Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

prynhawn

prynhawn

Ddydd Gwener, a hithau'n boeth, roedd y drysau a'r ffenestri ar agor ac mae'r brif fynedfa ar agor i ymwelwyr rhwng dau a chwech y prynhawn a rhwng saith ac wyth i dadau.

Sgoriodd Matthew Elliott 62 i Forgannwg - sgôr uchaf y batiad, ac yn ystod y prynhawn fe gafodd y batiwr agoriadol o Awstralia ei gap gan Matthew Maynard.

Bu chwarae caled y prynhawn hwnnw, â'r bachwyr yn weddol gyfartal.

Ni wireddwyd gobeithion Caerdydd am eu blaenwyr 'chwaith, gan i Delme Thomas godi'n uwch~nag erioed yn y llinelle y prynhawn hwnnw.

Deallwn i wyl Seilo gael cyfarfod y prynhawn i'r plant, eitha' llewyrchus ond braidd yn denau mewn cynulleidfa a chystadlu oedd cyfarfod yr hwyr.

Ond i mi, os oes hafal y goleuni glasfelyn sy'n ffrydio trwy'r Engadin o'r gorllewin ddiwedd prynhawn dros aber a moryd Afon Mawddach y daw hwnnw.

Yn ôl trefn yr ardal byddai'r pregethwr yng nghapel Berffro yn y bore, capel Beulah yn y prynhawn ac yn Berffro eto yn y nos.

Pan es i lawr yr ardd ddoe mi welais fod pethau'n dechrau rhyw ymsymud o'u trwmgwsg fel y goeden Forsythia a oedd yn gawod o flodau melyn a'r rheini yn disgleirio yn haul oer y prynhawn.

Pe deuai gwybodaeth am ddamwain mewn pwll glo, dyweder, mor ddiweddar â phump o'r gloch y prynhawn, fe âi'r tîm newyddion ati ar amrant i ganfod peth o gefndir y lofa, yn ogystal ag anfon uned ffilmio allan ar unwaith.

Bydd yn chwarae Stephen Hendry y prynhawn yma.

Yn y prynhawn daeth dau fyfyriwr draw i holi Kate a minnau ynglyn â gwneud rhaglen deledu ar gyfer Yiyang Education TV.

Ni theimlai'r fam ar ei chalon olchi, na gwneud dim arall, ac aeth i fyny yn y prynhawn i Twnt i'r Mynydd.

Prynhawn diddorol iawn.

Fe wellodd pethau o dipyn i beth ac erbyn canol y prynhawn yr oedd Loegr wedi cyrraedd 101 am bump.

Mae'n ddigon dof a di-arogl heddiw, ond fe ddaw'r prynhawn pan fydd pawb yn gwybod ei fod e' yna.

Yn gynnar y prynhawn hwnnw roedd Anna Cartwright yn crwydro ar hyd y marina i gyfeiriad y cwch mawr porffor.

Felly, os bydd y gêm yn cael ei chwarae, mae prynhawn anodd yn wynebu Cymru.

Gan nad oedden yn byw yn y pentref, i gapel Beulah yr awn ni yn y prynhawn.

Mae dwy gêm arall heddiw, Norwy yn erbyn Sbaen y prynhawn yma a Iwgoslafia yn erbyn Slovenia heno.

Ar ambell fore Llun gellid gweld tua dwsin o ffermwyr gyda phâr o geffylau yn disgwyl eu pedoli, a gallai rhai fod yno hyd y prynhawn.

Doedd gen i'r un syniad ar y pryd beth oedd y ffrwyth, ond wrth ei flasu y prynhawn hwnnw, a chael 'y nghyflwyno am y tro cynta i'r melwyn dwr, fe alle unrhyw un gadw'i caviar a'i siampên--ar yr eiliad honno, fedre dim byd melysach na brafiach fod wedi gwlychu 'ngwefuse i, ac roedd oerni a ffresni'r sudd yn adfywio ceg oedd yn boenus o sych.

