Ufudd-dod i draddodiad yw pwnc y llyfr: pwysigrwydd amddiffyn purdeb ffydd y tadau rhag cael ei wenwyno gan heresi uchel-Galfiniaeth.
Un sylw ar gyfer yr academyddion cyn symud ymlaen - y mae pwysigrwydd neilltuol i lên gwerin cyfoes am ei fod yn cael ei astudio yng nghyd-destun y gymdeithas a'i creodd, ac felly yn ei gwneud hi'n haws i ddarganfod amcan neu bwrpas y stori neu'r gred - a thrwy hynny ddeall rhyw gymaint am ein cymdeithas a ni'n hunain ac am rôl llên gwerin drwy'r oesoedd.
Eilbeth, o ran pwysigrwydd, yw'r tir i fodolaeth y genedl, ond y mae'r ymwybyddiaeth o'r gorffennol hir sydd wedi ei grisialu yn y Gymraeg, a'r diwylliant sydd ynghlwm wrthi, yn hanfodol.
Gan ystyried pwysigrwydd y sylwadau hyn, cytunwyd mai'r nod o ddysgu Cymraeg fel ail iaith yn yr ysgol gynradd oedd: "rhoi amrywiaeth o brofiadau addysgol yn y Gymraeg am gyfnod helaeth o bob dydd, o'r flwyddyn gyntaf yn yr ysgol gan gymryd i ystyriaeth gyraeddiadau gwahaniaethol y disgyblion" Cytunwyd: a) bod angen rhagor o fyfyrwyr yn y Colegau Addysg â diddordeb mewn dysgu ail iaith; b) bod angen trochiant llwyr yn yr ail iaith mor gynnar â phosibl ac nad yw ugain munud y dydd o ddysgu ail iaith yn ddigonol; c) bod angen gosod lefelau cyrhaeddiad graddedig a fyddai'n sicrhau dilyniant a chynnydd.
Yr wythnos hon bydd yn rhaid i ti roi pethau yn nhrefn eu pwysigrwydd.
Ni ellir gorbwysleisio pwysigrwydd rôl llwyodraethwyr a rhieni dan y Ddeddf Addysg newydd.
mae'r Cyngor yn pwysleisio pwysigrwydd trin cwynion mewn ffordd bositif, fel rhan o reolaeth y BBC o'r broses gwneud rhaglenni.
O ystyried pwysigrwydd a pholblogrwydd yr Historia oddi ar yr amser y'i cyfansoddwyd yn y ddeuddegfed ganrif, y mae'n syn meddwl mor annigonol fu'r gwaith testunol a wnaed arno yn y gorffennol.
A yw hi'n bryd i ni ystyried pwysigrwydd y pentrefi "pasio drwodd" 'ma yng Nghymru?
Fodd bynnag, gall strwythur yr adroddiad pwnc fod ar sawl ffurf wahanol; er enghraifft, gall fod wedi'i strwythuro yn ôl Targedau Cyrhaeddiad, neu Gyfnodau Allweddol, neu yn ôl pwysigrwydd y farn sydd i'w mynegi a'r materion sydd i'w codi.
Ond roedd y crefyddwyr yn dal i gredu yn nyfodol yr achos ac wedi sylweddoli pwysigrwydd hanes, a dysgu ei wersi hyd yn oed os nad oedd y gwŷr rhyfelgar wedi gwneud hynny.
Mae pwysigrwydd yr agweddau hyn ar waith y pwyllgor yn debyg o gynyddu, ac eleni dechreuwyd cofnodi ar ddata-bâs yr holl ddatblygiadau diweddar a'r rhai sydd ar y gweill.
Gallwn brofi pwysigrwydd yr uned bentrefol trwy gyfeirio at nifer o enghreifftiau e.e.l. Pan unir capeli, gan gynnal gwasanaethau bob yn ail mewn gwahanol bentrefi, tuedda'r mwyafrif o'r gynulleidfa ddod bob amser o'r pentref y cynhelir y cwrdd ynddo e.e.2. Pan fydd plentyn yn cael ei symud - trwy ddewis rhieni - i ysgol pentref arall, tuedda'r plentyn golli cysylltiad cymdeithasol anffurfiol hefyd â gweddill plant y pentre e.e.3. Pan gae'r ysgol, bydd holl blant y pentre'n colli'r ymwybyddiaeth o fod yn griw y pentre wrth fynd i'r ysgol uwchradd ac felly'n colli'r ymwybyddiaeth o berthyn ar y lefel hon.
Nid yw gwyddonwyr, gwleidyddwyr, a phobl yn gyffredin ond yn dechrau sylweddoli y pwysigrwydd ynghlwm â deall y prosesau sy'n digwydd yn ein moroedd, a'u heffeithiau ar weddill yr amgylchfyd.
Pwysleisiodd Mrs Evans y pwysigrwydd o ddangos yr adroddiadau hyn i bawb a fynegai ddiddordeb.
Onid yw amrywiaeth profiadau y dynion hyn yn tanlinellu pwysigrwydd y profiad unigol?
Yn anffodus, er eu pwysigrwydd ac er eu llwyddiant, prin yw nifer yr ysgolion Cymraeg cydnabyddedig, ac afraid yw sôn am sefydliadau Cymraeg yn y sector addysg uwch.
