Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

redeg

redeg

Daeth yr awyren i lawr yn esmwyth gan redeg ar hyd rhyw gae.

Un...!" Poerodd Morfudd ar ei bawd a'i redeg yn gyflym ar hyd bwâu ei haeliau, o arfer yn fwy na dim arall, gan mai ychydig o flew a dyfai yno bellach.

O gael ei rhyddhau ar brawf o garchar maen fwg ac yn dân dros wneud popeth i'w hamddiffyn - yn bennaf trwy dywallt arian i gartref cwn y mae Kevin Shepherd (Ioan Gruffudd) yn ei redeg.

Nid drame de these sydd yma ond darlun sy'n caniatau i emosiynau cymysglyd dyn redeg yn rhydd.

`Andrew!' gwaeddodd Mrs Parker gan redeg at ei g r.

Dyna fu'n gyfrifol fod un brawd wedi cael clod am redeg "hanner can milltir" at y teliffon i alw'r frigâd pan aeth ei dy ar dân.

Dilynwch y cysylltiadau ar y dudalen hon i ddarganfod mwy am y ffordd mae'r BBC yn cael ei redeg yng Nghymru, a sut i gysylltu a ni.

Rodd pawb yn whare i'w gilydd, yn barod i redeg âr bêl yn eu dwylo ac yn paso cyn cal eu taclo.

Dechreuodd gyfri'n ddistaw wrth redeg.

Gwenodd ei daid wrth iddo redeg ei fysedd yn ysgafn hyd clawr y llyfr.

Byddwn yn aml yn mynd gyda'r pysgotwyr ben bore, tua phump o'r gloch fel arfer yn yr haf i ddal mecryll.Dysgais y gamp o ddal pollock a sut i 'redeg rhwydi' a dal sgadan hefyd.

phan welsant ar etholiad y `Rail-splitter o Illinois' [Abraham Lincoln], ys gwelid ef, fod tebygolrwydd y buasent hwy bellach yn colli llyw y peiriant o'u dwylo, gadawsant Washington mewn dicter a soriant - wedi moni: symudasant gyda'i gilydd i ganolbarth gwlad y cotwm; yna sefydlasant ym Montgomery, prifddinas y dalaith hon, a gosodasant i fyny lywodraeth fawr o'r eiddynt eu hunain, ac etholasant cotton planter o dalaith Mississippi yn ben arnynt - `yn engineer in chief' - i redeg y peiriant.

Maen nhw'n cyd-redeg a chwarae dros ei gilydd a bydd talcen caled gyda nir Cymry i'w curo nhw.

Ffordd y dyn gwyn o gael y dynion tywyll i redeg ar ôl peli iddyn nhw oedd hyn i ddechrau, - ond mae hynny wedi newid erbyn hyn hefyd, wrth gwrs!

Ond yr oedd rhywbeth yn anghysurus iawn gweld fod dwy ddynes yn Sir Fôn wedi cysegru eu bywyd i redeg ar ôl cathod er mwyn eu dal nhw i'w sbaddu - neu gweirio fel byddan nhw'n dweud ar yr ynys honno.

Ond ddiwedd yr wythnos hon y llynedd pan oeddwn ar wyliau yn yr Alban yr oedd yno goblyn o le wedi i hogan bedair ar bymtheg oed redeg bron yn boeth at Tiger Woods ar ddeunawfed grîn y Scottish Open a rhoi clamp o sws iddo fo a dawnsio o'i gwmpas.

Gwyddai na allai Dad redeg ar ei ôl, ddim â'r bygi yn ei ofal a'r pecyn sglods dan ei fraich.

Nid oedd unrhyw gyfiawnhad masnachol tros redeg y tren ar yr amser hwn.

Cychwynnodd redeg ar flaenau'i thraed dros lawr y gegin, ond rhewodd mewn braw pan glywodd floedd awdurdodol o'r tu allan.

Wedi'r holl dreialon, y morloi, llamyddion, rhwydi, creyr glas, a glas y dorlan yn nyddiau mebyd potsiars a gwenyn Cymag - mae dy rawd wedi ei redeg, a rhaid i eraill fynd dros grych pwll y bont eleni.

Achos brwydr am yr hawl i Lundain redeg ei phethau ei hun ydi un Ken Livingstone a'r gweddill.

gobeithient, trwy redeg ar draws y cae, gyrraedd y safle manteisiol hwn o flaen eu llongau, ac os byddai 'r rheini 'n dal i fynd aent ymlaen at bont trillwyn, a 'r llong gyntaf dan y bont fyddai 'n ennill.

