Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

pwrpas

pwrpas

Pwrpas y pwyllgor hwn oedd cyd-drefnu ymgeision i archwilio a diogelu safleoedd llongddrylliadau hanesyddol o gwmpas Prydain.

Ac y mae pwrpas, i ddyn ar y Dôl, yn hanfodol!

Yn aml, mewn sefyllfa o'r fath nid yw'r arddangoswr na'r plentyn yn ymwybodol o'r ffaith bod dysgu ac addysgu yn digwydd gan eu bod â'u bryd ar y pwrpas.

Cyflwyniad i'r defnydd o ysgrifennu mewn dysgu pynciol,- pwrpas, dulliau o drefnu a pharatoi, beirniadaeth AEM ar arferion athrawon a sut y gellir grymuso'r dysgu.

Pwrpas y cyfan oedd herio'r holl gamweddau a oedd yn rhwystr i'r Iddewon gyflawni eu priod genhadaeth yn y byd, datguddio daioni Duw nid trwy eiriau'n unig ond trwy lafur enaid.

Roedd papur yn brin, welwch chi, ac roedd arnynt angen ailgylchu papur i'w pwrpas eu hunain.

Er y cyfeiriad yng Nghytundeb Belffast at ieithoedd eraill, i bob pwrpas siartr hybu'r Wyddeleg yw'r adran sy'n delio ag ieithoedd.

Roedd pwrpas ei gwneud hi yn anghywir.

Bydded iddynt ddysgu'r wers nad oes pwrpas cael actio da, na chynhyrchu penigamp, os nad yw'r hyn sy'n sail i berformiad - sgript - yn un o safon.

Ond, gyda dyfodiad y Gair mewn person i'r byd, adnewyddwyd y prosesau hyn o ran eu grym a'u pwrpas.

Erbyn heddiw, mae'r chwareli i gyd wedi cau, i bob pwrpas.

Cydnabyddwn oblygiadau'r ffaith fod y Gymraeg, i bob pwrpas, wedi cael ei halltudio o fywyd swyddogol Cymru tan yn ddiweddar iawn.

Cerddi eraill: Edgar Phillips oedd y trydydd i bob pwrpas, a Rolant o Fôn yn ail.

Mae Cristion yn credu fod pwrpas i bawb a fod pawb i fod i barchu ei gyd-ddyn.

Yr un oedd pwrpas eu gweiddi a sþn eu clychau.

Trafodwyd y mater gyda'r perchennog pryd y cyfeiriodd at y ffaith mai ar gyfer pwrpas amaethyddol oedd y sied (nid ar gyfer anifeiliaid) a'i fod wedi gwasgaru "hardcore% tros y llain er mwyn cael mynedfa rwyddach i'r tir.

Roedd Llio wedi anghofio popeth am ei haddewid ond gwyddai nad oedd pwrpas protestio.

ac, fel mater o ffaith, os cyfaddefir bod rhyfel amddiffynnol yn gyfreithlon yna fe ganiateir popeth, oblegid onid yw'n ofnadwy o beth fod pedwar ar bymtheg allan o ugain o'r rhyfeloedd mwyaf erchyll sydd wedi gorlifo'r ddaear â gwaed wedi cael eu hymladd i'r pwrpas hwnnw, neu o leiaf fel esgus am hynny ?

Byth oddi ar amser cyfraniadau nodedig Johannes Weiss ac Albert Schweitzer at yr astudiaeth o Iesu Hanes bu'n rhaid i'r ysgolheigion hynny a fu'n credu fod yr astudiaeth yn debyg o ddwyn ffrwyth dderbyn y gwirionedd nad oes fodd deall pwrpas a gwaith yr Iesu heb roi lle canolog i'w ddisgwyliad eschatolegol.

Dyna beth yw pwrpas yr adran Trafod gyntaf a welir yn YSGRIFENNU III.

Nawr, nid moesoli yn erbyn benthyca arian yw pwrpas hyn o druth.

Yn ogystal â hyn bydd arddangosfa symudol yn ymweld â threfi a phentrefi penodol yn mhob cyngor cymuned a thref yn ystod y cyfnod ynghyd â phamffled yn egluro pwrpas a swyddogaeth y cynllun lleol ynghyd â hysbysu'r cyhoedd o'r arddangosfa yn cael ei ddosbarthu i bob cartref yn y Dosbarth.

Pwrpas yr arian oedd i sicrhau bod y dosbarth plant pump oed efo llai na 30 o ddisgyblion.

Pwrpas 'Polska' oedd dathlu cyfoeth diwylliannol gwlad Pþyl ar draws y canrifoedd, a hithau'n dri-chwarter canrif ers ei hailsefydlu fel gwlad annibynnol ar ôl y Rhyfel Mawr.

