Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

rhagfarn

rhagfarn

Heddiw rhaid inni ddeall fod rhagfarn wrth-Gymreig y blaid Lafur mewn rhai rhannau o Gymru-Morgannwg Ganol, er enghraifft - yn deyrnged uniongyrchol i'n cynnydd ni, gan fod rhaid i Lafur ystyried cenedlaetholdeb Cymreig fel gelyn gwleidyddol o'r radd flaenaf.

Yr argraff a geir yw rhagfarn ffroenuchel un dosbarth yn edrych i lawr ar y llall.

Gobeithio mai rhagfarn yw hyn ar eu rhan.

Anodd esbonio rhagfarn (heb sôn am ddirmyg a chasineb) amryw o'r swyddogion a'r milwyr at yr Eidalwyr.

Ynghlwm wrth y rhagrith y mae rhagfarn, y rhagfarnau sy'n perthyn i'r praidd.

Ceir enghreifftiau ddigon ganddo o'r modd yr anwybyddwyd ef a'i gynulleidfa a'i fudiad oherwydd culni a rhagfarn, ac fel y gwrthodai cylchgronau enwadol eraill roi gofod i hysbysebu cyfarfodydd a syniadau, heb sôn am gyfle i amddiffyn safbwynt a chael chwarae teg mewn dadl.

Ond, gyda'r ifanc yn ymddwyn fel yr hŷn, does dim gobaith; bydd rhagfarn a rhagrith yn dal i deyrnasu, a hynny'n oes oesoedd.

Heb unrhyw amheuaeth, yr oedd y Rhyfel yn grwsâd yn erbyn rhuthr y gwrth Dduw Natsi%aidd, a gelyn rhyddid, ond ymofidiodd am fod canlyniadau'r Rhyfel, sef casineb, rhagfarn, bydolrwydd, anobaith, colli ffydd yn Nuw a dyn, pylu'r ddeddf foesol a diystyru'r ysbrydol ar gynnydd.

Rhagfarn yn erbyn ieithoedd estronol ar ran cymaint o bersonau uniaith Saesneg yw'r prif reswm.

Er mor wrthun yw rhagfarn fel hon ni allaf feddwl am unrhyw reswm arall.

Mynnai'r hoywon eu hawl i fyw mewn cymdeithas, heb ofni rhagfarn na sarhad, a dathlodd y fenyw ei rhyddid newydd.

Gellir dadlau, mae'n wir, fod ei charedigion wedi sicrhau mynediad iddi i ysgolion y wladwriaeth drwy gynllunio strategaeth ac ymarfer tactegau cyfrwys i drechu'r rhagfarn na fynnai weld yr iaith ond fel gwreiddyn stwbwrn '...' .