Ac er na chlywasai Morfudd mo'r sgwrs, trodd y pwyllgor siaradus fesul un yn euog tua thref y prynhawn hwnnw.

Honnid y câi ein blaenwyr ni eu gwthio oddi ar Barc yr Arfau y prynhawn hwnnw, ac i sicrhau na fydde hynny'n digwydd, galwodd Carwyn a Norman ar wasanaeth R.

Disgwylir clywed y prynhawn yma fod Clwb Pêl-droed Dinas Bangor wedi arwyddo Clayton Blackmore.

Elen: Yr haul ar ffenestri'r ffrynt trwy'r prynhawn, a'r prisgau wrth gefn-tŷ yn torri'r gwynt rhew .

Fel yr adroddodd y Cyrnol Freeth mewn telegram i'r Swyddfa Gartref o'i bencadlys yng Nghaerdydd am chwarter awr wedi un yn y prynhawn:

'Yr wyf yn cofio yn dda un prynhawn Sadwrn pai yn yr haf,' meddai, 'bod fy ewythr Dafydd Caeglas, yr hwn oedd yn ddyn effro a blaenllaw iawn gydag addysg yn yr ardal, yn sefyll yn nrws yr offis ac yn cynnig fod y gweithwyr yn talu ceiniog yn y bunt at roi ysgol i'r plant.

Saesneg bob gair oedd cyfraniadau'r holl gynghorwyr eraill, ac er bod y cadeirydd yn honni bod yn 'Gymro da' ni ddaeth gair o'r heniaith dros ei wefusau y prynhawn hwnnw.

Treulio'r prynhawn yn e-bostio, a gwneud copi o gêm Scrabble ar gyfer y llyfrgell.

Daeth adref ar ddiwedd y prynhawn a darganfod ei wraig yn ei dagrau - "Be sydd cariad?" meddai yn ddiniwed.

Daeth cawod o law taranau yn y prynhawn i ddiferu'n oer i lawr gwar a thagu gwteri'r buarth â swnd a phridd.

Daeth Bedwin ar gefn camel i'r gwersyll un prynhawn mewn brys gwyllt i ddweud bod patrol yn symud yng nghyfeiriad gwarchodwyr y criw, a'i fod wedi aros, am y noswaith mae'n debyg, rai milltiroedd i ffwrdd.

Wedi inni godi pabell yn Zernez yn yr Engadin Isaf, roeddwn wedi mynd i fyny i gaban Lischana, rhyw bedair awr uwchben tref Scuol, gan obeithio esgyn Piz Lischana yn y bore: yn y gwres mawr, roedd yn well gan y teulu gael prynhawn yn y pwll nofio.

Mae Serena Williams eisoes trwodd i'r rownd gyn-derfynol ar ôl curo ei chyd-Americanes, Lisa Raymond, 6 - 2, 6 - 0, y prynhawn yma.

Ymadael yn hwyr yn y prynhawn yng nghwmni gwr cymharol ifanc o'r enw Josepho - peintiwr wrth ei alwedigaeth cyn y rhyfel, ond wedi gorfod ymuno â'r fyddin.

Ganol y prynhawn yr oedd Indiar Gorllewin wedi sgorio 140 am un gyda Sherwin Campbell a Wavell Hinds yn gyffyrddus iawn.

Cafwyd prynhawn difyr yn ei chwmni a daeth eu lluniau efo hi i'w dangos.

Wedi pregethu yn y gyntaf yn y bore, ni roddodd neb w ahoddiad iddo i gmlo, a bu raid iddo yrr.lwybro i'r eglwys arall y prynhawn, pregethu yno, a dychwelyd adre heb damaid o fwyd ers amser brecwast!

Mi gei lonydd bellach." Pan oeddwn yn cael te y prynhawn hwnnw a minnau'n ceisio ateb cwestiynau Mam ynghylch yr ysgol a chelu oddi wrthi hanes yr ymladdfa, daeth cnoc ar y drws.

