Mae prif thema La Queste a Perlesvaus yn sylfaenol debyg, ac yn sawru o Gristnogaeth asetig: er mai marchogion llys Arthur yw'r gorau yn y byd, mae eu diffygion moesol yn eu rhwystro rhag cyflawni'r gamp uchaf oll a chanfod y Greal; cedwir y fraint arberlnig honno i farchog ysbrydol a moesol berffaith, sef Persifal (cefnder cyfandirol Peredur y traddodiad Cymreig) yn Perlesvaus, a Galaad neu Galaath (sy'n fwy cyfarwydd bellach fel Galahad), arwr newydd sbon a ddyfeisiwyd yn arbennig ar gyfer y dasg yn La Queste.
Mae'r testunau Cymraeg a adwaenir fel Ystoryaeu Seint Greal yn gyfieithiad a wnaed yn y bedwaredd ganrif ar ddeg o ddwy ramant Ffrangeg annibynnol, La Queste del Saint Graal (a luniwyd c.
Nod awdur y Tristan en Prose oedd cyfuno hanes Tristan â phrif ffrwd hanes y byd Arthuraidd, ac felly penderfynodd gyplysu ei hanes ef â fersiwn Cylch y Fwlgat o hanes y greal, sef La Queste del Saint Graal.
Er bod y Queste ei hun wedi ei chyfieithu i'r Gymraeg, (fel rhan gyntaf Y Seint Greal), ac er bod Cylch y Fwlgat wedi bod yn hynod ddylanwadol ar destunau rhyddiaith Arthuraidd Cymraeg, nid oes unrhyw dystiolaeth iddynt fod yn gyfarwydd â'r Tristan en Prose Efallai mai ei anwybyddu a wnaethant, oherwydd y mae lle i gredu mai fersiwn o'r 'Post-Vulgate Queste', sef y fersiwn lle ymgorfforwyd hanes Tristan, a ddefnyddiwyd gan gyfieithydd Y Seint Greal.