Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

pump

pump

"Ac wedyn, rhaid i chi gael pump beic yn lle un beic," meddai'r dyn trwsio sosbenni.

Pump ohonynt i gyd.

Mae'r cynlluniau ar gyfer y misoedd nesaf - gan gynnwys rhyddhau casetiau gan Datblygu, Diffiniad, Aros Mae a Steve Eaves, yn ogystal â chasgliad amlgyfrannog i ddathlu'r pump oed - yn awgrymu y bydd y cwmni hwn yn parhau â'u gwaith da yn creu stabal gynhwysfawr o artistiaid mwyaf blaengar y byd roc Cymraeg.

Ymwelodd pump ohonom â'r ysgol breswyl a gynhaliwyd eleni yng Ngholeg y Brifysgol Abertawe, a'r thema oedd Cocos a Bara Lawr.

Er mai am saith mae'r ffilmio i ddechrau y mae'r gynulleidfa o gant y paratowyd lle ar ei chyfer o flaen y llwyfan yn dechrau ymgasglu toc wedi pump.

Un, dau, tri Greenhill oedd ein tai ni a rhifau saith, wyth a naw yn eu dilyn ymhen ychydig, ond yn y bwlch rhyngddyn nhw roedd tomen fawr o rwbel y cyfan a oedd yn weddill o rifau pedwar, pump a chwech.

Roedd pump o'r plwyfi, sef Dihewid, Llanwenog, Ystrad, Llangybi a Charon yn is-ddeoniaeth Aeron; tra oedd Llanddeiniol neu Garrog, Llanbadarn Odwyn a Llanbadarn Trefeglwys yn uwchddeoniaeth Aeron.

Un, dau, tri, pedwar, pump, chwech, saith ...

Fe ofynnodd y cyfaill hwn i'r llythyrwr ddewis pump o lyfrau Cymraeg iddo'u dwyn gydag ef, i gadw'i Gymraeg a'i Gymreigrwydd yn fyw.

Cymru ar hyn o bryd sy'n bedwerydd yng ngrwp pump, ar ôl colli ym Melarws a chael gemau cyfartal gyda Norwy a Gwlad Pwyl.

Er i'w dad gael ei ladd pan oedd Douglas Wardrop yn ddim ond pump oed, cofiai'r morwr yn glir sut yr oedd wedi dweud wrtho lawer gwaith pan oedd pethau'n mynd o chwith: "Dal ati, Doug, dal ati.

Yr hyn oedd yn llawer pwysicach oedd fod pump o'r wyth gêm hynny yn geme rowndie rhagbrofol Cwpan y Byd ac i Gymru fod wedi ennill pedair o'r rheini heb ildio cymaint ag un gôl.

Ninnau ill pump yn gwylio'n dawel dawel a disgwyl y morloi i mewn.

Byddai yntau'n sgrifennu i ddweud pryd y byddai'n cyrraedd (bys hanner awr wedi pump o Fangor gan amlaf), a byddai hi'n agor y ffenestri.

Cynllun Conwy sy'n costio £34m oedd y mwyaf o'r pump.

Pump o weithwyr yr Antur - Michael, Gwen, Gwenda, Eira a Bridget, a Tanwen sydd yn Waunfawr ar brofiad gwaith - sy'n cynhyrchu'r nwyddau blodau sychion, bagiau pot pourri ac ati a werthir yn y siop.

Mae pawb dipyn bach yn dwp ar ôl clywed y stori%au ysbryd yma." Dringodd y pump i fyny'r ysgol raff i'r ffau yn y dderwen a bodlonodd Smwt i eistedd yn gwarchod wrth fôn y goeden.

O ran digwyddiadau Radio Cymru, yr uchafbwyntiau efallai oedd Kevin a Nia'n cwrdd â nifer o blant gorllewin Cymru o ysgolion Penygroes yn Crosshands, Ysgol Llannon, y Tymbl, ac Ysgol Pump Heol yng Nghwm Gwendraeth.

