Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

prysur

prysur

Oni bai amdano fo ni fyddai'r holl bobl yma wedi hel at ei gilydd, ac ni fyddai actorion prysur fel Lewis Olifer a Deilwen wedi trafferthu i ddod.

Gallech, fe allech ddweud bod Alun a Niclas yn llwyddo, yn prysur 'gyrraedd'.

'Roedd yn ddyn prysur iawn, yn ôl pob golwg.

'Prysur ydi hi.

Dyma Kitchener, ar ôl cyfnod prysur o arbrofi, yn gweld modd i gymodi agweddau gwahanol ar ei ymwybyddiaeth..

Mae gwasanaethau yn prysur cael eu hawtomeiddio.

Diwrnod prysur.

Ar ôl hanner awr o gael eu hysgwyd yng nghefn y fan roedd yr ewfforia'n prysur ddiflannu.

Ond, mewn gwirionedd, y mae yna resymau cryf dros ddefnyddio'r holl offer technegol sydd ar gael i helpu yn y maes addysgol hwn, sy'n prysur ddod yn bwysicach.

Yr oedd y ffrae hon braidd yn drist oherwydd yr oedd y teulu'n prysur ymsefydlu fel prif noddwyr y blaid brotestannaidd fwyaf blaengar yn Nyfed.

Mae nifer o'r mannau nythu (fel tyllau mewn hen goed) yn prysur ddiflannu ac, yn sicr, ni ellir, yn ôl pob tebyg, ddod o hyd iddyn nhw yn iard yr ysgol.

Nod uchelgeisiol yn sicr, ond nid un afrealistig o feddwl am Singapore, sydd bellach ymhell ar y blaen i Forgannwg Ganol ac sy'n prysur ddala lan â gweddill Cymru.

Ar ol gadael twnel mawr pedair milltir Alvra neu Albula, mae'r trenau prysur, prydlon yn mynd trwy saith twnel sylweddol arall wrth ddisgyn dros fil o droedfeddi i Bravuogn, gan droi o'u hamgylch eu hunain bum gwaith, y rhan amlaf y tu fewn i'r graig.

Trist meddwl fod arwynebedd y rhostir arbennig wedi ei gwtu%o efo coed, a chynllun adennill porfa yn lle mawnog o siglen, - cynefin y dylluan glustiog a'r cudyll bach yn prysur gilio ...

Ond yr oedd wedi bod yn weinidog prysur mewn eglwysi mawr am ormod o flynyddoedd i wybod faint oedd hi o'r gloch reit ar ffrynt y frwydr i'm tyb i.

'Uffar dân!' 'Roedd Lleucu'n prysur ferwi a Rhodri'n cael hwyl am ei phen.

Cymaint yr adwaith ar hyd a lled Awstralia y mae'r cwmni yn awr yn prysur dynnur posteri i lawr rhag tramgwyddo hyd yn oed fwy o ferched.

A'r un fath fyddai hi yn y tþ - dim dþr tap, rhaid oedd ei gario o'r ffynnon, a phobi a chrasu bara yn y ffwrn wal - bywyd prysur i bawb, heb amser i hel meddyliai.THOMAS BURGESS A CHARNHUANAWC

Mae hi newydd dderbyn llawdriniaeth yn Ysbyty Gwynedd ac ar hyn o bryd yn prysur wella yn Ward Enlli.

Roedd Giovanni di Marco Villani yn prysur gyrraedd pen ei dennyn.

Teimlent eu bod wedi tarfu digon ar no erbyn hyn ac yntau'n amlwg yn ddyn prysur felly dechreuodd Llio gasglu ei phethau at ei gilydd a diolch iddo am ei help.

Erbyn hynny, roedd y cwbl yn prysur droi'n hunllef o'i chwmpas, er bod popeth wedi mynd yn iawn ar y dechrau, yn ôl y cynllun a fu ganddi yn ei phen wrth ymadael.

Roedd yr haul yn disgleirio ar wydr y ffenestri mawr a deuai swn lleisiau'r morynion prysur o'r gegin.

Er bod y dyddiau'n prysur fyrhau roedd yr haul yn dal i dywynnu gwres yr haf drwy'r ffenestri.

