Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

pwysodd

pwysodd

Pwysodd a'i gefn yn erbyn y drws a gadwodd i'r llonyddwch lifo drosto.

'Rŵan ta,' pwysodd y dyn yn ei flaen nes bod ei wyneb bron â chyffwrdd â wyneb Elen.

Pwysodd Cathy ar Anna i ddod i weld y cwch ar dreialon neu hyd yn oed ar y ras fawr gyntaf i Iwerddon.

Pwysodd ar Somerset i benodi Ferrar yn ei le.

Yn y llofft lle roeddynt hwy yn awr pwysodd Del ar y pared a rhoi ei llaw dros ei llygaid a chwyno fod yr holl wynder yn ei dallu.

'Democratiaeth wedi mynd yn wallgof, 'ddyliwn i.' Pwysodd yn ôl yn erbyn y silffoedd a oedd bron â chyrraedd y nenfwd, gan sipian ei goffi.

Pwysodd ar Dik Siw i wneud cais am godi adeilad o ryw fath ar y tir lle'r oedd y Lotments yn awr, a gofalai yntau yr ai'r planiau drwodd heb ddim anhawster.

'Adroddiad gan y lab ar fy siaced wrth-fwled yn ddiddorol.' Pwysodd Andrews ei benelin iach ar ei ddesg a'i ben ar ei law.

Pwysodd Douglas ei fawd ar fotwm y gwn.

Pwysodd ei dau benelin ar bren y ffenestr a chodi ei phen tua'r awyr.

Pwysodd Waters arno ynglŷn â'r ymladd gan nad oedd neb wedi gweld Mary'n gadael y tŷ a'i ateb ef, yn ddigon rhesymol oedd, 'Wel, rydych chi wedi chwilio'r tŷ ac nid yw Mary yma, felly mae'n rhaid ei bod wedi gadael.' Digon teg.

Pwysodd Ditectif Ringyll Gareth Lloyd ar ymyl y cownter yn gwrando ar John Williams, y rhingyll shifft chwech o'r gloch y bore tan ddau y prynhawn, yn adrodd hanes ffrwgwd Nos Galan yn un o dafarnau'r dref.

Pwysodd Deio arni i ddod i'w gweld i'r ynys.

Pwysodd yn nes at y barrau haearn a sibrwd: 'Bedwyr!' Pesychodd y dyn, ac ysgwyd ei wallt hir o'i wyneb, ond ni ddaeth ateb.

Pwysodd hefyd am gynllunio dyfodol i'r Gymraeg.

Pwysodd ei lygaid yn ei herbyn a llwyddo i weld rhyw ychydig drwyddi.

Felly pwysodd y Gymdeithas ar gynghorau i ddiogelu tai i bobl leol.

Ddydd Sadwrn pwysodd Awdurdod y Palesteiniaid ar yr Israeliaid i beidio dial wedi i filwr Israelaidd gael ei ladd gan blisman Palesteinaidd ddydd Sadwrn.