Y mae ymgyrch y Gymdeithas yn erbyn gorthrwm Saesneg y llysoedd cyfraith a holl gyndynrwydd y barnwyr a'r plismyn i gadw braint a rhagoriaeth iaith y Ddeddf Uno yn deffro anesmwythyd ar feinciau ynadon.
Ceir enghraifft o hynny yn ymdrech rodresgar Syr John i arddangos rhagoriaeth ei dras.
Eu nod hwy oedd amddiffyn Cristionogaeth yn erbyn ymosodiadau paganiaid ac arddangos rhagoriaeth ddeallusol ac athronyddol ei dysgeidiaeth a'i safon foesol uwch.
Roedd y cyfanswm ceisiau, 5 - 2 i Gymru, yn adlewyrchiad teg ou rhagoriaeth.
Ond dyna fo, rhagoriaeth y Sais yw hynny, fel y gwelwyd ddydd Sul.
Eglurodd fod i Feirdd Ynys Prydain gynt bedair Cadair - Gwynedd, Powys a Dyfed a Morgannwg - ac er mwyn pwysleisio rhagoriaeth hanesyddol Morgannwg a'i statws unigryw ef ei hunan honnai'n gyson mai Cadair Farddol Morgannwg yn unig oedd wedi goroesi i'w gyfnod ef.
Efallai fod perfformiad disgyblion ag AAA yn gymharol isel o'i gymharu â'r cyfartaledd cenedlaethol ond eto gall eu cyrhaeddiad fod yn uchel mewn perthynas â'u galluoedd gan adlewyrchu rhagoriaeth mewn perthynas â'r hyn y gellir yn rhesymol ei ddisgwyl ganddynt.