Mae Mai yn fis prysur ond, o ddefnyddio'r amser i wneud popeth yn ei dro, ni fydd yn rhaid rhuthro o gwmpas yr ardd.

Yn olaf, dyma gyfnod o waith prysur ymhlith yr alltudion yn paratoi trosiad Saesneg newydd o'r Beibl; cyfieithiad a ddaeth yn enwog iawn fel 'Beibl Genefa% ac a fu'n fawr ei ddylanwad yn Lloegr.

Yn olaf anogaf bawb i ymuno â'r grwp ymgyrchu prysur yma.

Rhaid cofio rhain i gyd; a chyn i rhywun droi mae'n lli Awst a'r eogiaid yn rhedeg yn gyson am y llednentydd - a dyma ni wedyn hyd ganol mis Hydref yn prysur edmygu a gwerthfawrogi cynnwys parsel arall.

A dyma rai dienw oddi ar waliau yr un geudy prysur:

Mae rhai o'r dynion wedi bod yno heno ac mae'r eira'n prysur gau'r ffordd sy'n arwain at y tryciau." "Gwylwyr?" "Dau filwr," atebodd Henri, "ac maen nhw'n newid gwylwyr bob pedair awr.

O ganlyniad, mae'r swyddfa fechan ym Mhenygroes, ger Caernarfon, lle maent wedi ymgartrefu ar ôl cyfnod byr yng Nghaerdydd, yn prysur lenwi gyda gwaith papur a chasetiau.

Collwyd cysylltiad ar raddfa fawr â phobl ifainc ac erbyn hyn y mae'r plant bach yn prysur lithro allan hyd yn oed o'r hen gysylltiadau cymdeithasol a diwylliannol â'r eglwysi.

Gyda methiant y canol i greu consensws o fewn gwlad sy'n prysur ymffurfio'n rhanbarthau economaidd a diwylliannol, nid yw'n destun syndod y bydd y pleidiau rhanbarthol yn chwarae rhan allweddol yn y senedd newydd.

Gwirioneddau sydd wedi gwrthsefyll rhaib y canrifoedd yn cael eu bygwth, eu darnio au dymchwel mewn cymdeithas syn prysur fynd ai phen iddi.

Mae'n wynebu croesffordd yn ei fywyd, ei gydwybod yn dechrau ei boeni ynglŷn â digonedd ei deulu, ond yn bwysicach fyth mae wedi syrffedu ar y syniad o fyw fel gwr bonheddig, ac mae ei gariad at Lisabeth yn prysur oeri.

Roedd he'n prysur droi'n niwsans glân.

Dyma'r ail noson RAP I'w chynnal ac mae'n prysur dyfu i fod yn ddigwyddiad cyffrous a phwysig iawn yng nghalendr y Sîn Roc yng Nghymru.

Roedd ~edi esgeuluso i gorff cyhyd a gwelodd ei fod yn prysur ladd ei un.

Dilynodd Mair hi i mewn i'r adeilad ac at y ddesg lle'r oedd gwraig ganol oed yn prysur roi trefn ar gardiau mewn bocs.

Y mae'n anodd credu nad oedd y canser, a oedd yn prysur gydio yn ei ymysgaroedd, hefyd wedi effeithio ar ei iechyd yn gyffredinol ac wedi pylu ei gyneddfau beirniadol dros y misoedd hyn.

"Rydw' i'n ddigon prysur rŵan," meddwn i, ar frys, ac yn anghwrtais ddigon er nad oedd yna ddim adwaith oddi wrth y talp o geuled o'm blaen i, "Dodrefnu'r fflat a phrynu celfi newydd, ac atgyweirio a diweddaru a newid tipyn ar y lle hefyd." "Yn wir," meddwn i, a dim ond prin gymryd anadl rhwng dwy frawddeg, "Mae'r pentiwr acw heddiw yn gorfffen addurno'r stafell fyw i mi." Ond nid oedd dianc i fod.

'Roedd Cymru yn prysur golli ei thir a'i thraddodiadau.

