Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

pwysleisio

pwysleisio

mae'r Cyngor yn pwysleisio pwysigrwydd trin cwynion mewn ffordd bositif, fel rhan o reolaeth y BBC o'r broses gwneud rhaglenni.

Prin fod angen pwysleisio cyfraniad yr Ysgol Sul i foes a diwylliant yr ardal yn y cyfnod hwnnw.

Penderfynodd y pwyllgor (oedd yn cynnwys Cadeirydd y Pwyllgor Gwaith a'r ddau Is-Gadeirydd) hefyd mai doeth fyddai pwysleisio swyddogaeth y Pwyllgor Cyllid yn ei waith o gadw trefn ar y treuliau trwy gyhoeddi rhybudd yn y London Gazette na fyddid yn anrhydeddu unrhyw ddyled os nad oedd y Pwyllgor Cyllid wedi rhoi ei fendith arno ymlaen llaw.

Pwysleisio wrth bob swyddog y daethom ar ei draws ein bod yn gyfieithwyr, rhag ofn iddynt gredu mai ein gwaith yw FS yn anad dim.

Mae'n holl bwysig fod cyswllt rhwng yr ochrau hyn gan mai nhw sy'n pwysleisio fod Datblygu a Rheolaeth yn rhan annatod o Tai Eryri.

Y maent yn pwysleisio na ddylai neb ddod i mewn i Ysgol Syr Huw Owen i barcio.

Pan yw'n gwneud gosodiadau cyffredinol am lenyddiaeth, ei duedd yw pwysleisio elfennau fel crefft a deall, ond wrth drafod llenorion unigol, y maent yn aml yn ei gario ar donnau angerdd nes ei fod yn traethu ar ddwyster eu gweledigaeth o fywyd.

Cafwyd tywydd braf a bob dydd buont yn cerdded ychydig filltiroedd allan i'r wlad gan alw mewn tafarndai gwledig am luniaeth a chael croeso cynnes gan y Gwyddelod ar ôl pwysleisio nad Saeson mohonynt.

Mae hynny ynddo'i hun yn arwyddocaol; mae'n ein gwneud yn ymwybodol o'r tyndra rhwng y grefydd 'newydd' a'r hen fywyd, ac yn pwysleisio mai mudiad gwerinol yw Methodistiaeth, ond ein bod ni yn y nofel yng nghwmni arweinwyr y mudiad - teulu cefnog Gwern Hywel (ac i Saunders Lewis y dosbarth pendefigaidd hwnnw, uchelwyr mawr neu fach, yw'r rhai sydd a'u gwreiddiau ddyfnaf mewn hanes), a'r uchelwyr newydd - y gweinidogion.

Byddent hwythau'n pwysleisio nodweddion da llys, plas neu fynachlog.

Er mwyn pwysleisio mai ymgyrch weithredol oedd hon dyma blastro'r blychau ffôn a basiem gyda phosteri pwrpasol.

A ydynt yn pwysleisio'r hyn y byddwch yn ei wneud ar y lleoliad, e.e.,

Mi fyddan nhw'n pwysleisio fod gwerthiant dur i wledydd tramor wedi gostwng 10% yn ystod y misoedd diwetha - a hynny oherwydd bod gwerth y bunt yn rhy uchel.

Gwelwn sut y gallai cymeriad ansicr Catrin flodeuo wrth iddi gael sylw am y rhesymau cywir ond mae'r tro yng nghynffon y stori yn pwysleisio'r ffaith bod y gymdeithas yn gwneud iddi deimlo'n alltud.

Yn wyneb y dehongliad "treisgar" a roddai rhai pobl barchus ar dân Penyberth, yr oedd e'n tybio mai da fyddai pwysleisio'n gyhoeddus mai plaid gyfansoddiadol a heddychol oedd y Blaid; ond yn ôl y cof sydd gennyf i, nid oedd e'n sicr mai doeth fyddai codi'r mater i'r gwynt yn y Gynhadledd: tebyg ei fod yn ofni yr ai'n ddadl fawr ar y cynnig, a hynny'n fel ar fysedd y collfeirniaid o'r tu allan.

Mae'r disgrifiadau yn canmol y tai i'r entrychion ac yn pwysleisio pob pwynt da ynglŷn â nhw.

Erbyn iddo gyfansoddi Meini Gwagedd, ac yntau yn ei weithiau diweddarach wedi pwysleisio gallu'r ewyllys ddynol, roedd wedi dechrau gweld mai hanfod bywyd yw'r ffordd y mae'r elfennau gwahanol wedi'u cyd-wau ynddo.