Gwelodd rhai y 'rhywbeth' hwnnw yn nhermau athroniaeth wleidyddol, ond roedd eraill yn meddwl amdano yn nhermau'r pwysigrwydd i feithrin y meddwl gwyddonol tuag at bopeth - yr ymagwedd a grisialwyd yn y geiriau, 'oni chaf weled .
Effaith hyn fydd ehangu a dyfnhau ei swyddogaeth gysylltiol, fel y llunnir adroddiad blynyddol sy'n dangos y modd y dyrennir cyllid, i wahanol swyddogaethau'r Grwp, fel y gall asesu'r pwysigrwydd a roddir i faterion yr amgylchedd, mewn perthynas â galw parhaus cymdeithas am fwynau, a mabwysiadu côd arfaethedig yr Adran ar ymarfer da.
Roedd hi'n amlwg fod plant yn cael eu dysgu'n ifanc i barchu un o egwyddorion sylfaenol Fidel Castro, sef pwysigrwydd gwaith.
Roedd - - am drafod pwysigrwydd a gwerth yr Anghenion.
Mae hon yn ffordd dda o ddarlunio pwysigrwydd cydweithio.
Yr oedd llawer yn nodi pwysigrwydd partneriaethau o ran datblygu defnyddio'r iaith.
Gan ystyried pwysigrwydd y sylwadau hyn, cytunwyd mai'r nod wrth ddysgu Cymraeg fel ail iaith yn yr ysgol gynradd yw: "rhoi amrywiaeth o brofiadau addysgol yn y Gymraeg, am gyfnod helaeth o bob dydd o'r flwyddyn gyntaf yn yr ysgol, gan gymryd i ystyriaeth gyraeddiadau gwahaniaethol y disgyblion" Er mwyn cyrraedd y nod hwn rhaid gofalu nad yw'r label ail iaith yn gostwng disgwyliadau.
ond yn ddiweddar daethpwyd o hyd i'w sylfeini a hawdd inni heddiw yw dychmygu pwysigrwydd yr adeiladau hyn.
Yn aml, bydd y frwydr i achub ysgol yn bywiogi pentref ac yn sbarduno gweithgarwch cymdeithasol mawr ac y mae hyn ynddo'i hun yn dangos pwysigrwydd ysgol i bentref.
Pwysigrwydd mwyaf y penderfyniadau hynny, mae'n debyg, oedd iddynt ostegu'r storm a oedd yn bygwth codi ers cryn amser oherwydd croesdynnu rhwng gwahanol garfanau yn y Blaid ar y ddau bwnc.
Gwyddai'r Dirprwywyr yn burion beth oedd pwysigrwydd canolog iaith ble bynnag y byddent, yn Lloegr a Chymru fel ei gilydd.
Drwy'r Ymofynnydd gofalodd drwytho'r mudiad yn hynt a helyntion ei orffennol, gan groniclo nid yn unig ffeithiau moel eithr eu gwerthfawrogi'n graff, gan danlinellu cyfraniad unigryw 'hen Gewri'r Ffydd' a'u pwysigrwydd i'r eglwys gyfoes.
Prinnach oedd unrhyw feirniadaeth a'i bryd ar amlygu pwysigrwydd ysgrifennu o'r fath os oedd y Gymraeg i oroesi'n gyfrwng llenyddiaeth a fyddai'n berthnasol i'r ardaloedd mwyaf poblog yng Nghymru'r ugeinfed ganrif," meddai.
Rydyn ni yn PDAG yn awyddus iawn i weld cydnabod pwysigrwydd aruthrol addysg yn y blynyddoedd cynnar a safle'r Gymraeg yn yr holl wasanaethau i'r plentyn ifanc a'i deulu.
Yn wir, gallai pwysigrwydd cynyddol Technoleg Gwybodaeth mewn gweinyddu a chynnal busnes beunyddiol ymhob sector ddod yn fygythiad difrifol o ran hyblygrwydd corff i weithredu'n ddwyieithog, gan mai yn Saesneg yn unig yn aml y mae'r deunyddiau ar gael.
Ni ddylid di-ystyru pwysigrwydd yr adroddiad a'r cyfle i roi cyhoeddusrwydd pellach, ar wahoddiad y llywodraeth, i egwyddorion Deddf Eiddo a'r chwe pwynt fel ateb i'r sefyllfa dai yng Nghymru gyfan.
cytunwyd hefyd fod y das lafar yn bwysig i gadarnhau statws yr iaith gymraeg yn y cwricwlwm ac i gadarnhau pwysigrwydd gwaith llafar er mwyn cyflawni amcanion y cwricwlwm cenedlaethol cymraeg.
Aeth pethau rhagddynt yn ddigon annwyl a chyfeillgar er i Alun Michael ddweud fod Peter Hain wedi tanseilio" pwysigrwydd gwella ffyrdd y Rhondda mewn ateb i gwestiwn Cymraeg gan Geraint Davies, yr aelod dros gwm enwocaf Cymru.
Ffwrdd â ni am yr awyren, a chyn cyrraedd Karachi, euthum at Bholu a chyda gwên gofynnais iddo beth oedd pwysigrwydd y sach.
Cyfrifoldeb gohebwyr teledu oedd cyfleu peth o'r wefr honno'n ogystal ag amlinellu pwysigrwydd y cytundeb diarfogi a arwyddwyd gan Mr Reagan a Mr Gorbachev yn y Tŷ Gwyn.
"Dewch ag ef i mewn, Sam." "Ai ai, syr." Daeth y gŵr mawr i mewn, yn llawn pwysigrwydd.