Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

pwysau

pwysau

Ni ragwelwyd na fyddai ganddi, o leiaf ar y dechrau, na'r agwedd meddwl, na'r pwysau a fyddai'n ei galluogi i lunio polisiau na fyddai'n adlewyrchiad uniongyrchol o bolisiau adrannau eraill Whitehall.

Gwyddai fod yr awyren yn troi gan ei fod yn teimlo fel pe bai pwysau mawr ar ei gefn a'i ben.

Mae'n bwysig bwyta cymysgedd cytbwys o fwyd sy'n rhoi'r holl faethynnau angenrheidiol i chi yn ogystal a chwrdd a'r gofynion calori-isel er mwyn colli pwysau.

Felly, i arbed sioc i'r system, rhaid colli pwysau yn eich pwysau...

Llifai ei chwys yn ffrwd oer i lawr ei gorff oherwydd pwysau'r bêl, ei ymdrech a'i ofn.

Cynhyddu mae'r pwysau arno i ymddiswyddo.

Cadwch eich Siart Pwysau mewn lle y gall pobl eraill ei weld yn hawdd.

Nid un pwys neu ddau yw pwysau a maint pob llysywen.

Bydd Joe Calzaghe o Drecelyn yn amddiffyn ei Bencampwriaeth Pwysau Uwch-ganol y Byd am y pumed tro yn Wembley ar Awst 12.

Rhoddodd y galw mawr am lechi Gogledd Cymru yn ystod y ganrif ddiwethaf gyfle i'r ardal ddatblygu fel man allforio unigryw ac, oherwydd pwysau a maint y cynnyrch, y llongau hwylio a ddarparai'r dull gorau o gludo.

Cynllunio'ch diet Cyn eistedd i lawr i gynllunio'ch patrwm colli pwysau, gwnewch yn siwr eich bod wedi deall y Canllaw i golli pwysau'n llwyddiannus ac wedi deall yr awgrymiadau sydd yn y Cynllun deg pwynt.

Mi roedd o hefyd yn feirniadol eu bod wedi ceisio rhoi pwysau gwleidyddol ar y Cynulliad.

W^yr neb beth yw'r rheswm pan na all pawb o'r un pwysau bwnio mor galed â'i gilydd a fydd neb ychwaith yn dod o hyd i ergyd drom nac yn llwyddo i ddatblygu un os na fydd hi ganddo o'r cychwyn.

Chwarter y pwysau yma fydd y ceiliogod ac wedi ymsefydlu yn nes i'r môr.

Bydd cydbwysedd fel hyn yn eich helpu i edrych ac i deimlo'n dda tra'n colli pwysau ar yr un pryd.

Ni fydd cyfnodau o orffwys rhwng dau gyfnod gwaith ar yr un ymrwymiad yn llai na deuddeng awr fel arfer, heblaw am achosion o argyfwng fyddai'n atal cwblhau'r gwaith a rhoddir ystyriaeth lawn i'r pwysau gormodol a allai fod ar yr Artist o ganlyniad i gwtogi ar y cyfnod gorffwys.

Bydd ymarfer corff yn eich helpu i golli pwysau drwy losgi caloriau ychwanegol.

Ond bocsiwr oedd Joe Erskine, a fyddai neb a ŵyr rywbeth am y bysnes yn debyg o amau nad y 'Jolting Joe' oedd y bocsiwr pwysau trwm medrusaf a fu yn y gwledydd 'ma erioed.

Wedi'r cyfan, does dim cymhelliad i'r bobl weithio'n ddiwyd, ac felly, yn naturiol ddigon, mae pawb yn symud wrth eu pwysau.

Rhoddwyd, hefyd, ddarpariaeth ar gyfer ei gostau teithio a chanpunt y flwyddyn i dalu i was am wneud y gwaith ar y tyddyn na fedrai ef ei hun ei wneud oherwydd pwysau ei ddyletswyddau.

Yn ffodus, ac oherwydd pwysau cyson a pharhaol o du'r undebau amaethyddol, mae'n fwy na thebyg y caiff gwaharddiad parhaol ar yr hormon yma gael ei gyflwyno maes o law.

Bydd hyn yn gosod pwysau aruthrol ar ysgolion gwledig bychain.

Geisio sefydlu Fforwm Addysg i Gymru i ddwyn pwysau ar y Llywodraeth i ddarparu adnoddau digonol Mewn cyfnod pan fo'r Cynghorau newydd yn gyffredinol yn cael eu llesteirio gan fanylion ad-drefnu, mae cynghorwyr Ceredigion yn haeddu clod am geisio gweledigaeth o drefn addysg deg ar gyfer y dyfodol.

