Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

pwysicaf

pwysicaf

Ac i brif arweinydd y mudiad, John Henry Newman, yn arbennig, datblygodd hwn i fod y cwestiwn pwysicaf oll.

Y canlynol yw'r achosion fynychaf: afiechyd (fel dolur y galon, is thyroidedd, ac anallu i symud); methiant y corff i adnabod gostyngiad gwres yn ddigon cyflym, fel na all y person grynu a chymryd mesurau i ymdwymo; cyffuriau (fel Largactil a'r ddiod feddwol i ormodedd); a'r achos pwysicaf oll, sef cwymp y tymheredd i radd rhy isel i'r corff fedru ymdaro ag ef.

A allech ddychmygu un o'n swyddogion pwysig yn dweud, "Y Gymraeg yw'r peth pwysicaf yn y Cwricwlwm Cenedlaethol yng Nghymru%?

Trefn yw'r peth pwysicaf a feistrola baban, yn anymwybodol mae'n wir a thros gyfnod o amser.

Nid ein bod yn chwilio am fargen wrth gwrs, gan fod y bachyn tynnu yn un o'r ategolion pwysicaf y byddwch yn eu prynu.Gwell glynu at rai o'r gwneuthurwyr mwyaf adnabyddus, megis Witter, sy'n darparu gwahanol fodelau ar gyfer gwahanol geir.

Penderfyniad pwysicaf y cyfarfod oedd cynnal Ysgol Haf y flwyddyn ganlynol.

darganfuwyd bod un o'r ffiniau tafodieithol pwysicaf yn cyd-daro â'r hen ffin rhwng llwythau Gâl a'r Etrwsgiaid.

I chi a mi heddiw mae'n ddrama hen ffasiwn iawn, yn llawn cymeriadau stoc, ond nid yw heb ei rhinweddau, a'r peth pwysicaf yn ei chylch yw ei bod yn llawn beirniadaeth gymdeithasol ar draha landlordiaid, rhagrith rhai crefyddwyr a pharchusrwydd cyfoglyd y dosbarth canol Cymreig newydd.

Y gwahaniaeth pwysicaf rhwng y Gymdeithas a phlaid wleidyddol oedd y dulliau a ddefnyddid i sicrhau newid, sef lobïo a thorcyfraith yn hytrach nag ymladd etholiadau.

Golyga hyn y bydd un o lyfrau plant pwysicaf yr ugeinfed ganrif (a welodd olau dydd gyntaf yn 1931) yn ymddangos ar ei newydd wedd erbyn y flwyddyn 2000.

Dyma'r cwestiwn pwysicaf i unrhyw un sy'n gwneud rhywbeth efo'r celfyddydau.

Gellid gweld bod yna gysylltiad rhwng diffygion yr awyrgylch moesol a'r diffygion yn yr amgylchedd materol, a rhwng y rheini a'r gwasgu a oedd ar addysg i wneud iawn amdanynt, dyna arwain at un o'r themâu pwysicaf yn yr Adroddiadau.

Un o'r retrofirysau yw HIV, ac ef yw'r pwysicaf.

Dyma rai o'r pwysicaf:

Felly, yn ogystal â bod yn un o sgîl-gynhyrchion pwysicaf pob diwylliant, y mae iaith hefyd yn feithrinfa i ddiwylliant ac yn gyfrwng i sicrhau ei barhad.

Y pwysicaf o'r pwyllgorau sefydlog oedd y Pwyllgor Gweinyddol - pwyllgor brys yr Undeb - a gyfarfyddai'n amlach na'r un arall i drafod materion yr oedd yn rhaid cael barn sydyn arnynt.

Fel arweinydd y Cuban American Foundation, MasCanosa yw'r dylanwad pwysicaf ar bolisi yr Unol Daleithiau tuag at Cuba, ac un o'i gydweithwyr agosaf yw mab yr Arlywydd George Bush.