Dyna brofiad canol a dwyrain Ewrop hefyd; i bob pwrpas ymarferol addysg drwy'r famiaith a geid yn llawer o ysgolion bach y wlad, er mai gwahanol oedd y patrwm yn y trefi.

Yr oedd hi wedi sylweddoli erstalwm iawn nad oedd dim pwrpas dweud mai barn y rheithgor oedd yn bwysig ac nid ei barn hi, Yn ddieithriad, wedi iddi osgoi rhoi ateb pendant, y sylw wedyn fyddai, 'Ond rydw i am i chi gredu 'mod i'n ddieuog.'

"Does dim pwrpas esgus nad oedd dim byd wedi digwydd, Marc."

Pwnc go fawr, ond i'r pwrpas presennol gellir awgrymu nifer o resymau cyffredinol, rhai yn dderbyniol ac eraill yn fwy dadleuol.

Am yr eildro yn ystod fy nghyfres ysgrifau rwyf am ddwyn sylw at fy awgrym blaenorol o beidio dilorni a dibrisio dail tê wedi gorffen eu pwrpas mewn tebot.

Haera ef mai pwrpas swyddogol yn hytrach nag addurnol sydd i'r cymariaethau a'u bod yn taflu golau llachar ar gymeriad a digwyddiad yn ogystal â dwysa/ u'r adnabyddiaeth a'r dealltwriaeth.

Pwrpas y British Physiological Society wrth ddatgelu hynny yr wythnos o'r blaen oedd profi fod merched yn gryfach cymeriadau na dynion.

Pwrpas y safle yw i rhoi arolwg o'r marina, ei lleoliad, cyfleusterau a prisiau angorfa.

Magu cymdeithas o bobl ddylai fod pwrpas addysg, ac nid canolbwyntio ar gynhyrchu cyfrifiaduron a pheiriannau ateb ffôn yr Unfed Ganrif ar Hugain.

I'r pwrpas hwn byddir yn crynhoi elfennau o'r ymchwil gwreiddiol, ei berthnasu i'r sefyllfa ddosbarth trwy gyfrwng y tasgau a awgrymir, a'i gyflwyno'n dameidiau man haws eu treulio, gydag awgrymiadau am drafodaethau a thasgau ymchwiliol yn y dosbarth yn dod rhyngddynt.

Y Beibl hwn i bob pwrpas yw ein Beibl ni heddiw.

Ond mae'r rheini hefyd i bob pwrpas wedi diflannu.

Pwrpas y rhan hon o'n llith ydyw dangos fod cytundeb rhwng ysgolheigion ynglŷn â dyled uniongyrchol neu anuniongyrchol Dafydd ap Gwilym i'r Trwbadwriaid (neu'r Trwferiaid) cyn i T Gwynn Jones sôn am ddyled y Gogynfeirdd iddynt, a bod rhai o'r ysgolheigion, megis W J Gruffydd a Lewis Jones, yn awgrymu mai trwy ddyled ei flaenorwyr yn y traddodiad llenyddol Cymraeg i'r Trwbadwriaid yr oedd Dafydd yn ddyledus.

Ond dydy e ddim yn wir..." "Does dim pwrpas siarad.

I'r pwrpas hwn, byddwn yn paratoi cyllideb, h.y.

Pwrpas yr hormonau hybu tyfiant oedd llonyddu'r anifail, gan alluogi iddo ddod i fwy o bwysau fel anifail gorffenedig.

Mae adeilad yn cael ei addasu i'r pwrpas hwn.

Cred y cyhoedd mai dim ond un pwrpas sydd mewn carcharu, sef diwygio'r troseddwr.

Pwrpas hyn yw sicrhau fod pob ward o'r etholaeth yn cael ei chynrychiol yn ei thro yn y Gadalr.

Wrth gwrs, nid oedd dim yn newydd yn y defnydd a wnaed o'r Ymofynnydd i amddiffyn safbwynt pan y'i heriwyd, nac yn ei ryddid i eraill ei ddefnyddio at yr un pwrpas; yn wir, ni allaf feddwl am un enghraifft pan wrthodwyd cyfle teg i ohebydd ddweud ei farn ar dudalennau'r cylchgrawn, boed y farn honno'n gam neu'n gymwys yng ngolwg y mudiad a'r golygydd.

Mae Tomos Alun, sy'n ddisgybl yn Nosbarth Ffrydlas Ysgol Abercaseg, yn chwarae rhan y Dafydd ifanc, sy'n cael ei fagu i bob pwrpas gan Mali.

Sarnicol oedd y trydydd i bob pwrpas.

O dan yr holl hwyl roedd pwrpas i'r diwrnod, codi miliynau o bunnoedd i elusennau trwy Gymru a gweddill Prydain fel y gallai miloedd o blant elwa.

I bob pwrpas mae'r hen ddeddf yn creu ac yn cynnal anghyfiawnder. 09.

