Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

rannu

rannu

Wrth rannu'r cyfrifoldebau ymysg cyrff annemocrataidd y Llywodraeth gwanhawyd rheolaeth pobl Cymru dros y system Addysg yng Nghymru yn fwy byth.

Lloyd George yn cael problemau oherwydd y penderfyniad i rannu Iwerddon yn ddwy, ac yn ffurfio'r garfan Heddlu Prydeinig Black and Tans i geisio cadw trefn.

Mae ei hangen arno i fynegi ei anghenion a'i ddyheadau, ei brofiadau, ei deimladau a'i freuddwydion ac yn sgîl hynny fe ddaw yn gyfrwng i rannu'r meddyliau hynny.

Yn y bedwaredd wylfa o'r nos, yn ôl dull y Rhufeiniaid o rannu'r nos, ymddangosodd yr Iesu iddynt, yn cerdded ar y môr ac yn nesa/ u at y cwch fel drychiolaeth (ffantasma).

Maent yn dechrau gydag ychydig o bowdr, ac yn naturiol roedd raid i un fynd i nôl y powdr i'r magazine, lle'r oedd goruchwyliwr yn ei rannu, a llawer helynt a fu yn y fan honno eto.

Ychydig ddyddiau cyn i mi adael Ljubjana clywsom efallai y gallwn rannu ystafell â'r gweithiwr cymdeithasol.

Fel arfer, does dim gwahaniaeth sylfaenol rhwng y ddwy ran, ond heddiw mae yna rannu pellach.

Prin yr âi i'w wely heb ei rannu ag Eleri ei wraig, a rhannu'r gair neu'r tro ymadrodd gyda ni ei gydweithwyr amser coffi drannoeth.

Pan drefnodd Zara Phillips un yn ddiweddar nid seidar oedd yn cael ei rannu yno ond siampên - gydag eog wedi ei fygu i'w fwyta gydag ef.

Cofiwch, pan ddychwelwn ni i Grenada, fe fydd rhaid inni rannu caban ar y llong.'

Agorodd y gyriedydd y cawell fel y gwnaethai lawer gwaith o'r blaen mae'n siwr, plygodd Mrs Trench a dechreuodd rannu'r hosanau llawnion gwerth eu cael.

Trwy hynny caent rannu gweledigaeth, a dysgu oddi wrth eu gilydd.

Diolch hefyd i'r Cyngor Cymuned am eu rhodd anrhydeddus fydd yn galluogi'r pwyllgor i rannu 'wyau Pasg' eleni eto.

Etifeddai'r naill ddosbarth eu heiddo yn ôl y gyfraith Seisnig, a olygai etifeddu gan y cyntafanedig, a'r llall yn ôl y gyfraith Gymreig (neu Gyfraith Hywel fel y'i gelwid), a olygai rannu'r etifeddiaeth yn gyfartal rhwng meibion, a hynny o fewn uned deuluol ddiffiniedig.

Gwerthfawrogwyd y cyfle i rannu syniadau.

Y mae Cymdeithas Gwaith Maes yn hyrwyddo gwerthfawrogiad a dealltwriaeth o'r amgylchedd trwy ei astudio, a thrwy rannu gwybodaeth a phrofiad ohonno.

"Os bydd hi'n bwrw eira drwy'r nos fedr yr un lori fynd yn agos at y seidin yna yfory, a bydd y bwyd yn aros yno am ddiwrnodau arall ac fe rydd hynny ddigon o amser i'r Maquis ei rannu.

Y mae angen arian o CCC i'w rannu rhwng y cwmniau â'r canolfannau i farchnata a chreu cynulleidfa.

Felly mae'n bosib ystyried bod anffyddlondeb a diffyg teyrngarwch yr anghredadun i'r un yr addawodd rannu ei fywyd ag ef/hi yn gyfryw bechod ag i fod yn sail diddymu'r briodas, yn gymaint ag y byddai godineb.

Sut bynnag, yn y gornel roedd un sedd lle gallai e eistedd, ac er bod rhaid iddo rannu'r bwrdd gyda rhywun arall, doedd dim ots ganddo fe oherwydd roedd arno eisiau rhywun y gallai siarad ag e tra roedd yn bwyta.

Gall defnyddwyr eraill y gwasanaeth rannu profiad a deallusrwydd nad yw staff o bosibl yn medru ei werthfawrogi.