Trannoeth am dri o'r gloch y prynhawn daeth llais y Prif Weinidog, Mr Neville Chamberlain, dros y radio i gyhoeddi'r newyddion drwg fod y Rhyfel rhwng Prydain a'r Almaen wedi dehcrau.

dyma fy nghar i, " meddai miguel gan gyfeirio at yr un citroe%n llwyd roedd debra wedi ei weld yn el el y prynhawn yna !

Aros y tu allan i'r orsaf hyd ddau yn y prynhawn, gan ddisgwyl cerbyd o'r gwersyll.

Bu cudyll o hofrennydd uwch ein pennau drwy'r prynhawn a'i chysgod swnllyd, symudol, yn dychryn wyn y ffridd i bob cyfeiriad cyn glanio i lyncu criw o actorion a throi porfa'r ddôl yn gryndod o nerfau.

Ond erbyn hanner dydd yr oedd yn cilio draw a daeth glaw y prynhawn i'w olchi ymaith.

Mae nawr yn bedwar o'r gloch y prynhawn.

Cofiwch ddod draw i Aberystwyth am y penwythnos i drafod a phenderfynu ar ymgyrchoedd Cymdeithas yr Iaith am y flwyddyn i ddod ac i fynychu'r rali yn y prynhawn.

Gweithio mewn warws roedd Dad a doedd o ddim yn cael dydd Sadwrn i gyd yn rhydd, dim ond y prynhawn.

Bydd y tîm dan 21 oed yn chwarae'n erbyn yr Wcrain y prynhawn yma, ac yn gobeithio rhoi terfyn ar eu record drychinebus o golli'n ddiweddar.

Ar ôl treulio prynhawn difyr, aethom allan am bryd nos efo'r myfyrwyr.

Yn ystod y prynhawn cynhaliwyd arwerthiant, yr elw tuag at gronfa'r Uned.

Rydym fel Cymdeithas am ganolbwyntio ein ymdrechion ar ymgyrchu dros Ddeddf Iaith berthnasol i'r ganrif newydd - ac i'r Gymru ifanc ddemocrataidd newydd - a dyma fydd ein prif ymgyrch eleni ac fel ymateb i'r her hon rydym yn miniogi ein trefniadaeth ac yn cychwyn ar ymgyrch y prynhawn yma.

Cyfeiriodd William Davies, hwsmon, at y sgwrs a gawsai â Siôn Elias tua hanner awr wedi dau y prynhawn hwnnw ar y ffordd rhwng Hen Dy a Thyddyn Bach.

Rhoddodd Siân Phillips fyd y seren Marlene Dietrich i'r naill ochr i chwarae rhan unigryw yn The Magicians House, sef drama prynhawn dydd Sul hudolus i blant.

Fe aeth un stori ar led ym Mogadishu am griw teledu o'r Almaen a gyrhaeddodd ganolfan fwydo un prynhawn a dechrau gosod goleuadau ymhob man.

Bydd y gêm yn ail-ddechrau am 2.30 y prynhawn yma.

Gallai ddifetha llafur blynyddoedd o weithwyr mewn un prynhawn.

'Wyt ti am weld Rick y prynhawn yma?'

I Pompei yn y prynhawn.

Unwaith bob blwyddyn, ar benwythnos y gêm ryngwladol, byddem yn mynd i Ddulyn, ac yn chwarae rygbi yn erbyn y myfyrwyr meddygol yno ar fore Sadwrn cyn mynd i weld y gêm yn y prynhawn.

Y bore yma yn Anfield mae'n frwydr rhwng Lerpwl a Leeds am y trydydd safle a'r prynhawn yma bydd Bradford - sydd ar y gwaelod - yn wynebu Charlton.

Cyfarfu ynadon y dref i drefnu iddynt hebrwng y milwyr drwy gydol y dydd; penderfynasant ymhellach gau tafarnau yng nghyffiniau'r orsaf rheilffordd am ddau o'r gloch y prynhawn, a'r gweddill yn ardaloedd eraill y dref am naw o'r gloch y nos.

Erbyn y prynhawn, fe giliodd y tonnau ac felly draw a ni hyd ehangder y traeth tua Llanddwyn.

