Maent yn ei agor hefo cyllell, ac yn ei ail danio, ac i fyny'r rhaff â hwy, cyn gynted ag y gallent, a dyrna glec a thwrw mawr gan y cerrig yn rhowlio i lawr wyneb y graig.
Fel rheol ar ôl i dwll fel hyn gael ei saethu mae angen llnau wyneb y graig, gan fod cerrig wedi symud ond ddim wedi dod i lawr, felly rhaid i'r ddau ddyn fynd i lawr ar y rhaff eto hefo darn o haearn crwn rhyw bedair troedfedd o hyd wedi ei finio yn un pen, yr hwn a elwir yn drosol.
Byddai wyth o ddynion yn y 'criw dal rhaff'--saith i ollwng y rhaffwr dros yr ymyl a'i ddal yn ddiogel wedyn tra byddai'n gweithio, a'r wythfed, yr hynaf fel rheol yn gwasanaethu fel 'flagman'.
Gwnaeth y morwyr siglen iddynt gyda chadair bosyn a rhaff wrth un o'r stays ac yn bur debyg cylchau gyda rhaff iddynt eu taflu i fwced.
Aeth i ffair Fawrth y Cerrig, lle roedd show fawr, a'r showman ar lwyfan o'i blaen yn traethu am y rhyfeddodau oedd i mewn, mewn rhaff o Saesneg mor rhugl â Phistyll Sibyl.
Gan glymu un pen i'r rhaff o gwmpas boncyff coeden gollyngodd ei hun i mewn i'r twll du, drewllyd.
Dro arall mae tarw'n penderfynu dianc a'r gynulleidfa yn gofod codi a rhedeg i lechu y tu ôl i'r cerbyd agosa nes bo'r gwarchodwyr yn cael gafael ar y rhaff sydd am wddf yr anifail ac weithiau gael eu llusgo cyn cael rheolaeth arno.
Wedi treio'r platform a gweld ei fod yn saff, maent yn eu gwneud eu hunain yn ddiogel trwy gloi'r rhaff am un goes a rhoi un tro arall iddo rownd eu canol.
Maent yn penderfynu y tro hwn i gael twll ar ganol y graig; felly mae'r ddau dyllwr yn mynd i ben y graig hefo dwy raff fawr, ac yn eu rhoi'n sownd ar y top hefo cerrig, wedyn mae un o'r dynion yn mynd i lawr y graig ar hyd a rhaff i'r lle y maent wedi bwriadu tyllu, ac yn gwneud dau dwll bach yn y graig rhyw lathen oddi wrth ei gilydd.
Gynted ag yr oeddent wedi clymu'r rhaff, i ffwrdd â nhw ar draws gwlad am ffin Ffrainc, gan fwriadu dal i fynd ddydd a nos nes cyrraedd adref.
Heb edrych ar ei wyneb e, fe dynnes fy nghylleth boced allan, roedd wastad awch fel raser ar honno gen i, a chydag un ergyd mi dorres y rhaff.
Dyma Jim ar ei hyd ar y llawr, y rhaff yn cordeddu o gwmpas ei gorff a'r glo'n glachdar ar hyd yr iard.
Ag yntau yn hogyn fferm roedd ganddo nifer o gelfi ffermio cynnar i ennyn diddordeb y plant a bu'r plant yn ddiwyd yn creu rhaff wair.
Dyna lle maent yn hongian ar y rhaff, ac yn rhoi'r trosol o dan y cerrig rhyddion hyn a'u bwrw i lawr.
Cyn gollwng y rhaff i'r pydew dyna fo'n taflu hen garpiau a hen fudr fratiau i lawr ac yn dweud wrth Jeremiah am roi'r rheiny o dan 'i geseiliau rhag i'r rhaff 'i frifo fo wrth 'i godi.
Cymerwch ofal." Clymodd Douglas y rhaff o ddillad yn sownd wrth un o goesau ei wely pan oedd pob man yn dawel y noson honno.
Caiff Wil un arall, a hithau'n feichiog, 'wedi ymgrogi a rhaff wrth ganghen derwen fawr'.
Meddyliwch am y rhaff hir wedi ei hel yn belen braidd yn flêr ac fe gewch ddarlun digon teg.
Erbyn brecwast roedd e fel dyn yn cerdded ar draws rhaff uchel: 'i ddiwedd gerllaw ar y dde ac ar yr aswy.
Ni byddai na rhaff o gylch ei chorff na gefynnau am ei choesau yn ddim ond moddion iddi ddangos ei champau.