Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

radical

radical

Fe ellid dweud fod hon yn agwedd radical tuag at realiti pechod, ei weld fel rhywbeth cynhenid yn y natur ddynol.

Rhaid inni barhau i fynnu newidiadau radical a gwirioneddol er lles y Gymraeg a'n cymunedau.

Ystyr hyn i gyd oedd ei fod yn brotestant pur radical ac yn gogwyddo, y mae'n amlwg, at farn diwygwyr y Swistir, Zwingli a Chalfin, mewn materion ynglyn â gwisgoedd eglwysig a defodau.

Yn hynny o beth, edrychwn tuag at y Cynulliad i ddatblygu gwleidyddiaeth radical yng Nghymru wedi ei seilio ar egwyddorion Sosialaeth Gymunedol. Gwleidyddiaeth fydd yn ei hanfod yn ymateb i anghenion Cymru ac sy'n gweithredu dros sicrhau cyfiawnder i'r Gymraeg a chyfiawnder cymdeithasol ac economaidd i bobl a chymunedau Cymru.

Nid oes sôn am y Biwritaniaeth, llai fyth yr anghydffurfio radical, a oedd eisoes yn cynhyrfu Lloegr a gororau Cymru.

Yr hyn sy'n radical amdanynt ydy ein bod ni'n datgan mai yn lleol y dylid rheoli ac nad yw cael pencadlysoedd - yn Llundain na Chaerdydd - yn ateb yr anghenion.

ond liciwn i drafod y gynghanedd a'r orsedd y sefydliad mwyaf radical, gwreiddiol yng nghymru ac arwyddion eraill ein diwylliant o safbwynt semiotig.

Mynnodd fwrw ymlaen i wneud yr operasiwn radical a pheryglus o dorri ymaith yr holl bancreas.

Mynnai eu deuoliaeth hwy wedyn y byddai'n rhaid i ryw doriad sydyn, rhyw newid radical, ddigwydd i adnewyddu'r natur ysbrydol.

Rhythais ar grib ogledd-ddwyreiniol ddu, hirfain, ddidrugaredd Piz averstancla a chofio llinellau olaf y gerdd a ganodd Armon Planta o Sent, uwchlaw Scuol, ar ol ei dringo gydai fab: I lawr yn y cwm a chytgord yn anodd oni fyddwn ni'n troi at hyn mewn atgof (in algordanzas) Bardd, dringwr, hanesydd, radical, athro ac ymladdwr dros ei iaith oedd Armon Planta.

Ymgyrchwr diflino ydoedd - dros amryw byd o achosion, gan gynnwys masnach rydd, dirwest, heddychiaeth, addysg wirfoddol, cymdeithasau dyngarol ac Ymneilltuaeth radical.

Yn wir yr oedd yn gymeriad anghyffredin yng nghefn gwlad Cymru yn y cyfnod hwn, yn radical o'r rheng flaenaf ac yn sosialydd o'r un garfan a William Morris.

Meddyliwr radical ydoedd ef, a ysgrifennodd yn helaeth ar ryfel a heddwch, comiwnyddiaeth a chyfalafiaeth, y bom hudrogen a dyfodol dyn, a chenedlaetholdeb a rhyng-genedlaetholdeb.

'Roedd yn dioddef o ddiffyg maeth difrifol (canlyniad bron yn anochel i operasiwn radical o'r fath).