Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

reddfol

reddfol

Y drwg yw fod y grefft hon - a fun un reddfol bron inni dros y canrifoedd - yn un mor ddieithr erbyn heddiw na wyddom sut i'w harfer.

Ond mae mudo yn act reddfol erbyn hyn ac mae un ddamcaniaeth yn sôn bod y mudo yn gysylltiedig â diwedd yr oes iâ ddiwethaf.

Synnai Nofa at eu diffyg gofal a gwyliadwriaeth, ond gwyddai'n reddfol erbyn hyn nad oedd yna lawer o bobl yn y wlad a fyddai'n gallu peri problem iddo.

Er nad oes unrhyw dystiolaeth fod cotwm naturiol yn well; yr wyf i o'r farn y bydd pobl yn reddfol yn teimlon well ynddyn nhw, meddai perchen y siop.

Fe deimlwn yn reddfol rywsut, nad oedd hi'n cydweld a'r gwahoddiad.

Drws troi oedd o a chafodd drafferth i wthio trwyddo, ond wedi llwyddo, yn reddfol, tynnodd ei het fel pe bai wedi cyrraedd y capel.

Ni fendithiwyd yr un garddwr erioed yn reddfol â dewiniaeth yr hen gredo am "fysedd gwyrdd".

Fyddwn i'n gobeithio ein bod ni i gyd fel aelodau Cymdeithas yr Iaith, er efallai yn ymateb yn reddfol i sefyllfa, yn hyderus fod y reddf honno wedi ei seilio ar egwyddor o hir ymarfer.

`Never forget the wonder of it all', meddai'r gohebydd profiadol o Sais, Martin Bell wrtha i rhywdro, gan led-awgrymu fod amheuaeth reddfol y newyddiadurwr yn ei rwystro weithiau rhag gweld ambell ryfeddod.

Efallai i mi wneud hynny yn reddfol fel yn union y sgwenish i ati hi yn holi am ddêt yn y Cwps.

Yn yr un modd yr ydym yn fwriadol yn gwneud rhai pethau, a hynny'n reddfol bron, er mwyn sicrhau lwc dda.

Ymollyngodd i'r gadair freichiau y codawn ohoni, estynnodd ei law yn reddfol am y blwch tybaco ar y pentan yn ei ymyl, a dechreuodd lenwi ei bibell yn araf a phruddaidd.

Tros y canrifoedd mae wedi dod yn reddfol eu bod yn gwybod bod digon o fwyd yn Ewrob yn yr Haf.

Cododd Manon ei llaw bron yn reddfol a bodio plygion ei gŵn nos.

O ddod i gyfarfyddiad annisgwyl â David Hunt, John Redwood neu Wyn Roberts fe ddigwyddais i ymateb mewn ffordd cwbl reddfol, dwi'n cydnabod hynny.

Cymryd ambell gegaid wna'r sewin - o barchus goffadwriaeth reddfol am bantri llawn y môr!

Sefais am ennyd yn reddfol.

Ar y llaw arall, mae naturiaethwyr y wlad wedi bod yn hynod o brysur yn achub y cyfle i astudio arferion y baeddod hyn.Er ei fod yn hysbys i bawb fod yr anifeiliaid hyn yn reddfol yn hoff o fes fel eu bwyd mewn coedwigoedd, sylweddolwyd yn fuan eu bod nhw hefyd yn hynod hoff o frwyn a hesg sy'n tyfu wrth ochr y mor.