Cenedl fach iawn wledig oedd Cymru, yn meddu ar ychydig o gannoedd o filoedd o boblogaeth yn unig, heb brifddinas debyg i Gaeredin neu Rennes a feddai ar seneddau y pryd hynny, neu Ddulyn a gâi senedd am gyfnod yn y ganrif nesaf.