Rhwygodd y gwreiddiau a holltodd y canghennau dan y pwysau a gorweddodd y dderwen falch yma ar y ddaear.

Dwy dunnell o fagiau oedd gan y cwmni pan gyraeddasant, ond ymhell cyn diwedd y daith yr oedd y pwysau wedi codi i wyth o dunelli.

Dylai hyn ddarparu digon o galoriau i chi i aros o fewn yr ystod pwysau y dymunwch fod ynddo, heb ychwanegu llawer mwy o fraster a siwgr a allai effiethio ar eich iechyd.

Nid oedd Daniel yn gawr o ddyn, ond beth bynnag oedd pwysau'r blaten ni chlywais ef yn cwyno.

Galwyd ar i ysgolion Cymru i wrthod pwysau newydd eleni gan y Toriaid i optio allan o'r gymuned leol ac i mewn i reolaeth uniongyrchol gan y Toriaid a'u Quangos.

Priodol yw cofio fod pwysau mawr ar Thomas Charles a'i debyg i brofi y gallent gadw trefn ar eu dilynwyr.

Jimmy Wilde yn ennill pencampwriaeth pwysau pryf y byd.

Byrdwn yr anerchiadau oedd hawl Cymru i fwy o reolaeth ar ei bywyd ei hun, i Senedd, a hynny am fod Cymru'n genedl ac am fod y pwysau gwaith yn Westminster yn golygu nad oedd materion Cymreig yn cael dim byd tebyg i chwarae teg gan y Llywodraeth.

Dyma rai awgrymiadau ar sut i gadw at eich pwysau.

Mae llawer o bobl yn ei chael hi'n haws colli pwysau gyda chefnogaeth pobl debyg iddyn nhw eu hunain.

Mae pwysau ar Manchester United, hefyd, ar ôl iddyn nhw golli 2 - 1 oddi cartre yn erbyn Anderlecht.

Mae tatws, ymysg eraill o'r carbohydradau cymhleth, yn fwyd priodol i'w gymryd yn gymedrol ar gyfer cynnal pwysau cywir.

'Mae pwysau ar y dyfarnwr drwy'r amser - rhaid iddo ganolbwyntio am chwe awr y dydd.

Yn ychwanegol mae'r mewnfudwyr yn gosod pwysau cynyddol ar awdurdod lleol ac ar yr adnoddau sydd ar gael ar ffurf cymorthdal i wella tai.

Rhaid i'r Cynulliad wrthod y pwysau ac adeiladu ein Trefn Addysg ein hunain yng Nghymru.

pwysau trwm digamsyniol y lasgangen yn tynnu y ffordd yma a'r ffordd acw ...

Arwydd o rym y cwmni%au hysbysebu yw eu bod yn gallu rhoi pwysau ariannol ar y sianeli teledu drwy dynnu hysbysebion yn ôl os nad ydynt yn cytuno efo cynnwys rhaglen.

Siomwyd Fidel yn arw gan Gorbachev a perestroika; er gwaethaf pwysau gan y Sofietiaid, gwrthododd weithredu unrhyw beth tebyg yng Nghuba.

Cadwch gofnod o'ch pwysau ar eich siart.

Fodd bynnag, os yw'ch pwysau'n dechrau codi, ewch yn syth yn ol i'ch cynllun colli pwysau.

Hi oedd yn gyfrifol am drefnu rali yng Nghaerdydd yr wythnos diwethaf sy'n rhan o gyfres fydd yn cael eu cynnal trwy Brydain er mwyn rhoi pwysau ar y llywodraeth i sicrhau bod yr anabl yn cael yr un hawliau a phawb arall yn y gymdeithas.

o annwyd, a bod rhai yn colli pwysau er gwaetha'r siwgr sydd mewn betys.

'dosraniad pwysau targedau Cyrhaeddiad yn y Gorchmynion Asesu.'

Cawn enghreifftiau hefyd o'r pwysau sy'n cael ei roi ar awdurdodau lleol o du llywodraeth ganolog.

Gyda chyrhaeddiad oes newydd mewn llywodraeth leol, bachwyd ar y cyfle i ddwyn pwysau ar yr awdurdodau unedol i fabwysiadu egwyddorion Deddf Eiddo ac i'w cynnwys yn eu polisïau tai a chynllunio.

Mae Prince Naseem Hamed wedi colli coron pwysau plu WBO y Byd oherwydd ei amharodrwydd i amddiffyn ei deitl yn erbyn Istvan Kovacs o Hwngari.