Holltasai cwmwl glaw yn y prynhawn, ac yr oedd y glaw wedi disgyn yn genllif ar y ty nes cuddio llawr yr adeilad â llaid hyd at y migwrn.

Gwneud dipyn o waith yn y prynhawn.

"Un prynhawn fe ddaeth y ffarmwr adre o'r farchnad yn gynnar, yn gynharach nag arfer.

Aflwyddiannus byddai'r flwyddyn honno i'r sawl welai ysgyfarnog neu bioden yn croesi eu llwybr a hynny cyn deuddeg o'r gloch y prynhawn.

Y prynhawn yma mae Stevens yn chwarae Adrian Gunnell.

Yn y prynhawn, bu trafodaethau mewn grwpiau a chafwyd adroddiadau ac argymhellion gwerthfawr iawn oddi wrth y cynrychiolwyr trwy arweinyddion y grwpiau.

Fe enillan nhw gyda llond cart o geisiau prynhawn fory yn Sain Helen, ac fe gân nhw gysgu'n dawel y penwythnos yma.

Mae ei chwaer-raglen Post Prynhawn, fel yr orsaf, yn dathlu ei 21ain blwyddyn.

Dwy ffrâm arall fydd eu hangen ar y cyn-bencampwr John Higgins i guro Chris Small y prynhawn yma - mae Higgins ar y blaen o 11 ffrâm i 5.

Mae trefnwyr y Cwpan Cenedlaethol wedi gohirio cyfarfod oedd i fod i gael ei gynnal y prynhawn yma.

Cyfarfod â nifer o fyfyrwyr i drafod methodoleg yn y prynhawn.

Awgrymodd y dylai Fred wybod bod gan Mary gariad arall - rhywun o Gaerllion - a'i bod yn bwriadu cwrdd ag ef am un o'r gloch y prynhawn hwnnw, a'i fod ef (Ali) wedi rhoi decpunt iddi yn ei phoced a'i chynghori i fynd i ffwrdd i ystyried y peth.

Rali yn y prynhawn.

Ar ôl cael ei ddychryn wrth gyflwyno'i raglen gyntaf ar deledu aeth un o newyddiadurwyr mwyaf gwylaidd ein cyfnod i olygu newyddion i'r BBC Yn fuan wedi cyrraedd yno, ac yntau'r prynhawn hwnnw wedi bod yn paratoi'r newyddion Saesneg, aeth i'r stiwdio sain gyda bwletin cyflawn dan ei gesail i ganfod nad oedd y darllenydd arferol wedi cyrraedd.

Diwrnod diddorol iawn, poeth iawn, serch hynny, a chyfle i grwydro o gwmpas man strydoedd Agra ddiwedd y prynhawn, a'r tebygrwydd a rhai mannau yn y Caribi yn brigo eto, ond fod mwy o bobl hyd yn oed, llai o lawer o geir, a phob math o drafnidiaeth arall unwaith eto - beics, rickshaws, motor-beics, bysiau, ychydig iawn iawn o geir.

Clywodd yr Orsaf Achub am drafferthion y bachgen nes ymlaen yn y prynhawn.

Cychwyn o Villa Vasto am un o'r gloch yn y prynhawn, a chael fy nghludo gan Americanwr cymwynasgar bob cam i'r Autostrada;~ Yn ystod yr ymgom fer rhyngom, dywedodd ei bod yn gwbl ddealledig na châi neb o'r milwyr Americanaidd, oedd wedi bod yn ymladd yn Ewrop, ei yrru i faes y gad yn y Dwyrain Pell.~erdded am bedair milltir o Torre Annunzato hyd o fewn dwy filltir i'r mynydd.

Trannoeth, ar ôl i'r mistir fynd mor ddisymwth, allwn i ddim mynd lan nes bo' i'n hwyr y prynhawn.

Cafwyd cadarnhad y prynhawn yma mai hyfforddwr Lloegr a chyn-flaen asgellwr Caerfaddon, Andy Robinson fydd cynorthwy-ydd Graham Henry ar daith y Llewod i Awstralia yr haf nesaf.

