Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

rhad

rhad

Cewch chi ymuno a'r llyfrgell yn rhad ac am ddim, ac fe gewch fenthyca hyd at ddeg eitem ar y tro dros gyfnod o bythefnos.

Cystadleuaeth fwya' y cwmnïau yma yw'r trenau intercity, mae teithio ar drên yn Ffrainc, yr Eidal a'r Almaen yn rhad, effeithiol a chyflym.

Yr oedd y fflatiau yn rhad a gellid eu codi'n gyflym ac yr oedd ynddynt gyfleusterau modern megis ystafell ymolchi, nad oedd i'w cael yn yr hen dai.

Tan tua phum mlynedd yn ôl roedd teithio rhad o fewn Ewrop yn golygu ‘pecynnau gwyliau' gyda phawb yn cael eu gwagu i gorlan gyfyng a'u trin fel defaid.

Edrychwch ar eu gwefan i gael hyd i'r fersiwn rhad ac am ddim, e.e. RealPlayer 7 Basic neu RealPlayer G2, gan sicrhau eich bod yn dewis y fersiwn priodol ar gyfer PC neu'r Mac.

'Roeddent yn rhad fel baw, deunaw oedd y sach a'r llyfrau!' Ond ni fedrai yr un o'r pâr hapus air ar lyfr Cymraeg, heb sôn am lyfr Sanscrit.

Dylid nodi i'r tir gael ei roddi yn rhad gan John Davies, Glan-y-gors, ac i'r adeilad gael ei godi ar safle wahanol i'r addoldy blaenorol.

Am wybodaeth gyffredinol a thocynnau ffoniwch yn rhad ac am ddim 0800 052 1812.

Wrth ystyried dulliau gwerthu, gwelir rhai adnoddau yn cael eu gwerthu o'r canolfannau unigol yn unig, eraill ar werth yn y siopau (drwy'r Cyngor Llyfrau) yn unig, eraill ar werth yn y canolfannau a'r siopau (drwy'r Cyngor Llyfrau), ac eraill eto yn cael eu dosbarthu yn rhad ac am ddim.

Mae'r gwasanaeth yn rhad ac am ddim.

Yn olaf, fe ellir chwarae y rhaglen orffenedig yn ôl ar sawl sgrîn deledu yng ngolau dydd, a chyda llawer llai o draul ar y tâp nag a fyddai ar ffilm arferol, a byddai cynhyrchu copi%au o'r rhaglen wreiddiol yn hawdd ac yn rhad.

Y newydd diweddara o Bradford yw fod Stan Collymore yn awr wedi ymuno â'r clwb - a hynny'n rhad ac ddim yn dilyn ei drafferthion diweddara yng Nghaerlyr.

Dyw e ddim yn rhad ond maen ffordd o ddiogelu y bydd Cwpan Lloegr yn dod i Gaerdydd a bydde colli'r gystadleuaeth honno yn ddrutach o lawer.

Twristiaeth ydi'r ffon fara bwysicaf ac mae'n wir dweud bod y lonydd culion yn frith o sgwteri a motobeics er bod yna wasanaeth bysiau cyhoeddus rhagorol a rhad.

Tad yn y Mab, Mab yn y Tad, Ac yr un wedd mae'r Ysbryd rhad; Y man bo un y lleill y sy; O ryfedd Fod!

Yr oedd yn rhad ac o fewn cyrraedd y gweithiwr cyffredin a'i gyflog bychan.

Daeth yr argraffwyr i ben eu defnydd hanner ffordd trwy dudalen chwech, a gadawyd y gweddill yn wag, yn lle'i defnyddio i roi hysbyseb rhad ac am ddim i'r blaid.

Yn ogystal â thrin gwallt rydw i'n hyfforddwr sboncen, felly, os oes unrhyw un eisiau gwersi maen nhw ar gael yn rhad ac am ddim.

A bydd ymateb Duw yn drugarog: bydd yn rhoddi maddeuant yn rhad am y pechodau mwyaf, os bydd y pechadur yn edifarhau a throi oddi wrth ei bechodau.