'Cyfeillach,' yn arbennig ddechrau'r gerdd : Ni thycia eu deddfau a'u dur I rannu'r hen deulu am byth, Cans saetha'r goleuni pur O lygad i lygad yn syth.

Yr ydym yn gyfarwydd â nifer mawr o ddiffiniadau o'r pwnc, yn amrywio o ddweud mai 'Economeg yw'r hyn y mae economyddion yn ei wneud', i'r disgrifiad hwnnw sydd yn sôn am rannu adnoddau prin rhwng galwadau niferus.

Wrth ddod ar draws y rhain yn ddiweddar y penderfynais roi yr ychydig eiriau hyn wrth ei gilydd i gofio am y cerddor talentog a fu mor barod i rannu ei ddawn a'i allu gydag eraill - i ddysgu, hyfforddi a rhoi pleser a mwyniant i gymaint o bobl.

Gwelwyd yn fuan bod y rhai a oedd yn defnyddio cyffuriau mewn modd anghyfreithlon, gan rannu offer chwistrellu, yn fwy tebygol o ddioddef; hefyd y rhai, o blith y ddau ryw, a oedd yn anllad ac yn mwynhau rhyw gyda nifer o bartneriaid o'r naill ryw neu'r llall.

Trwy ryw amryfusedd trefniadol fe' gosodwyd i a dau arall i rannu pabell â Thalfan o bawb.

Diolchir iddo am rannu ei brofiadau gwerthfawr ‘'r dosbarth.

Ategu gwaith awdurdodau tai trwy ddarparu cartrefi o safon i bobl leol sydd ar incwm isel ar gost y gallant ei fforddio, boed ar rent neu ar gyfer prynwyr tro cyntaf, ynghyd ag ateb angen pobl sydd ag anghenion arbennig gan geisio gwneud hynny o fewn stoc bresennol yr ardal, yn y dull mwyaf effeithiol, efo gwasanaeth sydd yn atebol i'r defnyddwyr a'r cymunedau lleol gan rannu'r adnoddau'n deg rhwng gwlad a thref.

'Wel?' 'Wel, 'ryn ni i fod i rannu'r un ystafell.

Darganfu'r ffordd i'r ystafell fwyta lle y gorfu iddo rannu bwrdd gyda phar ieuanc nad oedd ganddynt fymryn o ddiddordeb ynddo, ond a barodd iddo ddyheu am gwmni merch brydferth.

'Ydi Mam Lanaf Cymru am rannu'r jôc?' gofynnodd.

Peth hawdd yw doethinebu wrth edrych yn ôl ond anffodus, hwyrach, oedd y pennawd a ddewisodd Y Cymro roi ar ei adroddiad fod y Pwyllgor Gwaith am gyfarfod i 'rannu'r ysbail'.

"Diolch, Elystan." 'Roedd y gyfathrach rhyngddynt yn closio a dôi cyfle i rannu cyfrinachau.

Yn ôl eu harfer dros y blynyddoedd daeth dros ddwy fil o bobl i'r theatr eto eleni, y tro hwn i rannu atgofion John Davies - yr hen lanc canol oed a benderfynodd symud i fyw i lety wedi marw ei fam - wrth iddo werthu ei ddodrefn "o law i law% i berthnasau a chydnabod.

Proses o ildio, o rannu, yw priodas.

Fe gefais ambell waith dynnu Talfan allan o'i gragen, a'i berswadio i rannu ei boen.

Fe fyddai'r plant yn disgwyl iddi hi a Tom rannu caban, ac yn sicr, pe baen nhw'n dal i gysgu ar wahân, fe fyddai Joc yn deall ar waith fod rhywbeth rhyfedd ynglŷn â'u priodas.

Trwy fod yng nghwmni pobl eraill sy'n defnyddio iaith fel erfyn i bwrpasu amlwg, penodol, mae plentyn yn dysgu sut i ymddwyn fel defnyddiwr iaith, i rannu'r PWRPAS er mwyn dod i wybod SUT.

Wnei di rannu'r cyfrifoldeb efo fi?" "Gwnaf wrth gwrs, mi wyddost y gwnaf i." Gafaelodd y ddau yn dynn yn ei gilydd.

Bu rhai dylanwadau gwleidyddol ac etholiadol yn abl i rannu'r etholwyr yn eglwyswyr a chapelwyr ar dir hollol wahanol i enwadaeth.

O'r fan honno, gallent weld i bellterau cul y castell oedd wedi'i rannu'n dair rhan.

