Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

pylu

pylu

Roedd Planet Max hefyd yn llwyddiant anhygoel gyda'r diddanwr bytholwyrdd yn profi nad yw amser yn pylu sglein.

Ar ôl colli yn erbyn Gwlad Pwyl yng Nghaerdydd mae gobeithion Cymru o gyrraedd y rowndiau terfynol wedi pylu, Ond nid yw Ryan Giggs wedi anobeithio'n llwyr.

Doedd dim golwg fod y brwdfrydedd am godi arian yn pylu.

Mae'r sensitifrwydd gwyryfol cychwynnol i ansawdd yr amgylchedd yn pylu'n gyflym iawn.

Y mae'n anodd credu nad oedd y canser, a oedd yn prysur gydio yn ei ymysgaroedd, hefyd wedi effeithio ar ei iechyd yn gyffredinol ac wedi pylu ei gyneddfau beirniadol dros y misoedd hyn.

Heb unrhyw amheuaeth, yr oedd y Rhyfel yn grwsâd yn erbyn rhuthr y gwrth Dduw Natsi%aidd, a gelyn rhyddid, ond ymofidiodd am fod canlyniadau'r Rhyfel, sef casineb, rhagfarn, bydolrwydd, anobaith, colli ffydd yn Nuw a dyn, pylu'r ddeddf foesol a diystyru'r ysbrydol ar gynnydd.

Darllenodd y llythyrau un ar ôl y llall er bod yr ysgrifen wedi pylu 'nawr.

Mae'r ysgrif Ladin a gerfiwyd arni wedi pylu'n enbyd ond gellir darllen y cofnod mai yn y fangre hon yr enillwyd Buddugoliaeth yr Halelwia yn ugeiniau'r bumed ganrif O.C Sut digwyddodd hynny?