Os yw'ch cymeriant o egni yn llai na'ch allbwn o egni yna caiff y braster ei droi'n egni a byddwch yn colli pwysau.

Os ydych yn dal i golli pwysau, bydd yn rhaid i chi fwyta mwy er mwyn digolledu hynny.

Bu pwysau mawr ar ITV gan y Comisiwn Teledu Annibynnol i ailystyried eu penderfyniad.

Parhaodd y pwysau, ond ni ddaeth ail gôl i Gaerdydd.

Gwelaf fod cwmni diodydd yn rhannu pwysau a dymbels bychain arbennig ar gyfer ystwytho tafodau pobl.

Canllaw i golli pwysau'n llwyddiannus Ymgynhorwch a'ch meddyg cyn dechrau'ch diet os ydych yn cymryd unrhyw fath o feddyginiaeth neu os ydych yn dioddef o unrhyw gyflwr meddygol.

BYDD Robbie Regan y bocsiwr pwysau pryf o'r Coed Duon yn ymladd David Griman am bencampwriaeth y byd yng Nghaerdydd yn gynnar yn y flwyddyn newydd.

Mae pwysau ar gwmni%au i werthu eu cynnyrch er mwyn gwneud arian ac mae'n nhw'n barod felly i ddefnyddio pob dull posibl o gyrraedd y farchnad.

Ar ôl amddiffyn teitl pwysau uwch-ganol y WBO am yr wythfed gwaith nos Sadwrn, fe allai Joe Calzaghe fod ar drothwy'i ornest fwya erioed - gyda Roy Jones Junior, pencampwr byd y pwysau is-drwm.

Nid yw'r egwyddorion allweddol i'r Canllaw i golli pwysau'n llwyddiannus yn newid, ond maent yn rhoi cyfle i gryn dipyn o hyblygrwydd.

Y tro hwn, yn fwy nag erioed ers i Henry gyrraedd Cymru, mae'r pwysau arno i brofi'r ffydd hwnnw - ac efallai na fydd crafu buddugoliaeth yn ddigon da y tro hwn.

Yn syml, os ydych eisiau colli pwysau, gallwch naill ai ostwng eich cymeriant o egni (h.y.

Dylai'r Cynulliad wrthod y pwysau sydd oddi wrth y Toriaid, prifathrawon rhai ysgolion mawr ac eraill yn Lloegr am ddosrannu cyllidebau'n uniongyrchol i ysgolion gan dorri allan Awdurdodau Lleol.

Howard Winstone yn ennill pencampwriaeth pwysau plu y byd.

Pa ddull bynnag o gynnal eich pwysau y byddwch yn ei ddewis, dylech barhau i bwyso'ch hun yn eithaf reholaidd.

Pe bawn i'n mynd fyddai dim rhaid i mi feddwl am fwyd, a doedd beth bynnag oedd yn gymorth yn y frwydr fythol yn erbyn ennill pwysau ddim yn ddrwg i gyd.

Ond rywbryd cefnodd ar Gymru, a gwyddwn - drwyr codwr pwysau Myrddin John - ei fod mewn swydd dda rywle yn nwyrain Lloegr.

Peidiwch ag anghofio ymarfer corff yn rheolaidd - dylai chwarae rhan hanfodol mewn unrhyw raglen colli pwysau gan ei fod yn helpu i losgi caloriau.

Os ydi llenor i gael ei demtio i'w ladd ei hun, fe ddylai'r pwysau i wneud hynny godi o'r tu mewn iddo ac nid o'r tu allan.

Am wythnosau bu Rhian yn ddrwg ei hwyl o ganlyniad i'r pwysau arni.

Rhyfeddach lawer yw fod y Methodistiaid, gan nad oedd pwysau ariannol o Lundain arnynt hwy, wedi penodi tri athro nad oeddynt Gymry i'w coleg yn Y Bala.

Waeth beth sy'n cael ei wneud iddo, mae 'na bob amser un lle, o fewn pedair awr ar hugain, fydd yn sor oherwydd y pwysau.

Cofier mai'r braster yn y pryd hwn yn hytrach na'r pysgod a'r tatws sy'n debyg o beri ennill pwysau.

Mae Coventry, felly, ddau bwynt y tu ôl i Middlesbrough, a mae'r pwysau ar dîm Terry Venables nawr, ar ôl iddyn nhw golli 2 - 1 yn erbyn Ipswich.

Mae'r awgrymiadau canlynol yn rhoi syniadau ymarferol i chi er mwyn eich cynorthwyo i golli pwysau ac i fabwysiadu ffordd iachach o baratoi a choginio bwyd.