Peidiwch ag anghofio nodlyfr - un o'r pethau pwysicaf ynglyn ag arbrofi yw nodi'r hyn sy'n digwydd fel y medrwch ei gymharu a'r hyn fydd yn digwydd y tro nesaf.

Gyda phob deddf neu ddamcaniaeth, y peth pwysicaf y dylid ceisio ei wneud yw ei chwalu a'i gwrthdystio (falsify).

Dyma, felly, y pwnc pwysicaf ohonynt i gyd yn yr ysgolion - Cymru yn ogystal â Lloegr.

Y pwysicaf o'r rhain oedd y gwelliant a hawliai fod rhaid i 40% o'r etholwyr bleidleisio o blaid ffurfio cynulliad.

Dylai arolygwyr grynhoi'r cryfderau a'r gwendidau a welir wrth arsylwi addysgu'r pynciau, gan amlygu'r agweddau pwysicaf y mae angen rhoi sylw iddynt.

Ond y peth pwysicaf fydd gwybod ei bod hi'n ddiogel.

Dyma un o themâu pwysicaf hanes modern ein cyfandir.

Serch hynny, mae i'r dull hwn ei wendidau yn ogystal, ac ymhlith y pwysicaf o'r rhain yw ei fethiant i drafod anghyfartaledd a grym (e.e.

Ac felly, o'u safbwynt hwy, Saesneg yw'r peth pwysicaf yn y Cwricwlwm Cenedlaethol yng Nghymru fel yn Lloegr.

Myn Saunders Lewis mai 'i gyfraniad i athroniaeth wleidyddol yw ei gyfraniad pwysicaf.

Ond y pwysicaf o noddwyr y sir yn y cyfnod hwn yn ddiamau ydoedd Hopcyn ap Tomas ab Einion (c.

Fel sy'n naturiol i lythyr, y Rhagenwau pwysicaf yw 'fi' a 'ti'.

Hyd troad y ganrif hon ystyrid Dydd Calan fel diwrnod pwysicaf y tymor yng Nghymru, ond yn ystod y ganrif hon fe'i disodlwyd gan y Nadolig.

Y peth pwysicaf y gallwn ni ei wneud rwan yw parhau gyda'n polisïau a'n hymgyrchoedd, gan wybod fod yr hyn yr ydan ni yn ei wneud yn mynd i newid pethau.

Bellach mae'r diwydiant hwn yn datblygu i fod yn un o'r rhai pwysicaf oll i'n dyfodol.

Ond efallai mai un o'r dylanwadau pwysicaf ar y tirwedd yw'r bobl - ffermwyr, adeiladwyr a choedwigwyr.

Gwerslyfrau/ Cyfarpar Rhoddwyd y flaenoriaeth ar hyd y blynyddoedd ar y gwerslyfr fel y pwysicaf o'r adnoddau dysgu.

Academi gerdd y ddinas oedd, ac yw, un o'r rhai pwysicaf yn Ewrop gyfan, gydag unarddeg o gyfansoddwyr blaenllaw ar y staff heddiw.

Gwahoddwyd Daniel Huws, ein prif awdurdod ar lawysgrifau'r oesoedd canol, i baratoi disgrifadau o'r llawysgrifau pwysicaf sy'n cynnwys y testun, a Ceridwen Lloyd-Morgan i ysgrifennu rhagymadrodd pwrpasol ar sail ei gwybodaeth arbenigol am berthynas y testunau Cymraeg â'r gwreiddiol Ffrangeg; mae canfyddiadau'r ddau yn ddadlennol a diddorol.

Uwchben y farchnad, mae un o orielau pwysicaf y ddinas sy'n cynnwys portreadau liwgar gan rai o brif arlunwyr Pþyl, yn arbennig o'r ddeunawfed a'r bedwaredd ganrif ar bymtheg.

