Y mae un mater arall y dylid ei nodi ynglŷn ag agwedd Alun Llywelyn- Williams at swydd y prydydd: y mae hi'n gwbl wahanol i swydd yr ysgolhaig.
Canmol a chlodfori a gwneuthur clod a llawenydd a gogoniant oedd moes ddiwers y prydydd.
Yn wir, ychydig iawn o son o gwbl a geir am Forgannwg yng ngwaith y Gogynfeirdd hyd at gwymp y Llyw Olaf, ac eithriad llwyr yw awdl foliant Prydydd y Moch i Wenllian ferch Hywel o Gaerllion tua diwedd y ddeuddegfed ganrif.
Ond yr oedd un prydydd pur nodedig yn canu yn nyffryn Aman yn ystod chwarter olaf y bedwaredd ganrif ar bymtheg a oedd yn un o'r ychydig Gymry a fu byw ar gynnyrch ei awen, sef William Owen (Gwilym Meudwy; Gwilym Glan Llwchwr; Professor Owen).
'Prydydd a'i geilw paradwys'; 'Cyntedd gwin a medd ym yw' 'Lle seinia lliaws annerch'.
Y mae'n amlwg fod nodi beth yw priod waith y prydydd a'r artist yn fater o bwys mawr i Alun Llywelyn-Williams yn y tridegau, ac wedyn.