Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

rasul

rasul

Bydd Arshad Rasul yn ymuno â Thîm Rheoli S4C ac yn ymgymryd â'i gyfrifoldebau ar Awst 23ain.

Graddiodd Arshad Rasul mewn Peirianneg Electronig o Sefydliad Gwyddoniaeth a Thechnoleg Prifysgol Manceinion (UMIST) yn 1976 ac mae ganddo dros ugain mlynedd o brofiad ym maes peirianneg teledu.

Ganed Arshad Rasul, 45, ym Mhacistan ac ar hyn o bryd mae'n byw yn Harpenden, Swydd Hertford gyda'i wraig a'i ddau blentyn.

Cyhoeddwyd mai ARSHAD RASUL fydd Cyfarwyddwr Peirianneg a Thechnoleg newydd S4C.