Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

pysgota

pysgota

Dau hogyn bach a chi du a gwyn yn pysgota ...

Pysgota dau ddimensiwn yw pysgota sewin yn y nos.

Mae'n arwr o hyd yng Nghuba; yn Marina Hemingway cynhelir cystadleuaeth flynyddol pysgota marlin.

Ie, pysgota penhwyaid a physgota'r lasgangen sydd yn y parsel yma, nid eu bachu'n ddamweiniol achlysurol ym misoedd yr haf pan ar ôl prae arall - ond yn fwriadol systematig pan y maent yn anterth eu nerth.

Yr oedd llawer o bobl hefyd yn mwynhau nofio, pysgota a rhwyfo yn llyn Angkor Wat.

Mae Llyn Cwmstradllyn yn lecyn delfrydol i'r rhai sy'n hoffi pysgota mewn mannau anial.

Cafodd lond bol ar hyn, ac aeth yn ôl i'r car a chyfnewid y gêr plu am gêr pysgota gwaelod.

Ymhlith y diddordebau eraill a nodwyd roedd cerdded, gwau/ gwnio, cerddoriaeth, nofio (pob un o'r rhain yn cael eu henwi sawl gwaith), pysgota, ysgrifennu, eisteddfota, ffotograffiaeth, magu plant, gwylio adar, beicio, gwaith gwirfoddol ac arlunio.

Ymhellach i lawr y dorlan roedd Bleddyn eisoes yn pysgota.

Pysgota, hela a marchogaeth oedd pethau Lludd.

Roedd llinyn pysgota dau gant saith deg troedfedd o hyd wedi cael ei glymu wrth y saeth - ac roedd ganddyn nhw ffrind ar ochr orllewinol y wal yn aros i'w helpu nhw i ddianc.

Dyma hufen pysgota sewin gan rai pysgotwyr.

Rhaid canolbwyntio ar y pysgota, 'does wybod yr eiliad y daw - a rhaid bod yn effro!

Bu'r ddau yn pysgota mewn tawelwch am dipyn ond heb fawr o lwc.

'Mae Bob a fi wedi hen flino aros!' Doedd fawr o bwrpas pysgota yn yml y pentref.

Parseli deniadol yn sach amser yw tymhorau pysgota i mi.

Tynnwyd yr offer pysgota i mewn, rhoddwyd mwy o ddisel yn yr injan, ei thanio - a chychwyn draw am y creigiau duon ar Drwyn Dinas.

Porthcawl, Langland, Oxwich a'r Mwnt padlo, pysgota efo rhwyd ac adeiladu cestyll ar y tywod yn ogystal ag yn yr awyr.

Mewn pentref pysgota o'r enw Cojimar, ger Havana, roedd yna eisoes un o'r tai bwyta pysgod gorau a welais yn y byd.

pysgota, mwyngloddio, ffermio, coedwigaeth.

Fe fu cynnydd yn nifer y llongau pysgota ym Mae Caerfyrddin a rhain yn ychwanegu at brysurdeb y lle wrth ddod i mewn i gysgodi adeg stormydd a dadlwytho yr helfa bysgod.

Treuliwn innau fy mhnawniau Sadwrn yn pysgota neu' n dysgu hwylio yng nghwch ffrind fy nhad.

Gwn ei bod yn ffasiynol pysgota pluen - wleb a sych am lasgangen - a hyd Ddiolchgarwch caf ddileit wrth wneud hynny.

Un wythnos gall fod yn pysgota am fathau arbennig o anifeiliaid neu blanhigion, yr wythnos ganlynol gall fod yn mesur halltrwydd y môr a chyflymdra y cerrynt.

O'u cwmpas roedd cannoedd o filidowcars a gwylanod yn sgrechian eu protest wrth i'r cwch pysgota bychan lithro'i ffordd i fyny un o'r hafnau a arweiniai i Ogof Plwm Llwyd.

Roedd yn cario bag pysgota a ffon fugail.

Mi fu bron iddo â cholli'r het unwaith medda fo--'Roeddwn i newydd ddechra' pysgota ar lan y llyn pan ddoth 'na bwff reit sydyn o wynt a'i chwythu i'r dwr.

Am flynyddoedd pysgota oedd yr addasiad yn yr Alwen - ac ychwanegwyd stoc o frithyll brown at y rhai naturiol nofiai o'r llednentydd...

a beth am ddyddiau hirfelyn gwyliau haf ar lan y moroedd neu allan mewn cwch yn 'pysgota môr'...?