Fe ddaeth y newyddion y bydd Texas Radio Band, grwp a enillodd y wobr am Grwp Newydd Gorau 99 yng noson wobrwyo RAP Radio Cymru, y byddan nhw'n mynd i stiwdio Fflach yr wythnos yma i gychwyn recordio Ep chwe chan fydd allan ar label RASP yn y dyfodol agos.
Daeth newydd fod Supamyff yn recordio ep ar label RASP fydd yn cael ei rhyddhau tua mis Hydref.
Fedrwn ni ond diolch i griw label RASP am ryddhau Pedair Stori Fer gan gefnogi grwp ifanc arall yn y broses, a hynny yn dilyn llwyddiant EPs gan Yr Anhygoel, Cacamwci a llawer mwy.
Yn sicr, mae sefydlu is-label i Fflach wedi bod yn fenter lwyddiannus a chyda lwc fe fyddwn ni'n gweld mwy o gynnyrch gan RASP yn ystod ail hanner y flwyddyn.