Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

pwerus

pwerus

Ac yr oedd addysg yn foddion pwerus iawn i ddyfnhau ymdeimlad y Cymry fod eu hiaith a'u diwylliant hwy'n bethau israddol.

Pan gyrhaeddodd yr Unol Daleithiau ar ddechrau'r Rhyfel Cartref, fe ddywedodd Abraham Lincoln wrtho na wyddai am ddim mwy pwerus na The Times, `heblaw efallai y Mississippi' ac, wrth gyrraedd India i roi sylw i'r Miwtini Mawr, fe drawodd fargen gyda phennaeth y fyddin i gael yr holl wybodaeth a oedd ar gael, ar yr amod na fyddai'n trafod hynny yn unman ond ei lythyrau i'r papur newydd.

Er mor boblogaidd oedd y cyfuniad o lun a sain yn y sinemâu, 'roedd y wasg yn gyfrwng pwerus o hyd.

Yn ddiweddar, cynhyrchwyd laser ffibr tiwnadwy yn seiliedig ar atomau praesodymiwm a thrwy ddefnyddio neodymiwm gellir adeiladu laser pwerus iawn - mwy pwerus hyd yn oed na'r Nd:YAG ar yr un donfedd.

Yn wir, mae'n haws cynhyrchu laserau pwerus iawn ar ffurf ffibr nag mewn crisial gan eu bod yn fain ac yn hawdd eu hoeri.

Gadawodd ef Ogledd Cymru i fod yn Brif Weinidog Prydain Fawr ac yn un o ddynion mwyaf pwerus y byd.

Cynhyrchwyd hanes pwerus o gariad anghyfreithlon yn erbyn cefndir o gymuned glos, The Passion, ar ran BBC Cymru gan First Choice gyda Gina McKee (wyneb cyfarwydd o Our Friends in the North). Cafwyd edmygaeth gyffredinol i'r cynhyrchiad cymhellol hwn.

Yn un peth yr oedd uchelwyr pwerus yn gefn iddynt.

Bydd sawl sy' gosod y socedi i chi hefyd yn gosod uned fflachio newydd ar gyfer y goleuadau troi gan nad yw'r un gwreiddiol mewn car yn ddigon pwerus i ymdopi a'r garafan yn ogystal.

Y ffilm hanner can munud hon a gyfarwyddwyd ac aysgrifennwyd gan Ceri Sherlock, yw'r ddrama Gymraeg gyntaf i bortreadu byd sinist ardal golau-coch Amsterdam, gan gyflwyno portread pwerus o lygredigaeth, dadrith a cholli diniweidrwydd.

Dim villa wedi ei warchod â thrydan, dim gwarchodwyr a chþn Alsatian, dim ceir cyflym, dim chauffeurs, dim tâl a gwasanaeth gan y cynorthwywyr enwog pwerus, gan y gwasanaethau cudd, y llywodraethau militaraidd, y mudiad ODESSA - dim o'r dwli papur newydd hwn.

Nhw oedd y rhai a oedd ychydig is na'r gwleidyddion ond yn llawer mwy pwerus; yn cyrraedd meysydd brwydro ychydig wedi'r milwyr ac, weithiau, ychydig o'u blaen.

Ein hundebau llafur ni yw'r rhai mwya' pwerus yn Ewrop, a chyn bo hir bydd pobl Dwyrain yr Almaen yn mwynhau'r un safonau byw â phobl Gorllewin yr Almaen.

Codwyd amheuon a yw ein chwant i fynnu mwy a mwy o adnoddau'r ddaear, (yn aml ar draul rhywogaethau eraill a'r llwythau dynol llai pwerus) yn gynaladwy heb sôn am fod yn foesol.

Yr oedd ei dad a'i fam yn hanfod o deuluoedd uchelwrol Cymreig, ond erbyn canol yr unfed ganrif ar bymtheg yr oeddynt yn dal eu tir gan y Goron fel is- denantiaid i deulu pwerus Wyniaid Gwedir, ger Llanrwst, tirfeddianwyr mwyaf yr ardal o ddigon.

Ac er nad ydym yn dymuno argymell iaith o'r fath, does dim diben gwadu fod y ddau fics ychwanegol a geir ar y sengl yn llawer mwy pwerus ac effeithiol na'r fersiwn lân, a hynny am nad ydynt wedi cael eu golygu o gwbl.

Y mae ein dyled ni'r Cymry'n ddwfn i'r bobl a'r mudiadau a frwydrodd yn ddiymarbed dros y blynyddoedd i sicrhau na châi'r cyfrwng cyfathrebu pwerus a dylanwadol hwn foddi ein hiaith a'n diwylliant a'n traddodiadau cenedlaethol.

Byddai'r gân yn fwy effeithiol efo agoriad mwy pwerus.

Mae'r dechneg yn ein hatgoffa o Van Gogh ac yn tynnu sylw at wyneb y llun, sy'n greadigaeth artiffisial, ac at rythmau pwerus y ddaear oddi tanodd.