Yn y dre, mi aethon nhw i siop fawr a phrynu pump cadair newydd a phump gwely newydd.

Tra oedd eu mam yn dweud wrth Iona am fynd i eistedd at y ffenestr ac yn gwneud i Rolant agor y ffenestr er mwyn iddi gael mwy o wynt, edrychodd y pump ar ei gilydd.

Hyd yn oed os yw'r syniad poblogaidd fod pedwar o bob pump o'r Cymry yn Anghydffurfwyr erbyn ail hanner y ganrif ddiwethaf yn gorsymleiddio'r sefyllfa, does dim amheuaeth nad oedd yna deimlad cryf ymysg y mwyafrif fod grym Eglwys Loegr yn rhywbeth y dylid ei wrthwynebu.

Pwrpas yr arian oedd i sicrhau bod y dosbarth plant pump oed efo llai na 30 o ddisgyblion.

Wedyn, rhaid i chi gael pump gwely yn lle un gwely," meddai'r dyn trwsio sosbenni.

pump ar hugain o blant yn 'ista ar bob modfedd o'r llawr, i weld 'Lone Ranger'.

Beth bynnag, yn swyddfa plaid genedlaethol yr Alban - yr SNP - yn y senedd yng Nghaeredin gosodwyd blwch rhegi gydag aelodau yn talu rhwng pump ac ugain ceiniog o ddirwy gan ddibynnu ar y rheg.

Roedd pump o feibion ym Mhlas Gwyn ac un ferch a aned a dwy droed "clwb" ganddi, a byddai ganddi rhyw gert fach a mul yn ei thynnu, a nyrs hefo hi bob amser.

Y mae cynllun Sir Conwy yn un o ddim ond pump gafodd eu cymeradwyo gan y Cynulliad.

un, dwy, tair, pedair, pump cadair.

Gall sgarmes sydd wedi ei stopio, ail-gychwyn - mor belled a bod hynny'n digwydd o fewn pump eiliad.

Mae'n amlwg nad oedd gan drigolion y cyfnod hwnnw lawer o ofn 'tywydd mawr' - trefnwyd i gynnal cyfres o Oedfaon Pregethu a gwahoddwyd pump o bregethwyr i wasanaethu.

Rhaid i chi gael pump cadair yn lle un gadair.

Mae sefydliadau trawsewropeaidd wedi hen arfer â defnyddio mwy nac un iaith: yr Undeb Ewropeaidd â'i un iaith swyddogol ar ddeg, a Chyngor Ewrop yn defnyddio pump yn aml.

Ac yn y fan fawr roedd pump cadair, pump gwely, pump beic, a phump cwpan mewn bocs.

Mae'r ugain gweithiwr llawn amser a'r pump aelod staff yn cynnig gwasanaeth cynhwysfawr i'r pentrefwyr a gweddill trigolion Arfon.

Yn ogystal â'r pump yma mae 'na lwyth o bobl yn helpu i wneud yn siwr bod Ffeil yn eich cyrraedd chi bob wythnos - pobl fel y cyfarwyddwr a'r golygydd VT, pobl sy'n gwneud yn siwr bod y rhaglen yn cadw at amser, y criwiau camera a'r criw sy'n gweithio yn y stiwdio.

Ac yn olaf dyma nhw'n mynd i siop feiciau ac yn prynu pump beic.

"Ac wedyn rhaid i chi gael pump cwpan yn lle un cwpan," meddai'r dyn trwsio sosbenni.

Hi oedd yr olaf i ganu ac mewn cystadleuaeth lle mae'r cantorion yn tueddu i gyflwyno pump neu chwe chân mewn rhaglen o ryw ugain munud - dwy gân yn unig gawson ni gan y ferch 32 oed hon.

Roedd yna bedwar, os nad pump diwrnod ers i Megan adael y neges, ac roedd hi'n anodd credu nad oedd Edward Morgan wedi bod gartref unwaith yn ystod yr amser hwnnw.

