Dywed y Ferf hithau am yr Enw (neu'r rhagenw).
Adferf yw yma yn ôl ei brif swyddogaeth ond aethpwyd i'w gyfuno â'r fannod yn swyddogaeth ansoddair dangosol didoledig, y ...yma, mewn dynwarediad o'r gwir ddangosolion hwn, hon etc., a all weithredu yn swydd rhagenw dangosol neu fel ansoddair dangosol didoledig mewn cydweithrediad â'r fannod.