Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

rhagori

rhagori

Ystyrid yr iaith ymerodrol fel un a oedd yn rhagori ar yr ieithoedd lleiafrif.

Fe gafwyd adlais o'r hen Gastell Nedd ddoe, y pum blaen yn rhagori yn yr agweddau tynn ac yn cyfrannu tipyn yn y chwarae rhydd.

Yr oedd awdl Hedd Wyn yn tra rhagori arni, a bu llawer o feio ar John Morris-Jones a Berw am y camddyfarnu.

Mewn cystadleuaeth wan ni chafodd Isaled, Cynddylan a Hawen ond pedair pryddest i'w beirniadu a phenderfynwyd mai Glanffrwd oedd wedi rhagori ar lapio'r hen gysuron o gwmpas yr iaith.

Bron na fyddwn i'n dweud fod perfformiadau byw Chouchen yn rhagori ar yr hyn sydd i'w glywed ar eu crynoddisgiau, a fedr hynny ond bod o'u plaid nhw.

I mi, 'roedd rhaglen Huw Geraint, "Mil o Alwadau% yn rhagori gan ei bod wedi dangos llawer mwy o waith beunyddiol mil-feddyg.

Os yw'n wir fod nofelau Daniel Owen yn tra rhagori ar waith y mwyafrif mewn amrywiol ffyrdd, fel y dangosodd lliaws o feirniaid erbyn hyn, mae'n rhesymol tybio na fyddai'r nofelydd o'r Wyddgrug yn fodlon ar atgynhyrchu na dulliau llenyddol nac agweddau cyfarwydd ei gyfnod.

Ym maes serch a charu y mae Menna'n rhagori fel y gwelir yn y cerddi Croen ac Asgwrn, Y Galon Goch, Ffynnon a Dim ond Camedd.

Mentrwn innau awgrymu fod Elphin yn yr wyth soned hyn, os nad yw'n cyrraedd uchelderau De Musset a Novalis, ac er gwaethaf ei adfeiliaeth ber-bydredig fin de siecle, wedi cyrraedd lefel o orffennedd deallus sy'n tra-rhagori ar lawer o feirdd y ganrif ddiwethaf a gyfrifir rywsut yn haeddiannol o'n sylw.

Machno Humphreys, ac 'roedd pryddest Dyfnallt yn tra-rhagori arni.

Ond sut y gellir rhagori ar gyfuniad Val Viola, y cwm yn ei ben draw, o dyrau Gothig uchel, o feysydd eira dilychwin pell, o laslyn a fforest a phorfa?

Pryddest gofiannol, rigymaidd a geir gan R. Machno Humphreys, ac 'roedd pryddest Dyfnallt yn tra-rhagori arni.

Pe byddech am greu uffern i rywun, byddain amhosib rhagori ar yr awr a dreulais i yn Y Fenni - achos hyd yn oed pan oedd saib yr oeddech ar bigaur drain yn disgwyl i'r uchelseinydd ffrwydro eto gydai negeseuon diddiwedd.

Byddai rhai gweinidogion yn rhagori efo plant.

Daliaf i fod y math o Gymreictod a'r math o Ewropeaeth a fynegir yma gan Gruffydd yn rhagori ar y fersiynau a arddelid gan Saunders Lewis yn ystod blynyddoedd enbyd ac argyfyngus yr Ail Ryfel Byd.