Roedd pawb yn gweithio pump noswaith, felly os oedd y daith yn un bump diwrnod neu yn bythefnos dim ond pump diwrnod oedd pawb yn gweithio...

"Pump ...!" rhuodd y llais yn fuddugoliaethus.

Ond doedd dim digon o le iddyn nhw i gyd ar gefn yr un beic a chyn iddyn nhw fynd ymhell iawn mi fyddai'r pump wedi syrthio'n bendramwnwgl ar y ffordd.

Fe ddechreuodd pethau'n addawol ym mis Ionawr, pan laniodd Buck Rogers gan Feeder yn rhif pump yn siart y senglau.

"Mae un, dau, tri, pedwar, pump ohonoch chi, ac felly mae'n rhaid i chi gael un, dau, tri, pedwar, pump gwely.

"Mae un, dau, tri, pedwar, pump ohonoch chi, ac felly mae'n rhaid i chi gael un, dau, tri, pedwar, pump cwpan.

Wedyn dyma nhw'n mynd i siop lestri ac yn prynu pump cwpan.

Rhaid i mi ganmol tactegau Mark Hughes - y pump yn y cefn, pedwar yn y canol a Hartson yn arwain - a'r tîm hyfforddi o gwmpas Hughes.

"O'n i'n gweithio ar y bâd, y Carmania am chwech mis yn 'neud cabaret ar cruises pump diwrnod new fwy, yn mynd o Fort Lauderdale...

Cyrhaeddodd y stori am yr ymosodiad ar dž yn Solingen y penawdau, yn yr Almaen yn ogystal â thramor, oherwydd i'r troseddwyr gyrraedd eu nod, a lladd pump o bobl.

A phan ddaeth Elisabeth i'r orsedd prin bod pump y cant o'r holl glerigwyr yn unrhyw fath o Brotestaniaid.

Ond erbyn deall nid ser Hollywoodaidd fydd y lladron hynny ond dynion o Lundain bell yn dod i roi taw ar yr hen sinema, yr olaf o blith pump a fu yn y dref - Aberdar - pan oedd hi'n oes aur ar y pictiwrs.

Clywsant sŵn traed yn dod i lawr y lôn o gyfeiriad y plas, a synnwyd y pump pan welsant mai Meurig Puw y Wenallt oedd yno.

Adran Pump - Cynllun gweithredu yn dilyn eich lleoliad ac achrediad

Y mae Henry Rowland yn gadael rhoddion i dlodion un plwyf ar ddeg, pump ohonynt yn Llyn, sef Aberdaron, Llanfaelrhys, Mellteyrn, Penllech a Bryncroes.

Enillon nhw eu gêm gynta mewn pump yn erbyn Manchester City yn Stamford Bridge.

Rwy'n dewis cofio noson o'r fath a'r stori a adroddid pan oedd Dic yn grwt anfoesgar deuddeg oed, a minnau'n ferch bedair ar bymtheg hunan ymwybodol ac awyddus, pan oedd gennym ddwy forwyn, sef Gwladys - yr orau a fu gyda ni erioed, ac sy'n dal i ddod yma i'n helpu ar adegau arbennig megis cynhaeaf a chneifio a dyrnu - a Meinir, a briododd â Morus Ddwl a chael pump o blant ganddo, tri yn fyw a dau yn farwanedig.

Franco yn dienyddio pump aelod o fudiad ETA o Wlad y Basg, ond yn marw ddau fis yn ddiweddarach a'r Brenin Juan Carlos yn dod yn ben ar y Llywodraeth, hyn yn arwain at ailsefydlu democratiaeth yn Sbaen.

Nid o reidrwydd y pum enillydd bob nos fydd yn ymddangos ar y llwyfan terfynol, ond y pump a roddodd perfformiadau gorau yn ystod yr wythnos.