Roedd hi'n dawel iawn y prynhawn hwn, y tawch yn cynyddu, tomenydd Elidir fel crwbanod enfawr, er efallai bod yna amryw o ddringwyr yn crafangu ar greigiau'r Glyder Fawr o gwmpas Pont y Gromlech.

siaradodd hi am ei chyfeillgarwch â betty parker ac am y tro olaf roedden nhw wedi cwrdd yn y caffe, y prynhawn pan roddodd betty yr amlen iddi hi.

Am dri o'r gloch y prynhawn dydd Gwener hwnnw, 'roeddwn i wedi trefnu cyfarfod ag Is-Olygydd llyfrau addysg William Collins.

John Morgan Jones, a wasanaethai; ac yn oedfa'r prynhawn bedyddiwyd Catherine Ann, plentyn Mr a Mrs William Jones, Parc Newydd (Mrs Annie Davies, Egryn, erbyn hyn).

Bydd Mark Williams yn chwarae Billy Snaddon yn y Bencampwriaeth Snwcer Grand Prix yn Telford y prynhawn yma.

Yn y prynhawn, dewis y ffordd hawdd a dewraf i fyny'r llethrau, sef mewn car cêbl, a'i wifrau syndod o gryf yn llusgo'r wynebau chwilfrydig a'r boliau jeli i'r entrychion.

'Roedd rhywun wedi bod yno yn ystod y nos, oherwydd nid oedd y bocsys yn yr un drefn ag y'u gadawsai y prynhawn cynt.

Ac yn y prynhawn, cynhaliwyd rali hynod lwyddiannus ILDIWCH I'R GYMRAEG.

Bydd cynrychiolwyr Clwb Pêl-droed Cwmbran yn cyfarfod swyddogion y Cwpan Cenedlaethol prynhawn yma i esbonio cyflwr y llif-oleuadau.

Daliodd Delme y cwpan yn uchel iawn ar Barc yr Arfau y prynhawn hwnnw o Ebrill a'r cwpan ar ei ffordd 'nôl i'r Strade ym mlwyddyn y dathlu.

Yr oeddwn wedi mynd i lawr yn hamddenol braf y prynhawn dydd Gwener, ac ar ôl bwcio fewn i'r gwesty yn siarad gyda ffrindiau cyn cinio ym mar y Belle View Royal Hotel ar y nos Wener heb ofal yn y byd.

Bydd mewnwr Caerdydd a Chymru, Robert Howley, yn cael prawf pelydr X ar ei arddwrn y prynhawn yma.

Prynhawn Mercher ar faes Eisteddfod Llangollen - dyna'n sicr pryd y plannwyd yr hedyn i fynd i Mallorca i gystadlu ym Mhencampwriaeth y Byd, er na wyddwn hynny ar y pryd.

Ymlacio drwy'r prynhawn, cael galwad ffôn gan y BBC eto, cyn mynd am bryd efo Pennaethiaid yr Adran Saesneg.

Mae tîm dan 21 Cymru yn wynebu eu cyfoedion o Wlad Pwyl y prynhawn yma.

Diwrnod cynnes iawn; felly eistedd ar y balconi drwy'r prynhawn yn darllen nofel Saesneg.

I Bari yn y prynhawn.

"O, mi fyddaf i'n iawn wedi ychydig o orffwys, does dim byd mawr o'i le arna i, ond mae'r ddamwain hon wedi newid pethe i mi." A dyna newydd da a newydd drwg i'r plant mewn un prynhawn - y newydd da fod Dad ar wella, ond y newydd gwaethaf oll y byddai'n rhaid iddynt adael yr ynys - eu hannwyl gartref.

Pwysodd Ditectif Ringyll Gareth Lloyd ar ymyl y cownter yn gwrando ar John Williams, y rhingyll shifft chwech o'r gloch y bore tan ddau y prynhawn, yn adrodd hanes ffrwgwd Nos Galan yn un o dafarnau'r dref.