Diolchais i'r nefoedd nad oeddwn yn reidio'n aml i'r stabl honno ac mai job diwrnod oedd hon am fod Steve Millace, y joci arferol, wedi mynd i angladd ei dad.
Nid rhywbeth i'w wrthod oedd cyfle i reidio, hyd yn oed os oedd trychineb yn amlwg yn y llyfrau form.