Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

radd

radd

Heddiw rhaid inni ddeall fod rhagfarn wrth-Gymreig y blaid Lafur mewn rhai rhannau o Gymru-Morgannwg Ganol, er enghraifft - yn deyrnged uniongyrchol i'n cynnydd ni, gan fod rhaid i Lafur ystyried cenedlaetholdeb Cymreig fel gelyn gwleidyddol o'r radd flaenaf.

Mater o radd yw purdeb y serch hwn.

Y canlynol yw'r achosion fynychaf: afiechyd (fel dolur y galon, is thyroidedd, ac anallu i symud); methiant y corff i adnabod gostyngiad gwres yn ddigon cyflym, fel na all y person grynu a chymryd mesurau i ymdwymo; cyffuriau (fel Largactil a'r ddiod feddwol i ormodedd); a'r achos pwysicaf oll, sef cwymp y tymheredd i radd rhy isel i'r corff fedru ymdaro ag ef.

Rhoddwyd gwasanaeth newyddion BBC Radio Wales ar brawf - a dangoswyd ei fod yn wasanaeth o'r radd flaenaf - pan ddaeth yr arweinwyr cenedlaethol i Gaerdydd yn ystod mis Mehefin ar gyfer Cyngor y Gweinidogion Ewropeaidd.

Enillodd Gadair yr Eisteddfod Genedlaethol ddwywaith a dyfarnwyd iddo radd er anrhydedd gan Brifysgol Cymru.

Ac os methodd ambell un wneud ei farc ar lwyfan eisteddfodol 'does raid iddo boeni dim oll canys fe fydd yn bownd o raddio'n feirniad o'r radd flaena' mewn dim o dro.

Am ganrifoedd, hawliai'r Eglwys Geltaidd ryw radd o annibyniaeth oddi wrth Eglwys Rufain, a pharhaodd gwahaniaethau rhwng ei defodau hi a rhai'r eglwysi Rhufeinig hyd ddyfodiad y Normaniaid.

Roedd Ernie Els a Miguel Angel Jimenez yn gyd-radd ail.

Fe ddaeth y radd i'm rhan trwy gael gwahoddiad i weld seremoni wobrwyo yno, lle mae merched yn cael eu hyfforddi i wneud popeth o drafod kalashnikovs a hedfan awyrennau i danio taflegrau.

Y ddau eithaf y gellir eu disgwyl yw'r athrawon hynny a feistrolodd y Gymraeg yn ddiweddar a hynny fel dysgwyr a'r rhai hynny sydd yn meddu ar radd yn y Gymraeg ac yn Gydgysylltwyr Iaith o fewn eu hysgolion.

Williams, Abergwaun, ond ni allai'r un ohonynt gofio union radd y berthynas â'r wythi%en Fawr.

Diolch fod y Brifysgol wedi cydnabod ei gyfraniad trwy roi iddo Radd Meistr yn y Celfyddydau er anrhydedd.

Ac yntau'n ysgolhaig o'r radd flaenaf, yn ieithydd penigamp ac yn arbenigwr ar Gerdd Dafod, ni allai'r Brifwyl wneud hebddo.

Mae hi yn 27 mlwydd oed ac yn meddu ar radd mewn gwleidyddiaeth.

'Bydd y gerdd yma yn iechyd i farddoniaeth Gymraeg heddiw, oherwydd fe ddengys y gellir cynhyrchu gwaith o radd uchel yn y dull newydd yn ein hiaith ni, a hynny heb fod yn euog o rai pethau ag y bydd condemnwyr y canu modern yn hoff o'u hanelu ato,' meddai J. M. Edwards yn ei feirniadaeth.

Go brin mai rhyw hiraethu sentimental a barai i rywun holi a yw'r gallu creadigol hwnnw ar gaely dyddiau hyn o dwpeiddio diddiwedd i wneud rhaglenni o'r un radd.

Dylai'r iaith Gymraeg dderbyn statws o'r radd uchaf o fewn un o Bwyllgorau Pwnc y Cynulliad gydag un o Ysgrifenyddion y Cynulliad yn amlwg gyfrifol am yr iaith Gymraeg.

