Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

rannau

rannau

Mae hi eisoes wedi canu prif rannau gydag Opera Cenedlaethol Cymru.

Mae hyn yn ein helpu i gyfnewid straeon o wahanol rannau o Ewrop ac mae'n golygu bod yr iaith Gymraeg yn cael ei chlywed ar hyd a lled Ewrop.

Diffeithdra a diweithdra a nodweddai rannau helaeth o Gymru bellach.

Mae'n siŵr bellach fod rhywrai o'r darllenwyr wedi ail gynhyrchu darluniau yn llygad eu meddwl o'r mawnogydd welsant wrth deithio tros ucheldiroedd, ac yn îs i lawr o ran hynny hefyd, digon yng Nghymru heb sôn am rannau eraill o Brydain, ond rhaid sylweddoli nad yw pob math yn addas.

Ddydd Gwener diwetha', fe aeth tri o ohebwyr Golwg i mewn i dri ysbyty mewn gwahanol rannau o Gymru a cheisio cyrraedd wardiau'r babanod.

Manylwyd wedyn ar rannau penodol o'r Cwricwlwm.

Cymry o wahanol rannau o'r byd yn son sut y byddan nhw yn treulio Dydd Gwyl Dewi eleni.

Bu Mathew Fontaine Maury, swyddog yn llynges America, yn casglu gwybodaeth am flynyddoedd gan gapteiniaid llongau am eu profiad o wyntoedd a moroedd mewn gwahanol rannau o'r byd, er mwyn paratoi siartiau i ddangos y llwybrau lle gellid disgwyl y tywydd mwyaf ffafriol i gyflawni mordeithiau cyflym.

Astudiaeth fanwl o'r corff dynol fu ein tasg am y ddwy flynedd gyntaf a golygai hynny ein bod yn treulio tri mis llawn efo gwahanol rannau o'r corff.

Tristwch mawr ein heglwysi tros rannau helaeth o'r wlad yw eu bod wedi colli cysylltiad i'r fath raddau â'r genhedlaeth iau.

Y mae gan bobl Sheffield un o rannau prydferthaf Lloegr ar garreg eu drws - Parc Cenedlaethol Ardal y Peak.

Cofiaf Dr Jamieson unwaith yn rhoi gwers i ni ar y rhannau o'r benglog ac roedd yr astudiaeth ar rannau esgyrniog ohoni yn un bur fanwl.

Yr adeg honno ymestynnai o sir Benfro i rannau o siroedd Trefaldwyn a Henffordd, gan gynnwys o fewn ei ffiniau bron hanner arwynebedd Cymru.

Wrth i derfynau yr iâ encilio fwy-fwy i'r gogledd bob blwyddyn, roedd yr adar hefyd yn ymestyn eu man bridio ac yn dychwelyd i rannau cynnes Affrica yn y Gaeaf.

Yn aml iawn, yr oedd hi'n gyfoethocach ei geirfa a'i llenyddiaeth ac yn cael ei siarad tros rannau helaethach o'r byd na'r iaith leiafrifol.

Yn y sefyllfa gymysglyd hon rhoddwyd hawl i ddim llai na thri grŵp o nofwyr chwilio am y llongddrylliad ac o ganlyniad gweithiai gwahanol grwpiau ar wahanol rannau o'r safle.

Mae llyfrau cyfain wedi eu hysgrifennu am y dwylo ac felly, wrth gwrs, am rannau eraill o'r corff.

Bydd diwrnod hirfelyn ym mis Hydref yn fy atgoffa am rannau o bumawd hyfryd Schubert i linynnau.

Erbyn hyn rydym yn mewnforio tatw o bob rhan o'r byd ac os bydd prinder yn y wlad yna fe ddaw digon i mewn o rannau eraill i wneud i fyny am hynny.

Roeddwn yn arbennig o falch o'r ffordd y chwaraeodd Cyngor Darlledu Cymru ei ran yn y trafodaethau ar y cyfleoedd newydd sydd yn awr ar gael i'r rhwydwaith ac i wasanaethau radio a theledu Cymru yn y ddwy iaith, a bydd yr aelodau'n monitro'r ffordd y portreadir perthnasedd materion newyddion amrywiol i gynulleidfaoedd mewn gwahanol rannau o'r Deyrnas Gyfunol yn agos iawn.

Y mae cartrefi pobl, y gwaith a wnânt, y ffordd y defnyddir y tir, a'r gwasanaethau sydd a gael yn gallu amrywio mewn gwahanol rannau o'r wlad.

Ymhen amser lledaena'r tyfiant i rannau eraill o'r corff, gan gynnwys yr ysgyfaint, gan ladd y claf yn y diwedd.

Y golygydd hefyd sy'n gyfrifol am olygu'r eitemau ffilm a anfonir i'r stiwdio bob dydd gan ohebwyr mewn gwahanol rannau o'r wlad.

Storïau am saith cawr o wahanol rannau o Gymru.

"Yes, Sir," meddwn innau, "it is my first language." "Say a few words in Welsh for me now," meddai wedyn ac fe enwais innau rannau o'r corff.

