Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

pymtheng

pymtheng

Ar ôl pymtheng mlynedd yn gweithio yn El Salvador gydag offeiriaid Gwyddelig, roedd tinc y Sbaeneg a'r Wyddeleg i'w clywed yn gymysg â'i hacen Gymreig.

Dydi carn fy nghoes ('calliper') ddim wedi ffitio'n iawn ers pymtheng mlynedd.

Eto, ar ei garreg fedd, adroddir yn syml: "Bu'n ddirwestwr selog am y pymtheng mlynedd olaf o'i oes." Gwelodd y pendil yn syrnud o un eithaf i'r llall yn ystod ei fywyd, ond mae llawer o straeon da wedi'u casglu am y ddau gyfnod.

Mewn ffordd doedd dyn yn disgwyl dim gwell gan bobl yn eu diod, ond fe fyddai sglyfaethdod ar ran blaenoriaid ar dripiau Ysgol Sul a chynghorwyr Sir ar ymweliadau swyddogol yn arfer codi dychryn arno - nid felly y'i magwyd ef i ymddwyn ac roedd o wedi meddwl fod pawb parchus wedi rhannu'r fagwraeth ofalus gafodd ef - ond os oedd pymtheng mlynedd o yrru bws wedi dysgu rhywbeth iddo, roedd o wedi ei ddysgu nad oedd pawb yn rhannu'r safonau uchel o lanweithdra a moesoldeb a gyfrifid mor anhepgor gan ei fam ac yntau.

Rhoi i'r rhai sydd ganddyn nhw'n barod fu prif ysgogiad y Toriaid dros y pymtheng mlynedd diwethaf gan wneud y tlawd yn dlotach ond rhoi i gyfran helaeth o'r dosbarth canol hyd yn oed arian i'w wastraffu.

Wedyn dyna Kevin Jones, bachgen pymtheng mlwydd oed o Surrey, a gafodd ei anafu mewn damwain trên ond a anwybyddodd ei boen ei hun er mwy helpu a chysuro eraill.

Gwr nobl oedd y Parchedig John Jones, yn fugail gofalus i'w bobl ers pymtheng mlynedd, ond ar derfyn pnawn heulog o Orffennaf fel hyn, ac yntau wedi galw yn rhai o ffermydd y fro ar ei daith i'r Plas, roedd o fymryn yn ansad ar ei draed ac, o bosibl, beth yn orhyderus yn ei siarad.