Ceisiwch osgoi gormod o fraster a siwgr a cheisiwch fwyta mwy o ffrwythau a llysiau, ond peidiwch a cheisio colli pwysau.

Ar hyn o bryd rhoir pwysau cynyddol ar FIFA - corff rheoli'r gêm ledled y byd - i ystyried Gwledydd Prydain fel un wlad yn unig ar gyfer cystadleuthau rhyngwladol megis Cwpan y Byd.

Ni ddulid osgoi'r bwydydd hyn yn gyfan gwbl pan fyddwch yn ceisio colli pwysau gan eu bod yn eich helpu i deimlo'n llawn.

Dylech amcanu at osgoi rhoi'r pwysau rydych wedi eu colli yn ol.

Sicrhaodd Frank Warren y ffeit a bydd yn gyfle i Dai Gardiner, sy'n rheoli Regan, gael pencampwr y byd arall dan ei adain yn ogystal a Steve Robinson, pencampwr pwysau pryf y byd, sy'n dod o Gaerdydd.

Mae'n rhaid cydnabod fod y meddwl Cristionogol yng Nghymru hyd at ddechrau'r ganrif bresennol wedi rhoi pwysau trymach ar Dduwdod Crist nag ar ei ddyndod.

Dyma'r ffordd fwyaf effeithiol o golli pwysau a byddwch yn teimlo'n iachach ac yn fwy bywiog o ganlyniad i hyn.

'Dan ni am golli'r pwysau yn hamddenol, ac felly'n fwy effeithiol, fel bod y corff yn cael amser i addasu.'

Gwnaeth y pwysau ychwanegol i'r llong wyro i un ochr a throi drosodd.

Ystyriwch ymuno a chlwb colli pwysau neu hyd yn oed drefnu grŵp eich hun.

Yr oedd pwysau mawr o ganlyniad am fwy a mwy o ddefnyddiau darllen yn Gymraeg.

'Aros,' meddai'n gynhyrfus, 'rwy'n gweld y pwysau.

Y math gorau o ymarfer corff er mwyn colli pwysau yw ymarferion aerobig.

Oherwydd y pwysau ychwa- negol, fydd y car ddim yn tynnu cystal ag arfer, ni fydd mor chwim yn codi cyflymder nac mor effeithiol yn arafu.

Bu proses hir o leihau'r nifer o weithwyr yng Nghanolfan y cwmni yn Llanfihangel ar Arth a nawr mae Hyder yn dwyn pwysau ar ragor o weithwyr i adael.

Roedd pob parsel yn uchafswm y pwysau y caniateid ei yrru drwy'r post.

Ond wedi pwysau ar ITV bu iddyn nhw benderfynu symud y newyddion yn ôl i ddeg o'r gloch - yr un amser ag un y BBC.

Yn gyntaf, rhoddwyd pwysau mawr ar y Pwyllgor Cynllunio i edrych yn fwy ffafriol ar geisiadau lleol am dai.

C'est la vie!CYMRY'N COLLI PWYSAU

Ymhellach, meddai, rhaid ystyried mai gosod ffiniau a rhoddi pwysau y mae'r is-ffurfiant ar sefydliadau'r uwch- ffurfiant, yn hytrach na gosod ffurf bendant, rhag-ordeiniedig arnynt.

Hefyd mae pwysau o gyfeiriad GATT a'r trafodaethau gyda UDA a chost cynyddol yr holl gyfundrefn yn araf danseilio ei werth economaidd a gwleidyddol.

Dangosodd Egwyddor Perthnasedd Einstein hefyd na fyddai pwysau yn ymddangos yr un fath i ddau wyliwr sy'n teithio ar gyflymdra gwahanol mewn perthynas a'r gwrthrych.

Ceisiwch gynnwys eich teulu/ ffrindiau yn eich cynllun cynnal pwysau a gofynnwch iddynt i ymddiddori yn eich llwyddiant.

Mae Cymry'n Colli Pwysau yn rhaglen hybu iechyd sy'n annog pobl i fod yn ffit, a cholli pwysau'n ddiogel a llwyddiannus.

Mewn ymateb i'r pwysau am ddeddf iaith, cyhoeddodd yr Ysgrifennydd Gwladol ei fwriad i sefydlu Bwrdd Iaith Ymgynghorol.

Un o'i fuddugoliaethau mwyaf cofiadwy efallai oedd honno dros Willie Pastrano a ddaeth wedi hynny'n bencampwr pwysau go drwm y byd.