Dywedodd Meira Roberts ei bod hi ar gael yn rhinwedd ei swydd i ymweld â changhennau yn rhad - i ddangos sleidiau a hysbysebu'r Mudiad.

Fe ymbalfelais am y drws a'i agor o, ond erbyn hynny yr oedd fy sanau newydd i'n sbotiau o dywod coch - rhad ar y dynion yna!

Nid oes angen llwytho i lawr unrhyw fersiwn y talwyd amdano o RealPlayer megis RealPlayer Plus i wylio neu i wrando ar ffeiliau RealMedia ar unrhyw un o wefannau'r BBC. Edrychwch ar eu gwefan i gael hyd i'r fersiwn rhad ac am ddim, e.e. RealPlayer 7 Basic neu RealPlayer G2, gan sicrhau eich bod yn dewis y fersiwn priodol ar gyfer PC neu'r Mac.

Wedi'r cwbl, yn y pen draw ni all Cymru gystadlu gyda gwledydd Dwyrain Ewrop na'r Trydydd Byd ar sail llafur rhad.

Caent eu llyfrau, dillad, bwyd, gofal meddygol a thrafnidiaeth yn rhad ac am ddim.

Anfonwyd fersiwn uniaith Saesneg yn rhad ac am ddim i bob cartref yn y chwe sir.

Mae Libyaid heddiw, fodd bynnag, yn gyfforddus eu byd ac yn derbyn gwasanaethau addysg a iechyd o'r safon uchaf yn rhad ac am ddim.

Daeth y nifer mwyaf erioed o sêr o Gymru ynghyd ym Mae Caerdydd ar gyfer Lleisiau Cenedl, cyngerdd mawreddog yn rhad ac am ddim a gynhaliwyd i ddathlu agoriad brenhinol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

'Roedd llafur yn ddigon rhad hefyd i gasglu eu carthion a'u taflu neu eu defnyddio mewn rhan o'r ardd.

O ganlyniad i hyn, y mae tuedd ddiamheuol iddynt gynnig triniaethau llawfeddygol pan nad oes gwir angen amdanynt ac i roi triniaeth gymhleth a drudfawr pan fyddai un syml a rhad yn gwneud y tro'n iawn.

Tros bechadur buost farw, Tros bechadur ar y pren, Y dioddefaist hoelion llymion, Nes it orfod crymu'th ben; Dwed i mi ai fi oedd hwnnw Gofiodd cariad rhad mor fawr?

Taflenni hysbysebu yw rhai ohonynt a fawr ddim newyddion na deunydd golygyddol tra ceir eraill sy'n olynwyr i bapurau y telid amdanynt gynt ond sydd wedi penderfynu ymuno a'r fasnach ddosbarthu rhad - yn hynod o debyg i'w rhagflaenwyr.

Byddai, mi fyddai'r plant yn tyfu'n gryf, yn cael eu hysgol yn rhad ac am ddim, ac yng ngolau'r addysg rhad hwnnw'n tyrru'n eu holau i chwyddo cyfoeth, aelodaeth, a dylanwad y capel.

cyfleusterau ar gael i staff ac aelodau'r Cynulliad i ddysgu a/neu gloywi Cymraeg o fewn oriau gwaith, yn y man gwaith, yn rhad ac am ddim.

Ces addewid am bryd o fwyd rhad yn y Royal Oak.

Fel arfer, fi ydy'r un sy'n rhuthro'n orffwyll o Oxfam i Mencap ac yn ôl i Achu'o y Plant (mae angen Achub Rhieni adeg y 'Dolig, heb sôn am blant) yn chwilio am gerdyn rhad i'w yrru at Glenda a Bryn a gofiodd amdanom eleni er i ni eu croesi oddi ar y rhestr ers tair blynedd bellach.

'Tric rhad', meddech, ddim yn gweddu i ddifrifoldeb meddwl cynulleidfa theatr 'genedlaethol.' Mae'n anodd i awdur llwyddiannus anwybyddu'r elfen o wirioni plentynnaidd sydd yn rhan o theatr.