Dyna pam y mae cymaint o bobl denau yn cael eu gyrru i redeg a loncian.

Yn fy stafell y sgrifennaf hwn a gallaf weld y Passage ar gychwyn am Gymru ac mae awydd cryf ynof i redeg i ymuno â hwy.

'Rheda!' gwaeddodd Elen a dechreuon nhw redeg yn ôl drwy'r coed tua'r dreflan.

`Dyna ferch sy'n medru rhedeg!' Doedd hyn ddim yn syndod oherwydd Debbie oedd pencampwr yr ysgol am redeg wyth can a phymtheg can medr.

Yn 1996 cyrhaeddodd Nia, merch Llew, ac achosodd Nia helyntion di-ri iddo wrth iddi yn gynta redeg i ffwrdd o gartre ac yna cael ei hun yn feichiog gyda phlentyn Hywel Llewelyn.

Prynodd Dyff y Deri a chafodd Kath drwydded i redeg y lle.

Gwyddom hefyd pa mor barod yr oedd Evan Jones i roi benthyg arian i'w gwsmeriaid pan fyddai'r esgid fach yn gwasgu, yn ogystal a gadael i ddyled y 'llyfr siop' redeg am flynyddoedd.

Fe allai redeg heb i neb ei weld.

Er bod Cymru ar y blaen am y rhan fwyaf o'r gêm yn erbyn pencampwyr rygbi Japan, Suntory, boddi wrth ymyl y lan oedd yr hanes yn y diwedd, wrth i'r chwaraewyr redeg allan o stêm yn y chwarter awr olaf.

Gan bod y cynllun a gymeradwywyd yn dangos y dylai'r wal ffin gyd-redeg â wal ffin llain cyfochrog, ysgrifennwyd at y perchennog yn ei gynghori i wneud y gwaith yn unol â'r cynllun a gymeradwywyd.

Cafodd Shaw ei redeg mâs am 24 a wedyn cafwyd y diweddglo arbennig.

Bydd yr unedau'n cyflwyno'r arferion dysgu da a welwyd ar waith yn ystod cyfnodau o arsylwi yn yr ystafell ddosbarth ac yn adeiladu ar y dadansoddi a ddigwyddodd fel rhan o ymchwil a oedd yn cyd-redeg a'r gwaith.

Cyhoeddwyd adroddiad cyn y râs yn dweud fod cael cyfathrach rywiol y noson cynt yn gwneud ichi redeg yn gynt y diwrnod wedyn.

a dechreuodd gethin redeg.

Cyn i'r garafa/ n camelod gyrraedd y balmwydden cychwynnodd y criw ar ei hôl, gan redeg a gweiddi.

"Paid â gwrando ar y ffŵl yna!" gwaeddodd un peilot wrth redeg allan ar ei ôl.

Ar ôl i'r person cyntaf wneud dymuniad rhaid oedd iddo redeg â chyffwrdd mewn rhywbeth wedi ei wneud o bren.

Ar ôl marwolaeth Glan arhosodd Cassie a Teg yng Nghwmderi i helpu Mrs Mac i redeg y Deri Arms a phan benderfynodd Mrs Mac adael am Tenerife yn 1997, prynodd Teg a Cassie'r Deri.

Cymerwyd cyfrifoldeb am redeg Cymdeithas Tai Meirionnydd Nant Conwy.

Haedda Ian Jones air o ganmoliaeth hefyd am ei redeg medrus ar yr asgell a'i barodrwydd i geisio sicrhau parhad symudiad.

Cofiodd yn sydyn nad oedd wedi cael ei ginio a dechreuodd y dŵr redeg rhwng ei ddannedd wrth iddo feddwl am sglodion Mam yn frown-felyn ar y plât o'i flaen.

Bydd aelodaeth y Senedd gyflawn ar ei newydd wedd fel a ganlyn: (i) cadeirydd; (ii) is-gadeirydd ymchwil a pholisi; (iii) is-gadeirydd cyfathrebu; (iv) is-gadeirydd ymgyrchu gweithredol; (v) is-gadeirydd gweinyddol; (vi) trysorydd; (vii) cynullydd a chynrychiolydd arall o'r grŵp ymgyrch Deddf Iaith i'r Ganrif Newydd; (viii) cynullydd a chynrychiolydd arall o'r grŵp Ymgyrch Addysg; (ix) cynullydd a chynrychiolydd arall o'r grŵp Ymgyrch Cymunedau Rhydd; (x) cadeirydd pob rhanbarth (ynghyd â chynrychiolydd ychwanegol mewn rhanbarthau lle mae celloedd byw oddi fewn iddi, sef adolygiad blynyddol yn unol â'r defn bresennol); (xi) golygydd Y Tafod; (xii) swyddog masnachol; (xiii) swyddog adloniant; (xiv) hawl i gyfethol 3 aelod e.e. i redeg ymgyrch dros dro arbennig neu i gel cynrychiolydd uniongyrchol o gelloedd myfyrwyr.