I ddiffinio bwriadau, targedau ac amcanion I drefnu profiadau dysgu mewn gwyddoniaeth sydd yn ystyrlon a pherthnasol ar gyfer disgyblion a phob math o allu ac o bob oed yn amrediad yr ysgol uwchradd I ddethol, defnyddio a rheoli'n effeithiol y cwmpas llawn o ddefnyddiau ac adnoddau sydd ar gael I drefnu a chadw trefn ar wersi theori a gwersi ymarferol fel ei gilydd I fod yn sensitif i anghenion disgyblion ag anawsterau dysgu, disgyblion a gallu arbennig a grwpiau ethnig lleiafrifol I feithrin y sgiliau rhyngbersonol priodol ar gyfer cyfathrebu â disgyblion, rhieni a phobl broffesiynol Sgiliau Labordy Paratoi defnyddiau labordy ar gyfer dysgu Arddangos arbrofion a thechnegau ymarferol i'r disgyblion Rheoli gwahanol fathau o wersi ymarferol Gwybodaeth Wyddonol Y mae gan y myfyrwyr i gyd radd yn y gwyddorau ond bwriad arbennig y cwrs yw estyn ac ehangu eich profiad yn y canlynol:

Yno mae gwesty o radd uchel yn ei aros.

Maes ei ymchwil am ei radd o MD oedd 'Cancr y Coludd'.

Ym myd chwaraeon, cafwyd egni ar y sgrîn a newyddiaduraeth o'r radd flaenaf gan Geoff Collins, Laura Watts a Delyth Morgan, gan gynnwys cyfweliadau gyda Graham Henry a Vinnie Jones a darllediadau estynedig o gêmau byw na ellid eu cynnwys ar y sianeli analog.

O'r herwydd dyfarnwyd iddo radd BA (Aegrotat).

Ac i gymylu pethau ymhellach, mae'r radd gynilo yn Yr Unol Daleithiau wedi disgyn yn ystod y blynyddoedd diwethaf, ac wedi dymchwel rhai o ragfynegion yr awdurdodau economaidd yno.

Profodd y gyfres danbaid hon ddawn Cymru, heb amheuaeth, i gynhyrchu drama gyfareddol o'r radd flaenaf.

Er i ti fethu, fe elli daflu'r dis hyd nes y llwyddi i'w ddal, ond am bob tafliad aflwyddiannus rhaid i ti dynnu un Radd Nerth i ffwrdd.

Yn wyneb hyn oll, a'r gwasgar a fu ar y gweithwyr ym Maulvi Bazaar o'i achos, gofidiwn yn ddirfawr nad yw Mr Jones yn ymddangos yn teimlo fod unrhyw radd o gyfrifoldeb arno ef am yr hyn a ddigwyddodd, nac yn datgan unrhyw ofid am ei ymddygiadau a'r anghysur a achosodd i eraill; a rhaid i ni ychwanegu ein bod yn rhyfeddu at dôn a chynnwys ei lythyrau diweddaf yn roddi adroddiad mor galonnog a brwdfrydig am y gwaith ar yr orsaf.' Haerid fod Pengwern wedi dweud ei fod 'yn teimlo ei fod yn gwneud i fyny'r hyn sy'n ôl o ddioddefiadau Crist' bryd hyn.

Teulu nodedig ac anghyffredin oedd teulu Sulien; roedd ei feibion Rhigyfarch, Arthen, Daniel ac Ieuan yn ysgolheigion o radd uchel.

Gwelir fod y ganran o dir pori da yn lleihau mewn siroedd megis Gwynedd a Phowys, lle ceir cyfran uchel o dir mynyddig o radd isel.

Yr ydym yn deall yn burion beth yn hollol a feddylir pan sonnir am fardd o'r radd flaenaf: cyfeirio yr ydym at unigolion cwbl unigryw megis Goethe neu Ddafydd ap Gwilym.

Yna fe ddychwelodd i Goleg Caerfyrddin i wneud ei radd BD Oddi yno enillodd ysgoloriaeth i Goleg Mansfield, Rhydychen.