Rhan bwysig iawn o'r farwnad gonfensiynol oedd y weddi dros enaid yr ymadawedig (cofier y gred ganoloesol fod gweddi'n medur byrhau amser enaid yn y Purdan).
Un o'i hoff gerddi oedd soned Saunders Lewis, 'Rhag y Purdan'.
Yr adrannau yn y traethawd yn delio â'r Purdan a'r Offeren a gynhyrfodd dynion y mudiad a dychryn ei gefnogwyr fwyaf.
Archwiliodd yr erthyglau yn fanwl fel pe baent yn ddogfennau cyfreithiol, a phrofodd i'w fodlonrwydd ei hun nad oeddent yn condemnio na'r Purdan nac Aberth yr Offeren, eithr yn unig camddefnydd ohonynt gan Eglwys Rufain.
Gobaith pererin wrth bererindota oedd ennill lleihad ar y cyfnod y byddai'n rhaid i'w enaid dreulio yn y Purdan wedi iddo farw, oherwydd yr oedd y Purdan lawn mor real i Gymry'r oesoedd Canol ag ydoedd Nefoedd ac Uffern.