O sylwi'n fanylach ar sefyllfa'r Gymraeg mewn ysgolion cynradd gwledig yng Ngheredigion, sy'n nodweddiadol o rannau gwledig eraill o Gymru, gwelir effeithiau'r newidiadau a grybwyllwyd yn glir, a hynnyn sicr yn achos pryder.

"Y peth mawr cynta' i fi wneud ar y teledu oedd y ffilm gomedi Smithfield ac wedyn fe ges i lot o rannau bach.

Archwilio'r sbectrwm cyfan Heblaw am ran fechan o'r isgoch, y rhan optegol a radio yw'r unig rannau o'r sbectrwm electromagnetig sy'n gallu treiddio trwy'n hatmosffer.

Mae'r gallu i edrych ar y bydysawd yn y gwahanol rannau o'r sbectrwm wedi bod o gymorth i ni ddeall y bydysawd yn well nag erioed o'r blaen; fel y byddai siarad pob un o ieithoedd pobloedd y blaned yn golygu dysgu llawer mwy am y gwahaniaethau sy'n bodoli yn y byd.

Cyfeiria'r Rheolwr at rannau eraill o'r wlad lle 'roedd gwasanaethau a oedd yn gwneud colled yn cael eu noddi gan awdurdodau lleol oherwydd eu hangenrheidrwydd cymdeithasol.

Yn yr Hydref, pan fydd yr adar ddaeth yma yn y Gwanwyn yn troi yn ôl am Affrica gyda'u teulu newydd, mae miloedd o adar eraill yn dylifo i Brydain o rannau gogleddol y byd i dreulio'r Gaeaf yma gyda ni.

Pair friwiau anodd, os nad amhosibl, eu gwella ar wahanol rannau o'r croen.

Mae'n naturiol, wrth gwrs, i ambell set hynod aros yn y cof, ond mae'n llawer mwy na lleoliad cyfleus i ddweud llinellau o'i gwahanol rannau, ac i'n darbwyllo ninnau bod digwyddiadau'r ddrama'n 'go iawn'.

Felly roedd rhaid aros i ddyn ddatblygu'r dechnoleg i fynd i'r gofod ac uwchben yr atmosffer cyn y medrid edrych ar rannau eraill o'r sbectrwm.

Nid yw'n ymestyn i rannau helaeth o'r sector gyhoeddus e.e. ni ellir cofrestru genedigaethau a marwolaethau yn y Gymraeg er i'r frwydr hon gael ei hymladd gyntaf bron i ddeugain mlynedd yn ôl.

Y mae'r Undeb Ewropeaidd yn ei dro yn weithgar ar sawl ffrynt i feithrin "rhwydweithiau% rhwng gwahanol rannau o Ewrop yn enwedig rhwng y parthau tlawd a'r cyfoethog ac y mae nifer o raglenni ar gael i feithrin hynny.

Etifeddodd y ddau fab y cafodd hi eu magu i oedran gwŷr, Dafydd a Daniel, rannau gwahanol o'i chynhysgaeth, y naill yn datblygu'n adroddwr storiau yn null yr hen gyfarwyddiaid, a'r llall yn datblygu'n nofelydd, ac y mae'n rhyfedd, er nad efalli'n gwbl annisgwl, ei bod hi'n fath o ddolen gyswllt rhwng yr anterliwd neu'r ddrama Gymraeg, ym mherson Twm o'r Nant, a'r nofel Gymraeg ym mherson ei mab Daniel, oblegid y mae gwreiddiau mwy nag un elfen yn y nofel i'w holrhain yn ôl i'r ddrama.

'Dwi'n ffodus fy mod i'n cael cyfle i chwarae pob math o rannau, ac i ymddangos ym mhob math o gynyrchiadau,' meddai.

Ar un olwg teimlem mai'r angen cyntaf oedd cael mudiad iaith arbennig yng Nghymru fel y gallai'r Blaid ganolbwyntio ar faterion gwleidyddol pur, ac yr oedd yn amlwg fod llawer o rai eraill yn meddwl yr un ffordd ar yr un pryd mewn amrywiol rannau o Gymru, ond heb fod mor feiddgar â ni yng Nghaergrawnt!

Roedd yn ofynnol gwybod a deall pa nerfau a gariai negeseuau i'r ymennydd o wahanol rannau o'r croen.

Mae ceisiadau Ceri, wrth iddo chwilio am berffeithrwydd mewn sain a llun bob amser yn gwrtais wrth ofyn am ail a thrydydd wneud gwahanol rannau.

Enghreiffliau clasurol o'r adar sydd yn dod yma ydi'r wydd ddu o Sibiria, yr wydd wyrain o'r Ynys Werdd, elyrch o Ynys yr Iâ a Gogledd Llychlyn, a miloedd o rydyddion o'r gwahanol rannau gogleddol, fydd wedi rhewi'n gorn yn ystod y Gaeaf.

Dogfennwyd diddordeb Cymreig arall, sef chwaraeon, yn dda yn Camp Lawn a oedd yn cynnwys y cwis pop Cant y Cant, tra atgyfnerthwyd y sefyllfa leol ledled Cymru drwy gyfrwng nifer o sesiynau eithrio i gwmpasu chwaraeon mewn gwahanol rannau o'r wlad.