Fe gawson ni ein bygwth tra'n ceisio ffilmio gŵr oedd wrthi'n torri camel yn ddarnau, yr anifail wedi'i rannu'n goesau, pen, gwddf a thafelli o gig coch ac ar fin cael eu hongian ar un o stondinau prysur y farchnad.

Fe gawson ni gyfle i dalu'n ôl i rai ohonynt wrth rannu gwersyll ar gyrion Zacco, a rhannu crât o gwrw â nhw.

Sgoriodd Morgannwg 220, Matthew Elliott gyda 94, ei sgôr uchaf i'r sir yn y gystadleuaeth, a Matthew Maynard ar ei orau unwaith eto yn sgorio 50 gan rannu 98 am y drydedd wiced.

Ffyrdd a newidiodd lawer ar batrwm cymdeithasol yr ardal oedd y rhain, gan rannu yr hyn a fu unwaith yn gymdogaeth hamddenol.

Mae'r llyfrau yma'n rhoi cyfle ardderchog i rieni a phlant rannu'r profiad o ddarllen straeon ac edrych ar y lluniau sy'n mynd efo'r stori, gydag un frawddeg fer, hawdd, ar dop y tudalen i'r plentyn ei darllen allan yn uchel, ac yna testun hirach ar waelod pob tudalen i'r rhiant ei darllen allan.

'Ond mae'r Undeb wedi penderfynu, os bydd naw clwb bydd yr arian yn cael ei rannu rhwng y naw.

Clywsom nad oedd y cynhyrchwyr hyn yn derbyn 'cyflog'; yn hytrach, câi'r elw ei rannu rhwng pawb, gyda chynllun bonws i'r rhai mwyaf cynhyrchiol.

Camp fawr y cofiant hwn yw peri i ni, ddarllenwyr, rannu peth o'r boen ac ymdeimlo â'r dirgelwch.

Yna'r tir yn y pellter yn ddim ond golchiad fflat o rug porffor, ond y blaendir yn wyrddach ac wedi ei rannu'n ddau gan lon wledig, droellog, a dim ond twts o waith brwsh yn awgrymu'r llwyni a'r glaswellt.

sefydlu rhwydweithiau lleol a chenedlaethol i sicrhau fod offer cyfieithu priodol ar gael i bawb sydd eu hangen, ac i rannu adnoddau ieithyddol.

Gallwn yma sôn am amryw ddulliau i ddenu blaidd y dwr, ond yr wyf am rannu cyfrinach - gan ei bod yn gyfnod ewyllys da.CHWILIO AM DEGEIRIANNAU - Eluned Bebb Jones

Efallai y cymer ychydig mwy o amser na'r disgwyl, ond fe gyrhaeddwn ni yna yn y pen draw.' Gan na allwn rannu eu hoptimistiaeth, bu+m yn gohirio sgrifennu am hyn oll o un diwrnod i'r llall.

Yn sicr, byddai ganddynt stori i'w hadrodd, a chyngor i'w rannu a fedrai fod o fudd mawr i mi yn bersonol, ac i'r eglwys yn y gorllewin.

Chlywson nhw ddim byd, ac o'r diwedd penderfynwyd y buasai'r arian yn cael ei rannu rhwng y saith plentyn onest.

Er clod iddo, sicrhaodd Gadaffi - ar y dechrau, beth bynnag - fod cyfran o gyfoeth yr olew yn cael ei rannu'n deg rhwng y bobl.

Os oes elw, mae'n cael ei rannu allan rhwng aelodau'r Undeb.

Bydd disgyblion yn barod iawn i holi, i rannu profiadau, ac i gymryd rhan mewn chwarae rôl.

Y mae cynsail i rannu llwyfannu, fel syn digwydd gyda Gwlad Belg ar Iseldiroedd yn y bwncampwriaeth fydd yn dechrau ddydd Sadwrn.

Daw'r hyfforddiant a phobl anabl at ei gilydd i rannu profiadau.

Ni allai Hannah rannu'i frwdfrydedd ynglŷn â'r ddelwedd newydd.

Fy mraint i yn ystod y chwarter canrif diwethaf fu cael rhoi ar gof a chadw ronyn o'r etifeddiaeth gyfoethog yn Uwchaled a'r cyffiniau, ac, mewn darlith, ysgrif a chyfrol i rannu'r trysor hwn ag eraill.

Maen nhw'n dweud y bydd hynny'n fwy nag sy'n cael eu rannu rhwng y deg presennol.

Doedd r y traeth i'w rannu gyda hi.