Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

rhagluniaeth

rhagluniaeth

Ac y mae Rhagluniaeth yn gwasanaethu gras.

"'Fyddi di ddim yn teimlo weithia y buasai'n dda gen ti petasai Rhagluniaeth wedi gadael llonydd iti yn dy stad gyntefig - i fwynhau dy hun wrth dy gynffon ar frigau'r coed?" "Cynffon!

Credai ef mai gweithred o eiddo rhagluniaeth oedd y Diwygiad Protestannaidd ­ edrychai ar Eglwys Loegr fel adran o'r wir eglwys, a bu'n locs iddo ddarganfod fod Newman mor feirniadol o'r Diwygiad â Hurrell Froude.

(Mae ei ysgrif Saesneg ar Digs yn y gyfrol ryfeddol honno College by the Sea yn gofnod hynod.) Rhagluniaeth a'i bwriodd ef ac Idwal Jones at ei gilydd i'r un llety yn y dyddiau hynny.

Ofnwn fod Rhagluniaeth wedi dweud yn eglur nad oeddwn i fynd i'r coleg, ac os felly ei bod yn dweud ychwaneg sef nad oeddwn i bregethu; oblegid dywedasai Abel wrthyf fwy nag unwaith na ddylai un gŵr ieuanc yn y dyddiau goleuedig hyn feddwl am y weinidogaeth os nad oedd yn penderfynu treulio rhai blynyddoedd yn yr athrofa; a thybiwn y pryd hynny fod yn amhosibl ymron i Abel gyfeiliorni mewn barn.

Bwriadasai lunio hanes y byd drwy'r oesoedd; ac er taw dim ond un gyfrol a gwblhaodd, ysgrifennodd ddigon i amlygu perthynas fythol ir dwy hen egwyddor, llywodraeth Rhagluniaeth ac awdurdod yr Ysgrythur.

Daeth yr alwad, a chredais mai dyna arweiniad cyfrin Rhagluniaeth; ac nid oes gennyf le i amau tiriondeb ei llaw na diddosrwydd ei haden.

Y mae dyn erioed wedi dymuno ennyn bendith y duwiau, ymatal rhag herio ffawd a rhagluniaeth ('Fe ddof yfory, os byw ac iach...' ) Mae'n awyddus i ennill lwc dda a chael bod yn ffortunus neu'n ffodus mewn bywyd (ansoddair sy'n tarddu o'r gair 'ffawd').

Mae Rhagluniaeth yn awr yn eu dysgu trwy brofiad peth mor chwerw yw bod "heb obaith ac heb Dduw yn y byd".