Mae'r Cyngor ar ddeall bod oedi i'r perwyl yma ond nid ydynt yn pwyso gan ei fod yn eu galluogi i barhau i redeg Llwyn Isaf a chadw'r gweithwyr mewn gwaith.

Gallai Cela Trams redeg y lle, a thalu cyfran go dda o'r elw i'r Trysorlys: byddai hynny'n siŵr o ennill cefnogaeth y Canghellor a hawdd fyddai darbwyllo'r bobl y byddai N'Og mor gyfoethog o hyn ymlaen fel y gallai pawb wledda ar fwydydd llawer mwy blasus a maethlon na wynwyn.

CYFLWYNWYD adroddiad y Swyddog Adeiladau ar gais y tenant am gyfraniad gan y Cyngor tuag at gost difrod a achoswyd i'r carped a phapur ar y wal o ganlyniad i ddŵr redeg i'r tŷ o dan y drws.

Wrth i'r chwaraewyr redeg allan ar y cae a dechrau chwarae bloeddiodd y dorf ei chymeradwyaeth.

Rhaid disgwyl camgymeriadau pan fo meidrolion yn chwarae wedi'r cyfan, a phan fo dau dim yn gwneud eu gorau glas i chwarae rygbi pymtheg trwy redeg a phasio - a dyna a welsom ni.

A 'doedd ryfedd yn y byd i wefr o falchder redeg trwy wythiennau hogyn bach deg oed pan glywodd o fod ei frawd mawr am wneud berfa iddo fo.

Ond parhau i redeg y mae dŵr grisialaidd yr hen bistylloedd: Pistyll Sybil, Pistyll Aelwyd Brys, a Phistyll Plâs.

Dechreuodd ambell un redeg a chododd eu lleisiau'n uchel wrth iddyn nhw ddechrau dringo'r grisiau ar ei ôl.

Edrychwch ychydig bach i'r chwith o Foel Hebog, wrth ichwi redeg eich golwg i lawr o'r Crib, cyn i Mynydd Y Tyddyn ddod i'r golwg a mi welwch, rhwng y ddau grib megis, Mynydd y Brithdir Mawr.

Eithr pan beidiodd yr ergydion, clywodd lais merch yn sgrechian a dychrynu cymaint nes iddi redeg i ffenestr yr ystafell ffrynt rhag ofn bod rhywun o'r drws nesaf wedi cael damwain.

Tim Dwyran oedd y buddugwyr hefyd y ny Ras Fawr, lle roedd aelodau i wisgo i fyny fel ceffyl, joci, a hyfforddwr, ac i redeg ras go iawn yn erbyn y clybiau eraill.

Gan nad oedd yr elw a wneid o redeg y gwasanaeth tren yn dod yn agos at y gost o'i gynnal bydd y gwasanaeth yn dod i ben.

'Mi fydda i'n hoffo fynd i redeg, a dwi'n ffendio'r adegau hynny yn fuddiol iawn i feddwl am y peth.

Mewn rhai ardaloedd roedd ceffyl yn cael eu gwaedu, ond mewn rhai eraill arferai llanciau ifanc redeg ar ôl morynion neu ferched eraill o'r un dosbarth gan chwipio eu breichiau â chelyn nes eu bod yn gwaedu!

I arbed llifogydd, gosodwyd yr afon i redeg rhwng argloddiau sylweddol, a chodwyd llifddorau i reoli ei thaith i'r môr ym mhen gogledd orllewinol Cob Malltraeth.

Ac adroddwyd wrthyf i'r mulod ddysgu yn fuan i redeg i gefn y trên wedi iddynt gael eu datgysylltu ar y pen blaen, fel y gallent esgyn i'r llwyfan.

dechreuodd huw grio 'n ddistaw bach, ond peidiodd pan ddywedodd gethin fod rhaid iddynt redeg bob cam i swyddfa 'r heddlu.

Datblygu wnaeth perthynas Reg a Diane - yn arbennig felly wrth i Emma redeg i ffwrdd o gartre.

Wnâi o ddim caniata/ u i'w gi o fynd yn rhy dew, sicrhâi ddigon o redeg iddo...