O flaen y pum cant a mwy o ymfudwyr a morwyr ar ei deciau, yn edrych gyda theimladau digon cymysg ar y tynfad yn prysur ddiflannu o'u golwg, roedd mordaith o bron i bedwar mis.

Daliwn i ddawnsio, i fwyta bisgedi, i wrando ar gerddoriaeth tra mae dec isaf y llong yr ydym yn eistedd mor gysurus arni'n prysur lenwi â dþr.

Edrychais ar y gorwel a gweld cymylau du enfawr yn prysur ddod tuag atom ac, o fewn munudau, roedden nhw'n arllwys glaw trofannol ar ein pennau.

Fe gawson ni ein bygwth tra'n ceisio ffilmio gŵr oedd wrthi'n torri camel yn ddarnau, yr anifail wedi'i rannu'n goesau, pen, gwddf a thafelli o gig coch ac ar fin cael eu hongian ar un o stondinau prysur y farchnad.

Erbyn bod Penri'n gorffen ei goleg, yr oedd y to cyntaf o esgobion a benododd Elisabeth yn prysur gilio i'r cysgodion.

Prysur iawn oedd Nia Chiswell, a'r meic o dan drwyn pawb.

Yn ei ffordd dawel prysur bu'n gefnogol i'w chapel ar hyd yr amser.

Erbyn heddiw, mae cwningod yn prysur adennill eu tiriogaeth ac mewn rhai mannau y maent yn bla unwaith eto.

"Canu carolau wir, a Ffrainc yn gwaedu." Wrth i'r ddau gerdded hyd strydoedd cefn culion yr hen dref, roedd haen denau o eira yn sefyll dros y cerrig crynion ar ganol y ffordd ac yn prysur orchuddio toeau'r tai.

Mae rowndiau yr Eisteddfod Roc yn prysur ddod i ben.

A dyna le prysur!

Roedd yr iaith lafar yn prysur droi yn rhywbeth na fuasai yn y canrifoedd cynt, sef arwydd o wahaniaeth dosbarth, ac eisoes yr oedd yna raniad rhwng De a Gogledd yn Lloegr.

Ond mae arferion felly yn prysur ddiflannu a phawn yn fwy annibynnol.

Yn y drych, gwelodd ddau wyneb bach yn syllu ar i fyny a'r dagrau'n prysur sychu ar eu bochau.

Mae'n sôn am berson sy'n byw bywyd prysur ".bosys llym, amserlen tynn".

Clywodd besychiad prysur o'r tu ol iddo.

Roedd y gwanwyn yn gyfnod prysur a pheryglus iawn.

Ond rhag rhoi'r argraff fod y bai i gyd ar y darllenwyr am beidio â sylwi ar lithriadau o eiddo'r golygyddion prysur, cystal gorffen trwy ddweud fod lle i gredu i un golygydd gael ei ddiswyddo gan y BBC am gyfieithu mai haid o wenyn oedd y "buzzard" a ymosododd ar fachgen o'r Canolbarth !

Mae'r cythreuliaid yn poeni erbyn hyn, fodd bynnag, bod Cymru'n prysur newid (t.

Ofnai rhai mai cynllwyn ydoedd cefnogaeth y Blaid Rhyddfrydol er ceisio marchogaeth ar gefn y farn gyhoeddus a oedd yn prysur gryfhau o blaid Senedd; "Cast etholiadaol ydyw%, meddai Saunders Lewis gan gyfeirio'n amlwg at yr etholiad cyffredinol a oedd ar ddod, a mynnai rhywun fod yn Rhyddfrydwyr yn bwriadu defnyddio Cymru er mwyn eu plaid a Phlaid Cymru am ddefnyddio'r Blaid er mwyn Cymru.

Giglo Glyn yn arwydd 'i fod o'n prysur wylltio Wili.

Roedd yn ddiwedd ar gyfnod prysur tu hwnt, o benodi Nick Evans fel Swyddog Comisiynu Choice, adeiladu stiwdio bwrpasol, penodi staff cyflwyno a chynhyrchu a chynllunio rhaglenni hyd at achlysur lansio llwyddiannus BBC CHOICE Wales.