Eto gellir tybied y rhagorai rhai ohonynt ar eraill yn y grefft o bedoli; meddyliaf am David Evans Tregaron, John Jones Tynreithyn, Ellis Edwards Ystrad Meurig, Ben Lewis Aberystwyth, a Griffith Jenkins Cribyn (yr hwn a enillodd am bedoli yn y Sioe Frenhinol).
Ym Mabinogi Manawydan mae crefftwyr eiddigeddus yn bwriadu lladd Manawydan a Phryderi ac yn y Vita Cadoci fe geir hanes adeiladydd o Wyddel y rhagorai ei waith ar waith y crefftwyr eraill a gyflogid gan Gadog gymaint nes iddynt ei ladd.