Wedi sicrhau rhyw fath o ddyfodol i'r ysgol, edrychai'n fwy nag amlwg i rai ohonom y byddai'r un frwydr yn ein hwynebu eto ymhen pump, deg neu efallai bymtheng mlynedd, os na fyddai nifer y disgyblion yn cynyddu yn hytrach na lleihau.

Caem y pryd nesaf oddeutu pump o'r gloch, am hynny o les a wnâi inni o achos roedd safon y reis yn gymhedrol iawn erbyn hyn.

Mae un, dwy, tair, pedair, pump cadair.

Mae Michael Owen wedi dechrau pump o chwe gêm ddwetha Lerpwl ac wedi sgorio chwe gôl mewn wythnos.

Gwenodd y pump ar eu mam.

O safbwynt Cymru roedd Ian Woosnam a Phil Price yn y pump uchaf.

Dim ond dau ddeg pump, tri deg oed oedd cyflog dyn ar YTS.

Os yw awdur yn dewis cynnig i'r darllenydd ddarn o ffuglen sydd i fod yn undod cyfan o fewn pump neu chwech neu hwyrach ddeg o dudalennau, yna mae'n rhaid wrth ddisgyblaeth cywasgu ac artistwaith cynildeb i wneud y peth yn werth chweil o gwbl.

Yr oedd cydlynwyr pump ysgol heb gynnig hyfforddiant i weddill yr adran.

Fe allai'r pump gael eu gwahardd am oes os bydd yr ymchwiliad yn eu cael nhw'n euog.

Yr oedd y fyddin hon wedi bod mewn pump neu chwech o'r prif frwydrau diweddaf - brwydrau ag y mae eu henwau a'u hanes yn dra adnabyddus i ni oll, sef brwydrau caerfa Fisher, Wilmington, Dyffryn, Shenandoah, Petersburgh, a Richmond .

Does neb yn licio cael y drefn o flaen pobl eraill, ond mae'n waeth pan ydach chi'n dri deg pump, a'ch plant yn gwrando.

Yn Senedd Gwlad y Basg, mae saith-deg-pump o aelodau, a 42% ohonynt yn gallu siarad Basgeg.

Rhyw bedwar dosbarth - plant o gwmpas y pump i naw oed.

I gloi'r noson, felly, cafwyd ambell i gân gan Maharishi... wel, pump a dweud y gwir, achos fel mae pawb yn gwybod, bellach, mi fuo na gryn helynt ar y noson am fod rhai aelodau o'r gynulleidfa yn gwrthwynebu i'r hogia ganu'n Saesneg.

Bu naw deg o dîmau yn cymryd rhan ledled Cymru yn y rownd gyntaf a chyrhaeddodd pump o dîmau y rownd derfynol yn ystod yr Eisteddfod Genedlaethol.

Yr olaf a ddewisais a chychwyn mewn bws am hanner awr wedi pump o Lerpwl a chyrraedd Caeredin am hanner dydd.

`Y tro hwn mae angen achub pump ohonon ni.' Pan gyrhaeddodd y cwch dringodd Gunnar, ei deulu a'r ddau ddyn o'r hofrennydd i mewn iddi'n ddiolchgar.

"Mae un, dau, tri, pedwar, pump ohonoch chi, ac felly rhaid i chi gael un, dau, tri, pedwar, pump beic.

Pump pwys?

adran pump

Gan gofio fod nifer arwyddocaol o'n hysgolion yng Nghymru yn ysgolion bach (pump athro neu lai) a bod ysgolion bach iawn yn gyffredin lle nad oes ond dau athro, mae na felly nifer go helaeth o blant dan bump, plant cyfnod meithrin, yn yr un dosbarth â phlant hyn sy'n dilyn y Cwricwlwm Cenedlaethol.

Y boen yn ormod iddo fo mae'n debyg." Safodd y pump ar y bont i wylio'r llanciau'n cael eu cario i'r ambiwlans er mwyn mynd i'r ysbyty am driniaeth.