Nid ffrwyth edrych ym myw llygaid cyfanrwydd y ffeithiau hanesyddol yw'r damcaniaethau hynny, ond gwneud gosodiadau cyffredinol ar sail ffeithiau a ddetholwyd yng ngoleuni rhagdybiau athronyddol digon hysbys.
Y mae rhagdybiau ein meddwl a'n gweithredu'n ysgogiadau sylfaenol iawn oherwydd y maent yn gwreiddio yn ngogwydd y galon, yng nghraidd y bersonoliaeth.
Mae'r hen syniad nad oes rhagdybiau gan y gwyddonydd pur bellach wedi ei fwrw o'r neilltu.
Nid yn unig y mae rhagdybiau ffydd ar waith ond hefyd rhagdybiau cymdeithasol, economaidd a seicolegol.
Os ydym i gyfannu'r rhwyg, mae'n amlwg fod yn rhaid ail-edrych ar y rhagdybiau.
Ar ryw olwg nid yw llenyddiaeth sy'n siglo cyfforddusrwydd rhagdybiau'r darllenwyr yn mynd i gael croeso twymgalon.
Mae'r dehongliad o hanes yn gyfoes, o raid, am mai'n rhagdybiau ni sydd y tu ol iddo, ond nid yw hynny'n gwneud ddoe a heddiw'n un.