Oes 'na ddefnydd felly i'r ffurfiau carbon yma, yn enwedig pan fod 'na ffynhonnell weddol rad ohonynt ar y gorwel?
Fel yn yr ysgol rad yn ôl Ieuan Glan Geirionydd, y tebyg yw mai 'Cerddi Homer a Virgil geinber' a bynciai Morgan ym mhorth plasty Gwedir dan ofal y caplan, neu o leiaf gerddi Virgil, gan ei bod yn bur sicr mai ar ramadeg a llenyddiaeth Ladin y byddai prif bwyslais yr addysg a geid yno - er ei bod yn debygol fod Saesneg ac egwyddorion y grefydd newydd Anglicanaidd yn cael eu dysgu hefyd.
Mae'r tren ei hunan fel fersiwn rad o'r Orient Express, sedd a gwely cul i bawb, a'r rheiny'n ddigon cysurus.
a) y neges broffwydol am faddeuant cwbl rad i'r pechadur edifeiriol;
Erbyn heddiw mae'r rhan fwyaf o garafanau yn dod gyda ffenestri dwbwl, ac os nad oes gwresogydd ynddi, mater bach a chymharol rad yw cael gosod cyfarpar felly.
Ac eto, pan fydd gair Duw yn dweud wrthych chi fod pwy bynnag sy'n credu yn yr Iesu yn cael bywyd tragwyddol, rydach chi'n dweud fod hynny'n rhy...rad rywsut.
Dywed Syr John Wyn o Wydir i William Morgan dderbyn addysg yng Ngwydir, a thystia'r bardd Siôn Phylip fod yno 'ysgol ragorol rad'.
Anaml y gwelir pobl yn gorfod prynu sbectol rad yn Woolworth na threulio eu blynyddoedd heb ddannedd.
Dechreuodd fel prentis crydd, ac y mae ef a Daniel Owen yn enghreifftiau da o'r dosbarth o grefftwyr yn y ganrif ddiwethaf sydd yn eu hymdrechion i ddod o hyd i lyfrau da, i'w darllen, ac i ymddiwyllio arnynt yn gyfryw ag y dylent godi cywilydd wyneb arnom ni yn y ganrif hon gyda'n haddysg rad, ein horiau gwaith cwtogedig a'n horiau hamdden helaeth.