Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

reidrwydd

reidrwydd

O reidrwydd, pregethu athrawiaeth yn hytrach na phrofiad oedd hyn, o'r pen ac nid o'r calon.

O reidrwydd ceir mynych ailadrodd, ac mae'r golygydd ei hun hefyd yn trafod y cerddi hyn.

Amlyga elfennau athronyddol i'r stori gyda'r naratif yn y person cyntaf, a'r person hwnnw (yr awdur, o bosib, ond nid o reidrwydd) yn rhoi ei hun yn sefyllfa Duw gan ddweud mai fel hyn y mae Duw yn edrych ar bawb o ddydd i ddydd ac fel hyn y gall brofi ein camweddau inni ar Ddydd y Farn.

Heddiw, nid oes reidrwydd ar neb i wlana ar ffriddoedd bro fy mebyd, ac y mae'r gorchwyl pleserus o dorri mawn yn darfod o'r tir.

Fel y saif y Gyfraith ar hyn o bryd, nid oes reidrwydd ar yrrwr i gario'i frwydded yrru yn ei boced.

Mae'n debyg mai fel chwiw dros dro y bwriadwyd i'w dro%edigaeth wleidyddol gael ei darlunio gan nad yw'r dadrith yn brofiad ingol iawn i Harri; o reidrwydd felly gan fod y nofelydd yn paratoi Harri ar gyfer tro%edigaeth ysbrydol barchusach o lawer.

Gan wahaniaethu rhwng cenedligrwydd a chenedlaetholdeb, a chan dderbyn fod y naill o reidrwydd yn sail i'r llall, y mae'n dweud ar ei ben taw peth diweddar iawn yw cenedlaetholdeb gwleidyddol yng Nghymru - 'little older (apart from the occasional voice crying in the wilderness) than the second half of the nineteenth century.' Yna, yn ail hanner yr erthygl, try RT Jenkins at 'y ffurf arall ar genedlaetholdeb Cymreig', y ffurf ddiwylliadol arno.

Felly, a bod yn onest nid o gariad at yr iaith y dechreuais i ddysgu, ond o reidrwydd mewn ffordd, rhyw deimlad o fod yn Gymro yn gallu siarad a phobl.

Os byddai'r adeilad yn wych a phobl bwysig yn byw ynddo pwysig yn ein barn ni cofiwch, nid o reidrwydd yn marn pobl eraill fe fyddem yn canu'r emyn a ganlyn: 'Odlau tyner engyl O'r ffurfafen glir Mwyn furmuron cariad Hidlant dros y tir' hyd ddiwedd y pennill cynta'.

Tra gallai ysfa ddiwygiadol yr unbeniaid goleuedig helpu diwylliannau cysglyd, nid oedd Herderiaeth o reidrwydd yn ffafriol iddynt.

Mae eneideg o'r fath o reidrwydd yn annelwig.

Nid o reidrwydd y pum enillydd bob nos fydd yn ymddangos ar y llwyfan terfynol, ond y pump a roddodd perfformiadau gorau yn ystod yr wythnos.

Er hynnny, mae cnewyllyn y cyfansoddi ar fesurau caeth o reidrwydd yn ffurfio dolennau cryfion a'r gorffennol.

Mae'r mwyafrif ohonom ni'n teimlo ryw reidrwydd i gymryd rhan yn y chwerthin cymdeithasol.

Y mae'r glowr mewn llenyddiaeth yn enghraifft meddai, "o gymeriad a grebachwyd gan deyrngarwch." "O safbwynt llenyddiaeth y Gymraeg byddai mwy o 'anheyrngarwch' ...wedi gwneud mwy o les, wrth gwrs, na'r teyrngarwch rhigolus sydd yn ei hanfod yn wrthlenyddiaeth, ond yr oedd argyfwng y Gymraeg, gwaetha'r modd, wedi peri meddwl ers tro fod pob 'anheyrngarwch' o reidrwydd yn ddinistriol.

Rhoddodd y beirniaid fwy o sylw i genedlaetholdeb yng ngwaith Ffowc Elis nag i Gomiwnyddiaeth/Marcsiaeth/ Sosialaeth, oherwydd, yn ddiddorol iawn, wrth bleidio'r achos cenedlaethol yn anad yr un achos gwleidyddol arall y beirniedir llenorion am lunio propaganda ar draul creu llenyddiaeth, gan ragdybio fod y ddau yn bethau hollol ar wahân, a bod y naill o reidrwydd yn difetha'r llall.

Felly, nid yw'r prinder dylanwad clasurol yng ngweithiau'r beirdd Cymraeg yn dangos o reidrwydd iddynt fod yn anghyfarwydd â'r clasuron, neu yn elyniaethus iddynt; gallai olygu yn unig nad oeddynt yn teimlo'r angen i'w dynwared.

Canodd alaw gyfarwydd Donizetti Una furtiva lagrima - nid o reidrwydd yn syniad rhy dda gan ei bod yn hoff gân cynifer o denoriaid enwog - yn felys a chynhesodd y dorf ar drothwy'r egwyl gydag O figli, o figli miei o Macbeth Verdi.

O reidrwydd, hefyd, bydd gofyn sôn cryn dipyn am ei gyfaill a'i gyd-weithiwr, William Salesbury.