Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

refferendwm

refferendwm

'Roedd hyn yn golygu y byddai'r refferendwm â grym gorfodol yn hytrach nag yn asesiad ymgynghorol.

Wrth arwyddo Cytundeb Belffast (neu Gytundeb Gwener y Groglith) roedd prif bleidiau gwleidyddol y gogledd, a holl bobl Iwerddon trwy refferendwm ddiwedd mis Mai eleni, yn derbyn y lle blaenllaw a roddwyd i'r Wyddeleg yn y Cytundeb.

Cynnal y Refferendwm cyntaf i benderfynu a ddylid agor tafarndai ar y Sul yng Nghymru.

Rwyn cofio teimlon hynod o hapus y bore da hwnnw yng Nghymru pan gyhoeddwyd canlyniad y refferendwm datganoli.

Y Llywodraeth yn cyhoeddi ei bwriad i gynnal refferendwm ar ddatganoli yng Nghymru a'r Alban.

Nid chwilio am Goron yr oedd T. James Jones, ond am glust i'w siom yn ei gydwladwyr wedi canlyniad y refferendwm ar ddatganoli.

Mae gennym fel Cymry atgofion hallt am beth all ddigwydd gyda refferendwm.

Cafodd cefnogwyr y Cynulliad i Gymru eu siomi gan ganlyniad y Refferendwm ar Ddatganoli.

Cynhyrchodd raglen arbennig yn dilyn Refferendwm Cytundeb Heddwch Gogledd Iwerddon gyda chysylltiadau byw gan ein gohebydd gwleidyddol Bethan Rhys Roberts ym Melfast ac Aled Huw yn Nulyn.

Y mae Magi a'i chriw eisiau Refferendwm er mwyn i'r bobl gael dewis.

James Jones, ond am glust i'w siom yn ei gydwladwyr wedi canlyniad y refferendwm ar ddatganoli.

Pan adroddwyd ar 1997/98 flwyddyn yn ôl roedd yn anodd gwybod sut y byddem yn cyflawni cymaint yn ystod y 12 mis ar ôl y digwyddiadau syfrdanol hynny - yr Etholiad Cyffredinol, y refferendwm datganoli a marwolaeth Tywysoges Diana.

Ond ar ôl ein profiad yng Nghymru gyda'r refferendwm datganoli, gellid maddau inni am deimlo'n amheus iawn ynglyn â gwerth y fath beth.

Thema ganolog: Oes y Brotest: cyfnod y protestio mawr yng Nghymru ac ym Mharis, America, a mannau eraill; yr Arwisgo yng Nghymru yn chwalu gobeithion llawer ond yn caledu cenedlaetholdeb, protestio mawr gan Gymdeithas yr Iaith ar faes yr Eisteddfod, ond y cyfan yn diweddau mewn siom gyda phleidlais negyddol Cymru yn y Refferendwm ar Ddatganoli ym 1979, ac ymateb T.James Jones yng nghystadleuaeth y Goron.

Noson canlyniadau'r Refferendwm yng Nghaerdydd.

Hyd y gwn, dyw'r ysgolheigion heb weithio ar y cysylltiad rhwng patrwm y pleidleisio yn y ddwy refferendwm, ond mi led-greda'i fod cyfran uchel o'r rhai a bleidleisiodd dros y Cynulliad ymhlith y lleiafrif a bleidleisiodd dros ddod allan o'r Gymuned.

Y refferendwm, sgwâr Llangefni ar ôl ethol Keith Best yn 1979 a chyfarfod cyhoeddus i gefnogi Gwynfor yn ei safiad dros Sianel ydi rhai o'r 'profiadau mawr' cynta dwi'n cofio eu cael, a gan nad oedda ni yn deulu am fynd o steddfod i steddfod mae'n debyg mae steddfod Llangefni a champio yng ngardd gefn Anti Jini oedd un o'r cyfleoedd cynta ges i i ymaelodi.

Thema ganolog: Llwyddiant: symud ymlaen ar ôl siom y Refferendwm ar Ddatganoli at brotest Gwynfor Evans ym 1980 ynghylch sefydlu Pedwaredd Sianel Cymru; sefydlu'r Sianel ym 1982, a diweddu gyda Chymru yn ymateb yn gadarnhaol i'r ail Refferendwm ar Ddatganoli, a'r Cynulliad ar ei ffordd ar gyfer y mileniwm newydd.

Efallai y dylem gofio weithiau yr hyn a ddigwyddodd yng Nghymru yn dilyn y refferendwm yn 1979.

Cymru yn gwrthod datganoli o bedwar i un mewn refferendwm a gynhaliwyd ar Ddydd G^wyl Ddewi.

Mae'n bosibl mai un ddadl tros gael refferendwm yw y byddai'n gyfle i oleuo'r cyhoedd ynglyn â'i gynnwys ac i sicrhau gwerthiant sylweddol iddo.