Rhaid pwysleisio bod rhai o'r llongau hwyliau mwyaf prydferth a welodd dyn erioed.

Nid oedd yr ardal yn un boblog a chofiaf Ernest Roberts yn pwysleisio droeon petai Pwllheli yn methu talu ei ffordd, y byddai hynny'n ddiwedd ar unrhyw obaith am gynnal y brifwyl mewn cylch gwledig o hynny ymlaen.

Ac rwy'n synnu na fyddai llywydd y Kirk wedi pwysleisio hynny yn ei apêl am bregethwyr tanbaid.

Bariton, Banciwr, Beirniad Yn ogystal â bod yn ganwr galluog mae arbenigwyr ym myd y gân fel JOHN STODDART a T GWYNN JONES yn pwysleisio bod Towyn hefyd yn feirniad praff.

Wedyn byddai'r gair dirprwyadaeth yn gyfeiliornus gan ei fod yn awgrymu mai ar ewyllys da'r awdurdod canolog y mae hawliau'r awdurdod mwy lleol yn dibynnu, tra bo'r egwyddor yn pwysleisio fod gan yr awdurdod lleol yntau hawliau.

Nid o safbwynt y wladwriaeth y meddylia ond o safbwynt yr un person dynol; a rhaid pwysleisio mai person unigol yw hwnnw ac nid unigolyn.

pwysleisio nad oedd unrhyw wlad i ochri drwy ryfel â gwlad a oedd yn rhyfela yn erbyn gwlad arall, nac i gefnogi dadl y naill wlad na'r llall dros fynd i ryfel.

Mae'r adroddiad yn pwysleisio hefyd tegwch rhwng cenhedloedd yn ogystal â thegwch i genhedlaethau sydd heb eu geni ac i ddynameg esblygiad cymdeithasol - nid mater o fferru'r sefyllfa nac o ddychwelyd i rhyw 'nirvana' neu Gwales ddychmygol yw datblygiad cynaladwy.

Ond ceir rhai agweddau yn y dehongliad offeiriadol sy'n pwysleisio ambell wirionedd pwysig arall:

Dewisodd y teitl er mwyn pwysleisio bod yr iaith Gymraeg yn parhau yn ddi-statws.

'Roedd ei genedlaetholdeb yn pwysleisio'r undod rhwng hanes, llenyddiaeth, celfyddyd, gwerthoedd cymdeithasol ac ideolegau gwleidyddol.

mae nofel yn brosiect naratif hir, tra bod stori yn brosiect naratif byr, er mwyn pwysleisio'r hyn sy'n amlwg i bawb ond beth mae hyn yn ei olygu i rywun fel fi, sydd â meddwl gwibiog, sioncyn-y-gwair, yn neidio o'r naill beth i'r llall o hyd, yw yw i'n gallu symud o'r naill brosiect naratif i'r llall yn gyflymach neu'n amlach wrth weithio ar stori%au byrion gan ddechrau prosiect hollol newydd bob tro.

Y mae'r Athro Ford, er hynny, yn pwysleisio fod y rhesymau a gynigwyd o blaid ac yn erbyn y ddamcaniaeth hon, fel ei gilydd, yn rhai cryfion, ac efallai'n wir y bydd modd cyfuno'r rhesymau hyn a chanfod y tu ôl i Arthur draddodiadau mytholegol a ymglymodd wrth berson hanesyddol.

Ond y mae Humphrey Llwyd yn pwysleisio bod y Gymraeg yn ei grym yn y man drefi, ac yn wir ei bod yn tueddu i ledu dros afon Dyfrdwy.

Er hyn, yr oedd y dyneiddwyr yn sicr yn ymdeimlo â bygythiad, ac yn wyneb hynny, yr oedd angen pwysleisio fwyfwy ogoniannau'r iaith Gymraeg a'r traddodiad Brytanaidd, ynghyd, wrth gwrs, a lladd ar y rhai oedd yn bradychu'r gogoniannau hyn drwy eu 'gollwng dros gof', a defnyddio ymadrodd Gruffydd Robert.

Mae angen pwysleisio'r ffaith y gallwn osgoi Hypothermia drwy gadw gwres mewnol y corff yn foddhaol.

Eglurodd fod i Feirdd Ynys Prydain gynt bedair Cadair - Gwynedd, Powys a Dyfed a Morgannwg - ac er mwyn pwysleisio rhagoriaeth hanesyddol Morgannwg a'i statws unigryw ef ei hunan honnai'n gyson mai Cadair Farddol Morgannwg yn unig oedd wedi goroesi i'w gyfnod ef.

