd.

Ei hiraeth am weld sylweddoli'r uno hwn ar raddfa fawr sy'n ysbrydoli ei benillion prydferth,

Er eu bod ar eu gwyliau nawr mewn ffordd, am na allai neb tu allan i'r gwerddonau fforddio talu am eu gwasanaethau, nid oeddent yn esgeuluso'u cyrff na'u wynebau prydferth.