Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

ragweld

ragweld

Ar ben hynny roedd wedi gorfod talu llawer rhagor nag yr oedd wedi ei ragweld i was am wneud gwaith y tyddyn yn ei absenoldeb a bu colledion oherwydd nad oedd, ynghanol ei brysurdeb fel Ysgrifennydd Cyffredinol, wedi medru rhoi'r sylw dyledus i'w gartref.

'Roedd yr arolwg peilot yn gyfle da i ragweld os oedd holiaduron yn fodd effeithiol o gasglu gwybodaeth am yr angen lleol am dai.

Os yw ffigurau diweddar i'w credu yna gallwn ragweld mai Llangefni a Bodffordd fydd yr unig gymunedau naturiol Gymraeg ar ôl ym Môn gyda dros 75% o'r boblogaeth yn siarad Cymraeg pan gyhoeddir canlyniadau y cyfrifiad nesaf sydd i'w gynnal yn 2001.

Ond am wleidyddiaeth gyfoes dywedodd Lingen mai Saeson o Loegr a ddygai bob cyffro gwleidyddol i'r meysydd glo Cymreig, a dyna ragweld y Seisnigo ar y mudiad Llafur a oedd i ddwyn Keir Hardie o Glasgow i fod yn arweinydd y Cymry.

Datblygodd y ddameg hon eto gan ragweld rhywrai yn ei feirniadu, a 'thaflu'r ffefryn i'r pydew am iddo fentro rhoi côt gostus yn ôl iddo, eithr, 'pwy a ŵyr, fe all y "Joseff" hwn rywbryd dalu'n ôl ar ei ganfed pan fo dlawd arnom'.

Os yw ffigurau diweddar Social & Market Strategic Research i'w credu yna gallwn ragweld mai Llangefni a Bodffordd fydd yr unig gymunedau naturiol Gymraeg ar ôl ym Môn gyda dros 75% o'r boblogaeth yn siarad Cymraeg pan gyhoeddir canlyniadau y cyfrifiad nesaf sydd i'w gynnal yn 2001.