Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

pwyntio

pwyntio

Codir arwydd ffordd yn y llannerch gyda'r naill saeth yn pwyntio am yn ol i'r henfyd - Y Gorffennol - a'r llall yn pwyntio ymlaen i'r newyddfyd - Y Dyfnodol.

Wrth i Mona adael Siop Gwilim gyda llond ei chol o fwcedi, ceir arwydd ffordd yn dynodi stryd unffordd ar lun saeth yn pwyntio'n obeithiol tuag i fyny tu cefn iddi.

Yn y man, gwelwn o'm blaen arwyddion yn pwyntio at drefi nad oeddwn yn bwriadu mynd ar eu cyfyl Betws y coed, Bethesda, Conwy.

Mae'n angenrheidiol i chwaraewr sicrhau bod blaen bysedd ei fenygyn cyffwrdd â'r ddaear ac yn pwyntio at y lle mae ei dîm yn eistedd pan fydd yn cychwyn allan i fatio.

Roedd - - yn pwyntio allan fod rhaid edrych ar yr hyn oedd y Ffi Rheoli i fod i gynrychioli.

Yn eu plith ceir arwyddion yn pwyntio'n ddryslyd-chwil i bob cyfeiriad.

I gychwyn mae Harri'n pwyntio bys at wendidau ei dadleuon, ond yn fuan iawn, ac yn gymharol ddibaratoad, mae Harri'n eu llyncu - nid oherwydd cadernid y dadleuon a gyflwynir, fe awgrymir, yn gymaint ag oherwydd cyfaredd dwy lygad dywyll Gwylan!

Mae un siliwm gyda'r breichiau dynein bach mewn cyfeiriad clocwedd yn paru a siliwm a'i freichiau'n pwyntio i gyfeiriad gwrthglocwedd; dengys hyn eu bod yn dod o badiau gwahanol.

Ond ar hyn o bryd, pwyntio'n gadarnhaol i fyny ac ymlaen y mae pob arwydd.

O'r cychwyn, mae'n hawdd deall mai grwp hwyl ydy Caban ac ar glawr yr albwm mae'r aelodau yn gwneud pethau digon od a'r tu mewn i'r clawr mae yna lun o'r grwp yn pwyntio at barot.

Twm sy'n pwyntio at yr Eifl ac yn dweud wrth ei frawd, "o ffor' acw rydan ni wedi cychwyn." Ac ar ddiwedd y nofel mae Owen yn gweld y broses yn fwy cyffredinol wrth edrych i lawr ar ei ardal o ben y mynydd: Yr oedd y tir o gwmpas lle'r eisteddai ef yn gochddu, a gwyddai Owen fod yr holl dir, cyn belled ag y gwelai ei lygaid, felly i gyd - tua chan mlynedd cyn hynny.

Ymhellach, mae'r breichiau hyn bob amser yn pwyntio mewn cyfeiriad clocwedd wrth edrych arnynt o waelod y siliwm.

Ym mhellach ymlaen ceir arwydd ffordd arall yn pwyntio'n bositif ymlaen.

Thema ganolog: disgyflogi, diboblogi, a bygwth dwyn tir Cymru yn arwain at ddechreuad Oes y Brotest: cenedlaetholdeb ar gynnydd yn sgîl y bygythiad i foddi Cwm Tryweryn, darlith 'Tyned yr Iaith' Saunders Lewis a ffurfio Cymdeithas yr Iaith, a phroblemau economaidd a gwleidyddol Cymru yn arwain at gyfnod y Brotest; a buddigoliaeth Gwynfor Evans yng Nghaerfyrddin efaill yn pwyntio i gyfeiriad Oes y Brotest.