Y gosodiad pwysicaf yn y paragraff, fe ddichon, yw'r cymal sy'n dweud fod Arthur wedi ymladd yn erbyn y Saeson gyda brenhinoedd y Brytaniaid, ond mai ef oedd 'arweinydd y brwydrau' y dux bellorum.

Yn y lle cyntaf, ni all model statig, diamser, ymdrin o gwbl ag un o'r problemau ymarferol pwysicaf sy'n wynebu pob pennwr polisi%au, sef problem amseru; ac yn yr ail le, yn groes i dybiaeth (vi), nid ydyw gallu cynhyrchu'r economi yn aros yn ei unfan hyd yn oed dros gyfnod cymharol fyr.

Medrwn flasu a chlywed arogl, clywed swn, cyffwrdd a gweld pethau o'n cwmpas.Gweld yw'r synnwyr pwysicaf.

Ond y pwyntiau pwysicaf oedd y tri phwynt am fuddugoliaeth sy'n cynnal sialens Abertawe ar frig y cynghrair.

Gwêl Cymdeithas y laith Gymraeg sefydlu'r Cynulliad Cenedlaethol fel un o'r digwyddiadau pwysicaf yn holl hanes diweddar Cymru.

O orfod cydnabod hynny, mae'n frawychus sylwi ar ein parodrwydd i anwybyddu'r dylanwad pwysicaf ar ein bywydau.

Neu hyd yn oed "y peth pwysicaf yng Ngwynedd neu Dyfed"?

Arf cryfaf Fidel, fodd bynnag, yw sail pwysicaf ei chwyldro, sef gwladgarwch a chenedlaetholdeb y bobl.

Gan mai 'cariadon' oedd y gair pwysicaf yn fy ngeirfa erbyn hyn, dechreuais feddwl tybed a fu ganddi gariad erioed.

Go brin fod y dorf enfawr fu'n cymeradwyo ei fuddugoliaeth fel arlywydd yn sylweddoli gwir ystyr yr araith fer o falconi'r Casa Rosada 'Rwy'n eich gwahodd i enedigaeth cyfnod newydd, cyfle newydd, a all fod yr un olaf a'r pwysicaf yn ein hanes,' meddai.

Roedd o yn ymarfer rhannau pwysicaf gwir annibyniaeth - rheolaeth a dewis.

Dyma un o feirdd pwysicaf y dyfodol yn ymddangos ar y llwyfan eisteddfodol, ac yn llunio awdl ragorol a oedd yn drwm o dan ddylanwad athroniaeth Thomas Aquinas.

Wele ragflas o rai o gredoau pwysicaf Luther yn ddiweddarach.

Felly mae'r dystiolaeth ynglŷn ag un o ymgyrchoedd radicalaidd pwysicaf yr wythdegau wedi eu diogelu ar gyfer haneswyr y dyfodol.

Y tîm Cynulliad Cenedlaethol O ganlyniad i ddyfodiad Cynulliad Cenedlaethol Cymru cynhyrchwyd llu o raglenni a oedd yn darparu darllediadau eang o un o'r achlysuron pwysicaf yn hanes Cymru.

Wrth gytuno'n llwyr â hynny, fe ddywedwn innau y bydd y broblem hon yn un o'r pynciau pwysicaf a fydd yn wynebu Huw Jones wrth iddo gamu i'w swydd newydd.

YMHLITH YR ANIFEILIAID: Raymond B.Davies yn pori ymhlith cyhoeddiadau yn ymwneud ag anifeiliaid: Amaethyddiaeth fu diwydiant pwysicaf Cymru erioed ac yn ystod canrifoedd o ffermio'r tir datblygodd ein hamaethwyr nifer o fridiau a ystyrir heddiw yn nodweddiadol Gymreig.

A chaniata/ u na wyddom nemor ddim am y cymorth a roes dylem gofio y disgrifir ef fel un o gynrychiolwyr pwysicaf y Dadeni Dysg yng Nghymru.

