Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

radicaliaeth

radicaliaeth

Yr oedd y dadleuon yn gwrteithio'r tir a byddai datgysylltu'r eglwys wladol yn tyfu'n brif achos radicaliaeth Gymreig ynddo yn ystod ail hanner y bedwaredd ganrif ar bymtheg.

Yr oedd brwydr Datgysylltiad yn anochel ac yn brif nod Anghydffurfiaeth a Radicaliaeth, a'r degwm yn sbardun.

Y mae'n sefyll yn llinach Radicaliaeth Cymreigyddion Llundain a gyrhaeddodd genhedlaeth Caledfryn a Samuel Roberts, Llanbrynmair, drwy'r Cymro ac ysgrifau Hughes yn Seren Gomer.

Fel un 'a faged yn nhraddodiadau'r Hen Radicaliaeth Gymreig', chwedl yntau mewn man arall, ni allai Gruffydd dalu gwrogaeth ond i draddodiad Anghydffurfiol a ganiatâi wrthryfel parhaus yn erbyn pob awdurdod.

Roedd y tensiynau yno cyn chwalfa ac ailffurfio radicaliaeth yn ystod ac yn sgil y Rhyfel Mawr.

Da oedd bod cnewyllyn o Gymry cadarn a deallus na chydymffurfiai â'r Wladwriaeth Seisnig yn ei gwedd grefyddol, ac a fyddai'n arddel radicaliaeth a ystyriwyd hefyd yn fygythiad i'r drefn.