Er gwaethaf bod llawer o'r cyfeillion wedi gosod i lawr y peth cyntaf a ddaeth i'w meddwl, a rhai, o bosibl, wedi rhoi'n y llyfr un o'r hanner dwsin dyfyniadau a gludent oddi amgylch yn arbennig i'r pwrpas, ac eraill wedi pendroni'n hir cyn dechrau sgrifennu, 'does yr un dau gyfrannwr wedi dweud yr un peth.

Tybiais mai pwrpas y pedwar gwersyll oedd cymell y plant i chwarae, canu a dawnsio i gyfeiliant 'Y Llyfr Gwyrdd' - ond roeddwn yn gwbl anghywir.

Y gymysgedd hon o arddulliau dysgu sydd yn rhoi'r cyfle gorau i ddisgyblion ddatblygu eu galluoedd ieithyddol a'u dealltwriaeth bynciol yn gyfochrog gan fod pwrpas real i'r ddeubeth mewn sefyllfa o'r fath.

Beth yw pwrpas y peri, deudwch?

I'm pwrpas i, fe fydd yn ddigon i chwi agor y Llyfr, ar ddamwain weithiau, ond yn fynych.

Mae pobl yn ymaelodi i bob pwrpas ar eu telerau eu hunain ac ni theimlant eu bod yn ymaelodi â chymdeithas y mae canllawiau cadarn i'w didoli oddi wrth bobl y byd.

Erbyn diwedd y ganrif mae'r diwydiant glo wedi diflannu i bob pwrpas, mae'r gweithfeydd dur mawr yn Shotton, Glyn Ebwy a Chaerdydd wedi cau, ac mae nifer y rhai sy'n gweithio mewn amaethyddiaeth wedi haneru.

Pwrpas y ffwrnais oedd poethi'r platiau fel y gellid eu rowlo yn y pâr rowls.

Ond yn y bennod yma ein pwrpas yw ymdrin â'r 'agwedd' gyntaf o'r gêm - sef y symudiadau agoriadol.

Hi oedd unig gwmpeini'r ddau yn eu canol oed, pwrpas eu llafur, amcan eu byw.

Bu dyfalu brwd beth oedd pwrpas Clint yn Ogof Plwm Llwyd.

Pwrpas y Gymdeithas ar y pryd oedd hyrwyddo crefydd rydd a rhyddid crefyddol yng Nghymru yng ngwyneb yr erledigaeth a fodolai o gyfeiriad yr enwadau iawnffyddol.

Fe gofia y rhai ohonom fu'n gweithio mewn gerddi plasau yn gynnar yn ein galwedigaeth fel garddwyr, mai deilbridd (leaf mould) ddefnyddiem mewn composts i'r un pwrpas.

Yn yr orsedd hon eglurodd Iolo Morganwg beth oedd pwrpas Beirdd Ynys Prydain, sef adfer cerdd dafod, y cyfrwng, meddai, a ddiogelodd y Gymraeg rhag llygru, a hyrwyddo'r mesurau rhydd i hyfforddi'r werin.

Trwy fod yng nghwmni pobl eraill sy'n defnyddio iaith fel erfyn i bwrpasu amlwg, penodol, mae plentyn yn dysgu sut i ymddwyn fel defnyddiwr iaith, i rannu'r PWRPAS er mwyn dod i wybod SUT.

Pwrpas cyfrifon ydyw cyflwyno gwybodaeth a fydd yn caniata/ u i'r rheolwyr, y cyfranddalwyr, neu unrhyw un arall sydd â diddordeb yn y cwmni neu fusnes, wneud penderfyniadau.

Pwrpas hyn yw i'r mudiadau ddysgu oddiwrth ei gilydd, cyfnewid gwybodaeth a gweld a oes cyfle iddynt weithio ar y cyd.

Edgar Phillips oedd y trydydd i bob pwrpas, a Rolant o Fôn yn ail.

Gallaswn feddwl fod y bwrdd wedi ei osod yn ôl y steil ddiweddaraf, oblegid yr oedd rhai offer a gwydrau arno na allwn ddyfalu eu pwrpas.

Roedd y tyllau'n wahanol eu maint yn ôl sefyllfa'r graig; byddai twll gweddol fychan ei hyd yn ateb y pwrpas weithiau, tra byddai eisiau twll mwy dro arall.

Pwrpas y rhaglenni canlynol fyddai cyflwyno'r Swdan fel enghraifft o wlad sy'n datblygu, gan roi cefndir byr o'i daearyddiaeth, ei hinsawdd, ei hanes diweddar a'r posibiliadau ar gyfer datblygu mewn amaethyddiaeth a diwydiant.