Gan ei fod yn un o'r llwybrau mul a sled pwysicaf yn yr hen ddyddiau, mae'r Scaletta ymhlith y rhwyddaf o fylchau uchel y Grisiwn i gerddwr.

Sylweddoliad pwysicaf Cymdeithas yr Iaith oedd gweld na ellid ysgaru'r iaith o'i chyd-destun economaidd a chymdeithasol.

Nid gwrthwynebiad a phrotest a methiant oedd yr elfennau pwysicaf yn y trychineb hwnnw ond y bygwth a'r anwybyddu.

Nid gweithredu gwladwriaethol yw'r gweithredu pwysicaf oll, fel y tyb rhai.

Er y gellid yn hawdd bod yn ddigalon ynglŷn â sefyllfa'r Gymraeg heddiw a'r treialon sydd yn wynebu plant ac oedolion ifainc, y mae un peth yn sicr, y mae unrhyw fuddsoddiad a wneid i'w hybu a'u cynnal yn y Gymru sydd ohoni yn un o'r buddsoddiadau pwysicaf a mwyaf gwerthfawr.

Er mai'r Brenin, ar un olwg, yw'r darn pwysicaf ar y bwrdd - fel darn i ymosod ac amddiffyn mae'n ddiwerth bron, a thra bo'n sefyll rhwng y ddau Gastell yn y rhes gefn, nid yw'n ddim ond rhwystr ichi ddefnyddio eich Cestyll yn effeithiol.

Y ffigur pwysicaf y mae'n ofynnol inni dderbyn dehongliad Layard ohono, er mwyn gwerthfawrogi ei holl ddamcaniaeth am y chwedl, ydyw Ysbaddaden Bencawr.

Roedd ein cwsmeriaid wedi nodi mai ymateb i alwadau ffôn oedd un o'r meysydd pwysicaf y dylid ei wella.

Un o'r pamffledi pwysicaf a gyhoeddwyd, ac y bu gwerthu mawr arno, oedd ...

Y Cyfarfod Cyffredinol a gynhelir bob mis Mawrth yw digwyddiad blynyddol pwysicaf y Gymdeithas.

Un o'r canolfannau pregethu pwysicaf trwy'r ganrif oedd Croes Sant Paul, gyferbyn ag eglwys gadeiriol Sant Paul yn Llundain.

Fel y buesid wedi disgwyl, 'roedd y llygaid ymhlith aelodau pwysicaf y corff i Waldo.

Yr ysgol bentref fu'r cyfrwng pwysicaf i ddatblygu'r ymwybyddiaeth hon o berthyn i'r gymuned leol.

yn fuan iawn, y telegraff hughes oedd peiriant safonol yr amerig, ac yn dilyn llwyddiant ysgubol y cwmni gwreiddiol, yr oedd nifer o gwmni%au wedi dod at eu gilydd yn fuan wedyn i ffurfio'r western union telegraph company, sydd hyd heddiw y cwmni telegraff pwysicaf yn yr unol daleithiau.

Y balans pwysicaf inni ei gael yn iawn, wrth gwrs, yw'r un rhwng gallu creadigol a sgiliau rhedeg busnes.

Ystyrid y Synopsis yn un o lyfrau mathemateg pwysicaf ei gyfnod, a thrwyddo daeth William Jones i sylw dau o brif fathemategwyr Prydain ar y pryd, sef Edmund Halley (y gŵr a roes ei enw i gomed) a Syr Isaac Newton.

Ac yn drydydd, am iddo ymdrafferthu i adnabod ysgrifeniadau Morgan Llwyd a rhai o'i gydnabod pwysicaf, ac am iddo eu deall, camp nid bechan.

Yr anerchiad pwysicaf, fodd bynnag, oedd un Saunders Lewis yn y cyfarfod agoriadol ar "Egwyddorion Cenedlaetholdeb" a gyhoeddwyd yn ddiweddarach fel pamffledyn cyntaf y Blaid.

Eto, y cwestiwn pwysicaf yw'r un concrit.