Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

rhagdybio

rhagdybio

Mae casglu ffeithiau pendant i adeiladu'r darlun yn rhagdybio fod y pethau hyn yn bendant, sicr a di-newid.

Mae hyn yn rhagdybio y gellir llwyddo i gael strategaeth ariannol tymor hir gan CCC i warantu'r cynlluniau hyn.

Mae'r tair lefel uchaf yn rhagdybio defnydd o'r ddwy sylfaenol hyn ac yn eu cwmpasu.

Y mae'r angen am iawn yn rhagdybio rhyw gam a wnaed rhwng dau, a rhyw ddieithrwch neu elyniaeth wedi tyfu rhyngddynt.

Bydd rhaid i'r ail fuddsoddi fod yn: a) gyflym - i sicrhau gwirddewis; b) ddoeth/gofalus - gan na ellir rhagdybio beth fydd dewis-batrymau'r defnyddiwr yn y dyfodol; c) yn eofn, - er mwyn magu hyder.

Y mae'r syniad am aberth yn rhagdybio y gall dyn gael cymundeb perffaith â Duw yn unig drwy aberthu bywyd.