Ar un gwastad mae fel petai (a rhagofal yw'r 'petai' hwn) ef yn dweud fod yr hyn a fu rhyngddo ef a'r ferch - y chwerthin, y tristau a'r tewi, y distawrwydd, yr 'awel wynt', 'cnawd dy law' - fod hyn i gyd yn parhau i fod yn y man lle buont ar ryw fis Medi flynyddoedd lawer yn ol.