'Rwy'n pwysleisio cyfoesedd ac ehangder diddordebau a chysylltiadau Llwyd er mwyn dangos mai ynghlwm wrth y ddyneiddiaeth eang honno y coleddai ei syniadau am hanes a tharddiad cenedl y Cymry.

Adroddiad yn pwysleisio'r afiechydon a oedd yn deillio o dlodi yng Nghymru.

Yn ei cherdd Cusan Hances, sy'n un o ddwy gerdd o deyrnged i'r diweddar RS Thomas, mae Menna Elfyn yn pwysleisio'r gred mai pontio ieithoedd - ac felly pobloedd - mae cyfieithu ac nid difetha'r farddoniaeth wreiddiol.

Nid oes angen ailadrodd eu hanes yma felly, ond rhaid pwysleisio un agwedd o'r gyfundrefn ddieflig a greodd gymaint o greulondeb a thristwch i filoedd o'r rhai a alltudiwyd.

ADOLYGU'R ADRAN: Mae'rr broses o adolygu'r Adran yn llwyfan ddefnyddiol i adolygu perfformiad ynglŷn â'r amgylchedd drwy lunio dadansoddiad o wariant er mwyn pwysleisio'r elfennau sy'n gysylltiedig â'r amgylchedd.

Mae Layard, fel Jung, yn pwysleisio agweddau deublyg, amwys pethau a phobl a chreaduriaid, yn gweld y ddrysien ddeuben a dyfodd ar fedd mam fiolegol Culhwch, Goleuddydd, fel arwydd o'r hyn yr oedd yn rhaid iddo ei wynebu ac ymgodymu ag ef wrth gychwyn ar ei bererindod at oedoliaeth.

Mae rheolwr Caerdydd, Alan Cork, wedi pwysleisio hynny'n barod.

'Roedd y papur ymgynghorol yn pwysleisio y dylid cymryd costau ariannol ac adnoddau eraill i ystyriaeth wrth ymateb i'r opsiynau a oedd yn cael eu cynnig er gwella'r drefn o warchod ac hyrwyddo ardaloedd cadwraeth.

Dylid pwysleisio bod y lefelau o belydriad a ddefnyddir mewn gwaith therapiwtig o'r math hwn yn uwch o lawer na'r hyn a ddefnyddir mewn gwaith diagnostig.

Ni ddaeth dim budd o'r cyflwyno, ac mae'n debyg fod y Rhyfel wedi rhoi'r caead ar y sôn arbennig hwnnw am ad-drefnu trydan; ond mae'n werth adrodd yr hanes er mwyn pwysleisio fod arweinwyr y Blaid yn methu sylweddol mor anwybodus oedd crynswth pobl Cymru, a'r cynghorwyr lleol yn eu plith, am y Blaid.

Nid wyf am raffu ystadegau yn y cyflwyniad hwn ond rhaid pwysleisio gymaint trymach yw gofynion Americanwr neu Ewropead am adnoddau'r byd na rhai brodorion y Trydydd Byd.

Dro ar ôl tro mae'n symleiddio manylion er mwyn pwysleisio'r hanfodion - y graig, y môr, y tir - gan hepgor manion amherthnasol er mwyn dal ysbryd yr olygfa fel y gwelai ef hi.

Dengys cymeriadau Meini Gwagedd ymwybyddiaeth debyg ac y mae Kitchener yn dilyn Eliot yn y ffordd y mae'n pwysleisio'r berthynas rhwng agweddau gwrthdrawiadol bywyd.

Mae'r cynllun yn pwysleisio'r angen i ailgylchu ac arbed adnoddau, e.e.

Mae David Owens yn pwysleisio pa mor anodd oedd hi i berfformio a chynnal cyfweliadau a photo-shoots tran cadwr tensiwn o fewn y grwp a straen dadfeiliad perthynas Cerys a Mark yn gyfrinach.

Yn ei herthygl 'Y Stori Fer Gymraeg', mae'n pwysleisio nad yr un yw dawn awdur stori%au byrion a dawn y nofelydd.

Isaac Jones, Prifathro Coleg Madryn, drachefn, yn pwysleisio mai'r ffermwyr a ddaliodd i wrteithio ac edrych ar ôl eu tir a ddaeth allan orau o ddirwasgiad mawr y dau a'r tri degau.

Ond y maen'n rhaid pwysleisio dwy ffaith.

O'r blaen buasai'n pwysleisio'r fath gymorth i fynd i gysgu fyddai gwylio'r llygod mawr yn cynnal eu mabolgampau nosol rhwng y styllod.