I chi a mi heddiw mae'n ddrama hen ffasiwn iawn, yn llawn cymeriadau stoc, ond nid yw heb ei rhinweddau, a'r peth pwysicaf yn ei chylch yw ei bod yn llawn beirniadaeth gymdeithasol ar draha landlordiaid, rhagrith rhai crefyddwyr a pharchusrwydd cyfoglyd y dosbarth canol Cymreig newydd.
Yn ogystal â bod yn rhagrith, yr oedd pregethu athrawiaeth yn aneffeithiol ac yr oedd hyn o'r pwys mwyaf i w^r a gredai nad oedd dyletswydd arall gan y pregethwr ond achub eneidiau: "Pregethu yr efengyl yw y peth gwerthfawrocaf yn y byd, y tu hwnt i bob cydmariaeth; a hyny sydd am mai ordeiniad Duw ydyw, trwy'r hon y casgl ei bobl o fysg y cenheloedd".
Rhagrith Yr ail wedd ar y duedd yma i 'feddwl yn gam' yw RHAGRITH.
Ar ddechrau'r chwyldro, cafodd aelodau eglwysig eu herlid, yn rhannol oherwydd eu ceidwadaeth a'u rhagrith honedig, ond hefyd gan eu bod wedi rhoi lloches i wrthwynebwyr y chwyldro yn eu haddoldai.
Ynghlwm wrth y rhagrith y mae rhagfarn, y rhagfarnau sy'n perthyn i'r praidd.
Yr oedd yr amheuon a oedd Hughes, yn ddiau, yn dechrau teimlo am effeithioldeb y drefn hon i gau allan rhagrith o'r pulpud anghydffurfiol, wedi'u tawelu rhywfaint yn ddiweddar gan achos diarddel Edward Roberts gan y Methodistiaid.
Mewn llythyr at Nick Bourne AC (Arweinydd y Ceidwadwyr yn y Cynulliad) mae Cymdeithas yr Iaith wedi galw ar y Torïaid i atal eu rhagrith o roi cefnogaeth mewn geiriau i ysgolion gwledig tra bod eu polisïau yn eu tanseilio.
Ond, gyda'r ifanc yn ymddwyn fel yr hŷn, does dim gobaith; bydd rhagfarn a rhagrith yn dal i deyrnasu, a hynny'n oes oesoedd.
Nid wyf yn honni bod y sefyllfa yn hollol yr un fath yng Nghymru ag yn Lloegr, ond y mae'n amlwg, serch hynny, fod ysgrifenwyr Cymru hwythau, er gwaethaf eu 'culni' a'u 'rhagrith', yn gwbl barod i drafod problemau rhywiol.
Os nad oedd eu teimladau tuag at Heledd yn ddigon i'w hatal rhag ei thrin hi fel y gwnaethon nhw yn y lle cyntaf, yna rhagrith fyddai hi iddyn nhw ymddwyn fel petai canlyniad eu hamddygiad yn mennu llawer arnyn nhw nawr." "Rwyt ti'n siarad yn ysgubol iawn - bron fel petaen nhw wedi cynllunio'r peth mewn gwaed oer." "O, mi wn i; siarad yn fy nghyfer roeddwn i.
I Rufain yr â yn gyntaf ond rhagrith sy'n ei ddisgwyl yma hefyd.
'Roedd Rhamantiaeth y beirdd hefyd yn ei ffordd yn brotest yn erbyn y pryddestau diwinyddol, gyda'u disgrifiadau o harddwch corfforol merch yn enghraifft o rywioldeb yn dechrau treiddio drwy ffug-barchusrwydd a rhagrith crefyddol y cyfnod Fictoriaidd yng Nghymru.
Ac wele'r Quango Iaith yn gwneud gwaith brwnt y Torïaid yng Nghymru (sef holl bwynt sefydlu Quangos os na allwch ennill grym trwy etholiadau), yn lledu twyll a rhagrith fel wna'r WDA, Tai Cymru, yr Ymddiriedolaethau Iechyd, yr Ysgolion sydd wedi eithrio a'r Swyddfa Gymreig ei hun, yr Arch Quango.
Ond seguryd, difaterwch, rhagrith, a ffugsancteiddrwydd, ni allai eu goddef o gwbl.