Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

pyrth

pyrth

Ni wn am harddach tai na ffermdai unigryw yr Engadin - y pyrth mawr bwaog ar gyfer troliau, y ffenestri dyfnion ciwbig, y rhwyllwaith haearn, y patrymau a'r arfbeisiau a'r adnodau Romaneg ar wyngalch neu hufengalch y talcenni, heb son am banelau a nenfydau a meinciau pin y parlyrau gyda'u stofiau anferth addurnedig.

Dilynodd y dyrfa yr hen ŵr a'i bastwn allan o'r sgwâr, ar hyd un o'r strydoedd culion a thrwy un o'r pyrth.

Yn un peth buont yn foddion i agor pyrth llenyddiaeth Gymraeg i filoedd o bobl a phlant.

Yn anffodus, roedden nhw yn rhy hwyr i groesi yn Hendaye y noson honno gan fod y pyrth yn cau am naw.

Pan oedd Samaria dan warchae, a gwersyll y Syriaid tu hwnt i'r gorwel yn rhywle, yn tagu'r ddinas gan newyn, fe ddaeth pedwar gwahanglwyf at y pyrth.

Er enghraifft, 'roedd datblygiadau megis ffenestri a drysau modern, rendro ac adeiladu pyrth yn ganiataee%dig oddi mewn i ardal gadwraeth ar hyn o bryd.