Yr oeddynt mor anhepgor yn eu golwg hwy â'r nyrsus eu hunain gan mai eu pwrpas oedd cadw'r milwyr rhag cyfathrachu â'r merched brodorol yr oedd clefydau gwenerol mor gyffredin yn eu mysg.

Roedd rhai o'r cardiau'n bert ond doedd dim pwrpas iddo'u prynu nhw.

"Nid oes pwrpas chwilio am ddeddfau ond i'w newid", meddai.

Mentrais of yn beth oedd pwrpas y gwn.

Y lle tawelaf, y lle mwyaf diogel at eu pwrpas hwy.

Y mae un ohonynt, sef Eglwys Arch y Cyfamod, yn amlwg iawn ynghanol môr o flociau fflatiau salw a hyd yn oed ei siâp - yn llythrennol, arch enfawr - yn symbol o arwahanrwydd ffydd mewn cymdeithas seciwlar ac i bob pwrpas, dotalitariadd.

Hwyrach mai fi y'n methu, ond ni chofiaf glywed dim yn cael ei ddweud mai hen gân werin ydoedd yn mynd nôl i'r cyfnod pan fyddai menywod yn golchi dillad yn yr afon, ac mai pwrpas y gân oedd cael hwyl.

Nid oes ryfedd felly bod 'cenedl' a 'brenhiniaeth' (neu 'teyrnas', fel y cyfieithir yr un gair weithiau) yn ymddangos yn gyfochrog yn y Beibl, ac i bob pwrpas yn cael eu defnyddio fel cyfystyron - "chwi a fyddwch i mi yn frenhiniaeth o offeiriaid ac yn genedl sanctaidd" Ymddengys i Israel, o sylwi ar y cenhedloedd oddi amgylch, ganfod eu bod o ran eu trefn gymdeithasol yn deyrnasoedd neu'n freniniaethau, a daeth felly i ystyried meddu brenin fel un o nodau cenedligrwydd.

Doedd dim pwrpas iddi siomi'r bechgyn a siomi Mam hefyd er mwyn dychwelyd i wynebu Nadolig llwm yn Surrey.

Nid gŵr diddig mohono ef ar y gorau, wrth gwrs; ond gellid bod yn ddiolchgar am ei fod o leiaf wedi ymwared a'i brudd-der a'i ddiffyg pwrpas wrth fopio'i ben ar yr ymlid yma.

Pwrpas y duo oedd dychryn unrhyw ysbrydion drwg oedd yn digwydd loetran yn y tir rhag iddynt effeithio ar y cnydau.

Cymerodd bedwar diwrnod i garej ddod o hyd i'r creadur ym mherfeddion y cerbyd ac yn ystod y pedwar diwrnod hwnnw tynnwyd y Myrc yn ddarnau ond i ddim pwrpas.

Caent eu cynhaliaeth allan o gyfran o ddegwm yr eglwysi plwyf, sef arian a oedd wedi ei neilltuo i'r pwrpas arbennig hwnnw.

Fe wnaethom ni'r meddygon ein gorau iddo, a defnyddio'r cyffuriau diweddaraf i gyd, ond i ddim pwrpas.

Gellir gwneud hynny'n hwylus i'n pwrpas ni trwy edrych ar y math addysg a gawsant hwy cyn cymryd at eu gwaith fel athrawon a gellir edrych ar y math cyrsiau a baratoid ganddynt ar gyfer eu myfyrwyr.

O BEN Y DALAR: Dyma un o'r tymhorau mwyaf diweddar yr wyf yn ei gofio, hefo mis Ebrill yn rhan o'r gaeaf i bob pwrpas.

Chwiliwyd y tŷ yn fanwl ond i ddim pwrpas.

Mae rhai yn mynd gymaint dros ben llestri nes eu bod nhw, i siocled, yr hyn oedd Dafydd ap Gwilym i ferchaid, ac yn byw ar y stwff i bob pwrpas.

Pwrpas y seminar oedd dod â phawb ynghyd i drafod datblygiadau diweddar, edrych ar swyddogaeth y sectorau gwahanol, gweld i ba gyfeiriad mae angen datblygu a pa ffyrdd sydd mwyaf effeithiol i hyrwyddo'r datblygiadau, sut mae modd cydlynu a chydweithio at y dyfodol....a llu o faterion eraill.

Efallai y gall y cwmni%au rheini sy'n cynnig rhisgl coed ar gyfer ei balu i fewn i bridd neu ei osod yn haen o gwmpas planhigion yn tyfu i helpu cadw gwlybaniaeth o gwmpas eu gwreiddiau, ddarganfod dull i addasu'r rhisgl at yr un pwrpas a mawn.

Dee%llir, wrth iddynt dderbyn costau llawn a rhyddid cyflogaeth ar gyfer y gwaith cynhyrchu, y bydd y canolfannau cynhyrchu yn gweithredu i bob pwrpas yn asiantau masnachol annibynnol.