Y modd o weithredu a ddewiswyd ganddynt i'r gymdeithas oedd cyhoeddi misolyn, yn bennaf i ymgyrchu yn erbyn egwyddor yr eglwys wladol, ond hefyd i hybu achosion radicalaidd yn gyffredinol.
Mae yma gofnod trawiadol o'r modd yr oedd gafael y wasg radicalaidd yn niwedd y ganrif ddiwethaf yn cael ei gweld fel bygythiad difrifol gan y dosbarth llywodraethol Prydeinig a hynny nid yn lleiaf am mai yn yr iaith Gymraeg yr oedd y wasg honno yn ei mynegi ei hun.
Cynrychiolir Ceredigion yn y Senedd gan Aelod Seneddol Plaid Cymru ac mae caffis y dre yn llawn o bobl ifanc radicalaidd sy'n trafod syniadau gweriniaethol.
Ceid Cymry ymhlith lladmeryddion y syniadau radicalaidd - pobl fel Richard Price, Morgan John Rhys,Tomos Glyn Cothi, David Williams a David Davies, Treffynnon.
Ie; roedd y rhyddfrydwyr diwinyddol yma yn mynd i'w gilydd pan gyfodid cwestiynau gwirioneddol radicalaidd a bygythiol i sylfeini'r Ffydd.
Cyfeiria Gwyn A.Williams at anghydffurfwyr radicalaidd gogledd Morgannwg yn niwedd y ddeunawfed ganrif a ddylanwadodd mor drwm ar hanes cynnar Merthyr Tudful.
Heb sôn bod trydedd elfen yn y cyfuniad, sef gwleidyddiaeth radicalaidd, rhywbeth na chyfrannodd Christmas ati o gwbl.
Bydd y Gymdeithas yn trafod gyda hi ein cynigion radicalaidd yn y maes.
Felly mae'r dystiolaeth ynglŷn ag un o ymgyrchoedd radicalaidd pwysicaf yr wythdegau wedi eu diogelu ar gyfer haneswyr y dyfodol.
Estynnwn at fudiadau radicalaidd eraill gyda her.
Gyda dyfodiad y Cynulliad y mae mwy o alw nag erioed am fudiad cryf i sefyll dros hawliau ieithyddol a chymunedol Cymru a Chymdeithas yr Iaith yw'r unig fudiad sy'n ymgyrchu'n radicalaidd gyda phobl a chymunedau Cymru.
Paul Davies oedd yr arlunydd gwleidyddol mwyaf blaengar yng Nghymru ddiwedd yr ugeinfed ganrif, ac ymhlith yr artistiaid sydd ac a fu'n byw yma ef oedd y mwyaf gwreiddiol a radicalaidd ym mhob ffordd.
Radicalaidd-anghydffurfiol) o'r Eglwys yn y ddeunawfed ganrif, gan bortreadu Theophilus fel esiampl o fywiogrwydd eglwyswyr yn y cyinod hwnnw; mae'n mynd hefyd y tu hwnt i lawer o'n syniadaeth confensiynol ni a dangos sut oedd modd yn y cyfnod hwnnw gydblethu Cymreictod a Phrydeindod gydag arddeliad.
Ond gwir arwyddocâd y penderfyniad hwnnw oedd ei fod yn dangos fel yr oedd y rhan fwyaf o aelodau'r Blaid yn ymwybod â'r traddodiad radicalaidd, er bod rhai o'r aelodau blaenllaw, wrth arllwys dwr brwnt eu hen ffydd ym mhleidiau Llundain, wedi arllwys y babi radicalaidd hefyd.